Rydym yn angerddol ynghylch grymuso ein haelodau i’w helpu i godi ymwybyddiaeth a gweithredu’n uniongyrchol dros ddyfodol mwy cynaliadwy yn PCyDDS a thu hwnt. Mae ein tudalen we ar gynaladwyedd yn ddathliad o’u gwaith caled a’r buddion i’r amgylchedd.
Rydyn ni wedi ennill gwobr! - Rydyn ni wrth ein bodd yn dweud bod gwaith caled ein haelodau a'n tîm wedi'i gydnabod! Rydyn ni wedi cael dyfarniad Da Iawn a’n cydnabod fel Undeb Myfyrwyr sydd wedi Gwella Fwyaf ar gyfer 2023/24 gan fudiad Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd (SOS).
Maen nhw’n dweud bod llun yn werth mil o eiriau – felly yn hytrach na mynd ymlaen ac ymlaen, rydyn ni wedi llunio albwm i ddangos gwaith caled ein myfyrwyr.