Cyngor

Gwasanaeth Cynghori

Am ddim, Annibynnol, Cyfrinachol - ac wedi'i gynnal gan eich Undeb Myfyrwyr

Mae ein Gwasanaeth Cynghori am ddim; mae’n annibynnol ac yn gyfrinachol.  Ein nod yw eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi trwy eich helpu gyda phrosesau brifysgol, ynghyd â dod o hyd i'r gefnogaeth gywir.

Rydym yn arbenigo mewn darparu cyngor academaidd a chymorth ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol ac Ymyrraeth ar Astudiaethau, Graddau ac Apeliadau Academaidd, Codi Pryderon a Chwynion, yn ogystal â Chamymddwyn Academaidd, Addasrwydd i Ymarfer, Camymddwyn Anacademaidd a Chymorth i Astudio.

Mynnu cyngor

Our advice service is currently  

Mae'r tîm cynghori ar gael rhwng 09:00 a 17:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Er mwyn ein helpu ni i'ch helpu cyn gynted â phosibl, dylech gwblhau ein ffurflen ymholiadau ar-lein am gyngor neu gallwch anfon e-bost at y Tîm Cynghori yn unionadvice@uwtsd.ac.uk.

Ffurflen Ymholiadau CynghoriPolisi Gwasanaeth Cynghori

Hyb Cyngor Academaidd

Mae ein gwasanaeth cynghori’n arbenigo mewn darparu cyngor a chymorth academaidd, ac isod mae ein Hyb Cyngor Academaidd, sy’n rhoi mynediad hawdd i chi at wybodaeth fanwl ac adnoddau defnyddiol.

Angen ychydig o help o hyd?

Rydyn ni yma i chi - os nad ydych chi wedi gallu dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano neu angen ychydig mwy o help, anfonwch neges i'n Tîm Cynghori yn unionadvice@uwtsd.ac.uk.

Dewch i Gwrdd â'r Tîm Cyngor

Dyma nhw'r bobl sy'n perthyn i'ch Tîm Cyngor - gallwch gysylltu â nhw trwy e-bost yn unionadvice@uwtsd.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu'n ôl â chi.

Portrait of Sophie

Sophie Kitsell

Rheolwr Cynghori Myfyrwyr

Portrait of Alice

Alice McGovern

Ymgynghorydd Myfyrwyr

Portrait of Sydney

Sydney Radford

Ymgynghorydd Myfyrwyr