Stylised logo with text that reads "will you lead us"

Etholiadau Myfyrwyr

Rydym yn elusen dan arweiniad myfyrwyr, ac mae gennym ni lwyth o rolau i'n helpu i rymuso ein cymunedau myfyrwyr - o Lywyddion Undeb Llawn-amser (cyflogedig) i Swyddogion Rhan-amser (gwirfoddol), i Fyfyrwyr Ymddiriedolwyr, a Chadeirydd yr Undeb - mae pob un o'r rolau hyn yn cyfrannu at ein gwaith.

Fel myfyriwr, gallwch enwebu eich hun ar gyfer rôl, dod yn ymgeisydd, a sefyll yn ein hetholiadau - gyda phob myfyriwr yn cael cyfle i bleidleisio. Mae rhestr isod o bob rôl y gall myfyrwyr enwebu eu hunain ar eu cyfer.

Ein rolau - ydych chi am ein harwain?

Llywyddion yr Undeb
  • Llawn-Amser
  • Cyflogedig
  • 4 Swydd 

Ein Llywyddion (Swyddogion Sabothol) sy’n arwain yr Undeb o ddydd i ddydd. Mae gennym bedair swydd - 1 x Llywydd y Grŵp sy'n agored i bob myfyriwr, a 3 x Llywydd Campws sy’n agored i fyfyrwyr Abertawe, Llundain, Birmingham, Caerdydd, a Chaerfyrddin. Dylech sefyll ar gyfer y swyddi hyn os oes gennych chi syniadau a brwdfrydedd, a’ch bod yn barod i ymgymryd â chynrychiolaeth myfyrwyr fel swydd lawn-amser am flwyddyn.

  • Llywydd y Grŵp
  • Llywydd Birmingham a Llundain
  • Llywydd Caerdydd ac Abertawe
  • Llywydd Caerfyddin

Gyda'i gilydd, mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad i dîm staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Ystyrir y Swyddogion Sabothol yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr gan y Brifysgol ac maent yn cyflwyno syniadau, problemau a barn myfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau trwy gymryd rhan mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau o fewn y Brifysgol.

Y Swyddogion Sabothol sy’n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnyn nhw, a gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gwybod beth yw pwrpas eu Hundeb, a sut y gallant gysylltu. Mae’r Swyddogion Sabothol yn gwasanaethu'n awtomatig fel ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeiswyr ddarllen yr adran Myfyrwyr Ymddiriedolwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys.

Mae’r canlynol ymhlith cyfrifoldebau pob Swyddog Sabothol...

  • Gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo gwerthoedd a chennad Undeb y Myfyrwyr, ac sydd ddim yn dwyn anfri ar yr Undeb.
  • Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
  • Cyfranogi'n llawn yng nghylchred pwyllgorau'r Brifysgol trwy fynychu cyfarfodydd pwyllgorau, grwpiau a byrddau dynodedig, yn ogystal â chynrychioli buddiannau myfyrwyr UMyDDS.
  • Sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu'n unol â'r cyfansoddiad a'i is-ddeddfau.
  • Gweithredu'n dryloyw, darparu myfyrwyr â'r diweddaraf trwy erthyglau, blogiau a dulliau eraill o gyfathrebu fel yr ystyrir iddynt fod yn briodol. 
  • Deall sut mae materion polisi Addysg Uwch yn effeithio ar fyfyrwyr y presennol a'r dyfodol, rhannu gwybodaeth a chyd-drefnu myfyrwyr i weithredu er eu budd eu hunain.
  • Annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n cryfhau llais y myfyrwyr, yn gwella eu profiad yn y Brifysgol, ac sy’n datblygu eu sgiliau a/neu'n creu cymuned fywiog a deniadol.
  • Gweithredu fel 'Ymddiriedolwr Sabothol' ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMyDDS yn unol ag Erthyglau 24-50 y Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad.
  • Hyrwyddo polisïau craidd yr Undeb, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
  • Gwella cyfranogiad myfyrwyr ym mhob agwedd o brosesau, strwythurau a gweithgareddau'r Undeb.
  • Gweithio fel tîm i gryfhau a hyrwyddo amcanion Undeb y Myfyrwyr

Mae cyfrifoldebau Llywyddion y Campysau'n cynnwys...

  • Goruchwylio'r ddarpariaeth o weithgareddau a chyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr a datblygu'r ystod o weithgareddau a chyfleusterau sydd ar gael ar bob campws.
  • Datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi'n lleol mewn gweithgareddau a gwirfoddoli.
  • Cynorthwyo â datblygiad system gynrychiolaeth y myfyrwyr a darparu cyngor, arweiniad a chymorth i Gynrychiolwyr Cwrs a Chyfadran fel bo angen.
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr ynghylch materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.
  • Hyrwyddo a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol y Brifysgol.

Mae’r canlynol ymhlith cyfrifoldebau Llywydd y Grŵp...

  • Cynrychioli myfyrwyr ar gampysau Llundain, Birmingham a Chaerdydd a datblygu system gynrychiolaeth ar y campysau hynny sy'n gweithio ar gyfer anghenion y myfyrwyr hynny.
  • Cynnal cysylltiad â chynrychiolwyr yng ngholegau partner UMyDDS a, lle nad oes cynrychiolwyr, gweithio gyda swyddogion cydlynu myfyrwyr i sicrhau y caiff myfyrwyr ar gyrsiau PCyDDS eu cynrychioli'n effeithiol.
  • Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr yng Nghyngor y Brifysgol a Senedd y Brifysgol.
  • Cadeirio'r Pwyllgor Gwaith a rhoi cymorth i Lywyddion y Campysau yn eu gwaith.
  • Mynychu cyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn ogystal ag adrodd yn ôl iddynt.
  • Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac yn hybu cydlyniad cymunedol.
  • Mynychu cyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws perthnasol, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac adrodd yn ôl iddynt.
Swyddog Rhan-amser
  • Rhan-amser 
  • Gwirfoddol

Mae yna bum rôl ar bob un o’n campysau – mae hynny’n gyfanswm o bump-ar-hugain (5 ym Mirmingham, 5 yng Nghaerdydd... a.y.b.) Mae gan bob campws ei dîm unigryw ei hun o swyddogion. Mae'r rôlau hyn yn cynrychioli naill ai demograffeg benodol o fyfyriwr neu faes diddordeb.

Dylech sefyll i fod yn swyddog rhan amser os ydych yn frwd am un o'r rolau ac os oes gennych lawer o syniadau ynglŷn â sut gallwch ennyn diddordeb myfyrwyr, ymgyrchu dros newid neu wella bywyd myfyrwyr

Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, sy'n bodoli i sicrhau bod prosesau llunio penderfyniadau’r UM yn cynrychioli ein myfyrwyr ac i helpu i greu diwylliant bywiog a gweithredol ar y campws. Mae gan bob un o’n campysau yn Abertawe, Caerdydd, Birmingham, Llundain a Chaerfyrddin Gyngor Campws sy’n cynnwys y Swyddogion Rhan-amser sy’n perthyn i’r campws hwnnw. Mae Cyngor y Campws yn cwrdd unwaith y mis yn ystod y tymor i drafod a gweithredu syniadau myfyrwyr. Mae pob un o’r Cynghorau Campws yn cynnig y rolau canlynol ar gyfer etholiad.

Birmingham: 

  • Swyddog Amlddiwyllianno
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Swyddog Rhyddhad y Menywod
  • Swyddog Gwirfoddoli a RAG

Caerdydd:

  • Swyddog yr Iaith Gynraeg
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog LHDT+
  • Swyddog Amlddiwylliannol
  • Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Caerfyrddin:

  • Swyddog yr Iaith Gynraeg
  • Swyddog Hunaniaeth Ryweddol
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog Moeseg a’r Amgylchedd
  • Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Llundain:

  • Swyddog Amlddiwylliannol
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau
  • Swyddog LHDT+

Abertawe:

  • Swyddog yr Iaith Gynraeg
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog Amlddiwylliannol
  • Swyddog Moeseg a’r Amgylchedd
  • Swyddog Rhyddhad y Menywod

Beth mae hyn yn ei olygu?

Swyddog Moeseg a’r Amgylchedd : Mae’r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo materion moesegol ac amgylcheddol, ochr-yn-ochr â chynaliadwyedd, yn ogystal ag ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgarwch cynaliadwy, ac ymgyrchu dros Brifysgol a chymuned ehangach fwy moesegol, ecogyfeillgar a chynaliadwy.   

Swyddog Hunaniaeth Ryweddol : Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Traws, hyrwyddo materion Traws a chynnig cymorth i fyfyrwyr Traws. Mae'r rôl hon hefyd yn bodoli i gynrychioli myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio fel dynion traws, menywod traws, traws anneuaidd, anneuaidd, a hunaniaethau rhywedd-cwïar eraill.   

Swyddog Rhyngwladol : Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Rhyngwladol, gan geisio gwella profiad o fod yn fyfyrwyr rhyngwladol a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. Mae gan y rôl gyfle i hwyluso sgyrsiau am ddiwylliant a chymuned, yn ogystal â gweithio i sicrhau bod holl fyfyrwyr PCyDDS yn cael eu cynnwys, yn enwedig y rhai sydd ymhell o gartref.   

Swyddog LHDT+ :Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cefnogaeth i fyfyrwyr LHDT+. Mae gan y rôl y cyfle i hwyluso sgyrsiau a digwyddiadau o natur gynhwysol, a gall gydweithio â swyddogion sabothol i lobïo am newid.   

Swyddog Amlddiwylliannol :Mae’r rôl hon yn bodoli i gynrychioli buddiannau myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth gyfartal, ac mae’n gweithio i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Mae'r rôl yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac mae’n gweithio i frwydro yn erbyn rhagfarnau.   

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau : Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr anabl, hyrwyddo materion perthnasol a chynnig cymorth i fyfyrwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer anableddau gweladwy ac anweledig, gan gynnwys anabledd corfforol, cyflyrau iechyd meddwl, salwch cronig, anableddau synhwyraidd, myfyrwyr niwroamrywiol, ac anawsterau/anableddau dysgu.  

Swyddog Gwirfoddoli a RAG:Mae'r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo, hwyluso ac ymwneud ag unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli posibl y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt, yn ogystal â chefnogi unrhyw waith RAG (codi a rhoi) y gallai myfyrwyr ddymuno ei wneud ar eu campws.   

Swyddog Llesiant :Mae’r rôl hon yn bodoli i gynrychioli anghenion a phryderon myfyrwyr mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant cyffredinol, eirioli dros wasanaethau a mentrau gwell, yn ogystal ag atgyfeirio at wasanaethau sy’n bodoli eisoes lle bo’n briodol. Gall y rôl gydweithio â swyddogion sabothol i lobïo am newid.  

Swyddog y Gymraeg :Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Gall y rôl godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo buddiannau’r myfyrwyr y maent yn eu cynrychioli; gall lobïo dros newid ar draws y brifysgol, gall gynllunio a chynnal ymgyrchoedd, yn ogystal â chreu a hwyluso digwyddiadau cynhwysol sy’n arddangos yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.  

Swyddog y Menywod: Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau menywod, hyrwyddo materion menywod a chynnig cymorth i fyfyrwragedd. Gall y rôl gynrychioli ac ymgyrchu ar faterion sy'n effeithio ar fenywod a gall gydweithio â swyddogion sabothol i lobïo am newid.   

Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Rhan-amser 
  • Gwirfoddol

Mae Ymddiriedolwyr yn eistedd ar ein bwrdd; nhw sy’n gwneud y penderfyniadau terfynol, ac maent yn gyfrifol am ein llwyddiant. Dyma ein lefel uchaf o reolaeth a llywodraethiant.

Dylech sefyll i fod yn fyfyriwr ymddiriedolwr os oes gennych chi ddiddordeb yn y ffordd mae mudiadau'n gwneud penderfyniadau, os ydych yn awyddus i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithio er budd myfyrwyr PCyDDS, ac os ydych am helpu i lywio strategaeth y mudiad a'i gyfeiriad yn y dyfodol.

Rolau gwirfoddol yw’r rhain, er bod treuliau ar gael i alluogi ymddiriedolwyr i fynychu cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn helpu i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg er budd gorau myfyrwyr PCyDDS trwy graffu ar berfformiad a sicrhau bod yr Undeb yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn cael ei redeg mewn ffordd sy’n ariannol gynaliadwy.

Mae gan yr ymddiriedolwyr reolaeth gyfreithiol dros y mudiad ac maent yn bersonol gyfrifol amdano. 

Caiff proses sefydlu, yn ogystal â hyfforddiant sgiliau ar gyfer bod yn ymddiriedolwr, eu trefnu i bawb a etholir. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn (10am - 3pm fel arfer) a dyrennir is-bwyllgor i bob Ymddiriedolwr hefyd, sy'n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn (fel arfer am 90 munud y tro).

I fod yn gymwys i fod yn Ymddiriedolwr:

  • Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i fod yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr
  • Ni chewch weithredu fel ymddiriedolwr os ydych wedi cael eich diarddel dan y Ddeddf Elusennau Mae hyn yn cynnwys:
  • Os ydych wedi cael eich diarddel fel cyfarwyddwr cwmni
  • Os oes euogfarn yn eich erbyn am drosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd neu dwyll
  • Os ydych yn fethdalwr (neu'n destun atafaeliad yn yr Alban), neu os oes gennych chi drefniant cyfredol (IVA) ar gyfer ad-dalu eich credydwyr
  • Os ydych wedi cael eich diarddel fel ymddiriedolwr unrhyw elusen gan y comisiwn (neu'r llys) oherwydd camymddygiad neu gamweinyddu
Cadeirydd yr Undeb
  • Rhan-amser 
  • Gwirfoddol

Mae Cadeirydd yr Undeb yn rhoi cyfeiriad yn ystod trafodaethau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Cynghorau Undeb, a fforymau trafod myfyrwyr eraill.

Agored i bob myfyriwr. Mae Cadeirydd yr Undeb yn rhoi cyfeiriad yn ystod trafodaethau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Cynghorau Undeb, a fforymau trafod myfyrwyr eraill. Maen nhw’n sicrhau bod trafodaethau’n deg a chytbwys, fel bod pob myfyriwr yn cael ei glywed.

Dylech chi sefyll am y rôl hon os nad ydych chi'n swyddog neu'n ymddiriedolwr yn Undeb y Myfyrwyr ar hyn o bryd, os oes diddordeb gennych chi yng ngwaith Undeb y Myfyrwyr ac os ydych chi'n awyddus i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu er buddiannau gorau ei aelodau. Cewch hyfforddiant cadeirio cyfarfodydd os cewch eich ethol i'r rôl.

Rôl wirfoddol yw hon. Y Cadeirydd sy’n cadeirio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr a phob cyfarfod o Gyngor yr UM. Mae'r rôl yn bodoli i sicrhau bod y drafodaeth a’r ddadl mewn cyfarfodydd yn deg a chytbwys, a bod pawb yn cael cyfle teg i siarad a rhannu eu meddyliau a'u syniadau. Darperir hyfforddiant!

Egluro enwebiadau, pleidleisio a chanlyniadau

P'un a ydych chi’n brofiadol ym maes etholiadau neu mai dyma'r tro cyntaf i chi gymryd rhan, byddwn yn eich tywys chi trwy'r broses. Mae tri cham i’n hetholiadau myfyrwyr - enwebiadau, lle mae myfyrwyr yn dod o hyd i rôl y mae ganddynt ddiddordeb ynddi ac yn cyflwyno enwebiad i fod yn ymgeisydd - pleidleisio, lle mae myfyrwyr yn pleidleisio dros yr ymgeiswyr y maent am weld yn cael eu hethol i'r rôl - a’r canlyniadau, lle rydym yn cyhoeddi’r rhai sydd wedi cael eu hethol. Defnyddiwch y tabiau isod i weld manylion pob un o’r camau hyn. 

Sut mae Enwebiadau'n Gweithio

Mae enwebiadau’n gyfnod o amser pan all myfyrwyr gyflwyno enwebiad i fod yn ymgeisydd yn ein hetholiadau myfyrwyr. Rydyn ni'n rhoi gwybod i'n haelodau pan fydd enwebiadau ar agor trwy gyhoeddi ein Hysbysiad Enwebiadau.

Darllenwch yr Hysbysiad Etholiadol

Edrychwch ar ein Hysbysiad Enwebiadau ar gyfer pob un o’r rolau agored, meini prawf cymhwyster, a therfynau amser.

Gwnewch Eich Enwebiad

Os ydych chi wedi gweld rôl y mae gennych chi ddiddordeb ynddi - bydd angen i chi wneud enwebiad i ddod yn ymgeisydd. Gallwch chi wneud hyn ar ein Hysbysiad Enwebiadau. Sylwch fod yna derfynau amser a meini prawf cymhwysedd i'w bodloni - byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw eich enwebiad wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod trwy e-bost.  

Argymell Ffrind

Os ydych chi'n adnabod rhywun rydych chi'n meddwl byddai'n berffaith ar gyfer un o'n rolau, gallwch chi roi gwybod i ni trwy lenwi ein ffurflen Argymell Ffrind trwy ein Hysbysiad Enwebiadau a byddwn yn estyn allan atynt. Pwysig - nid enwebiad yw hwn - bydd angen iddynt wneud hynny eu hunain.

Cyflwynwch Eich Maniffesto

Fel rhan o’r broses enwebu, gallwch gyflwyno maniffesto – mae hwn yn ddatganiad ysgrifenedig sy’n dweud wrth bleidleiswyr amdanoch chi a pham rydych chi’n iawn ar gyfer y rôl dan sylw. Peidiwch â gofidio os nad ydych chi'n awdur wrth reddf - edrychwch ar ein tudalen we Cyngor ar Ysgrifennu Maniffesto am arweiniad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch e-bost i elections@uwtsd.ac.uk

Sut mae Pleidleisio'n Gweithio

Gall pob myfyriwr yn PCyDDS bleidleisio yn ein hetholiadau myfyrwyr - byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd pleidleisio yn agor ac yn cau ar ein hysbysiad etholiadol - sydd hefyd yn cynnwys rhestr o ymgeiswyr. 

Dolen Bleidleisio

Ar ddiwrnod cyntaf y pleidleisio, byddwn yn anfon e-bost at bawb sy'n cynnwys dolen bleidleisio unigryw - peidiwch â'i rhannu ag unrhyw un arall! Gallwch hefyd bleidleisio trwy fynd i'r llwyfan pleidleisio ar-lein a mewngofnodi gyda'ch ID myfyriwr. Os nad ydych chi wedi derbyn e-bost pleidleisio neu os na allwch chi fewngofnodi i'r wefan, gyrrwch e-bost i elections@uwtsd.ac.uk.

Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Mae ein hetholiadau’n defnyddio'r system y bleidlais sengl drosglwyddadwy - sy'n eich galluogi i raddio ymgeiswyr yn nhrefn eich dewis. Gallwch raddio cymaint (neu gyn lleied) o ymgeiswyr ag y dymunwch - neu hyd yn oed bleidleisio i ailagor enwebiadau, sy'n ailgychwyn y broses etholiadol. I gael ei ethol, rhaid i ymgeisydd gael dros 50% o'r pleidleisiau - cyfeirir at hwn fel y cwota. Cynhelir y pleidleisio mewn rowndiau; os na fydd unrhyw un yn cyrraedd y cwota yn y rownd gyntaf, caiff yr ymgeisydd sydd wedi derbyn y nifer lleiaf o bleidleisiau ei fwrw allan, a rhennir eu pleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill ar sail dewis y pleidleiswyr – ailadroddir hyn nes bydd enillydd yn cael ei ddatgan. 

Canlyniadau'r Gorffennol

Dyma gofnod swyddogol o’n holl swyddogion myfyrwyr etholedig dros y blynyddoedd. Gallwch ddarganfod pwy gafodd eu hethol i ba rolau, ble oedd y rôl wedi'i lleoli, a'r dyddiad y cawsant eu hethol.

Chwiliwch trwy ein cronfa ddata

Defnyddiwch yr opsiynau isod i gadarnhau sut yr hoffech chi chwilio trwy ein cronfa ddata - gallwch chwilio yn ôl enw person, rôl, new campws.

Tabl o ganlyniadau'r gorffennol

Sweipiwch i weld mwy

Mae'r tabl hwn yn lletach na'ch sgrin. Sgroliwch neu sweipiwch yn llorweddol i weld y colofnau ychwanegol

Rôl Enw Campws Type (Data Only) Etholwyd Academic Year (Data Only)
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Leo Smith Caerfyrddin Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Katy Monk Caerfyrddin Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Rhyddhad y Menywod Caitlin Regola​ Llambed Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Myfyrwyr Croenddu Dorothy Apio Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Terry Box Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Cymdeithasau Rhys Jones Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Clybiau Chwaraeon Kieran Thomas Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog Cynaladwyedd Helena Cuciureanu Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Swyddog yr Iaith Gymraeg Amy Ryland-Jenkins​ Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Hydref 2024 2024/25
Cadeirydd yr Undeb Helena Cuciureanu Undeb Cadeirydd yr Undeb Hydref 2024 2024/25
Myfyriwr Ymddiriedolwr Bianca Moldovean Undeb Myfyriwr Ymddiriedolwr Hydref 2024 2024/25
Myfyriwr Ymddiriedolwr Kay Woodhouse Undeb Myfyriwr Ymddiriedolwr Hydref 2024 2024/25
Llywydd y Grŵp Maria Dinu Undeb Sabbatical Officer Mawrth 2024 2024/25
Llywydd Campws Caerfyrddin Lowri Wilson Caerfyrddin Sabbatical Officer Mawrth 2024 2024/25
Llywydd Campws Llambed Rhobyn Grant Llambed Sabbatical Officer Mawrth 2024 2024/25
Llywydd Campws Abertawe Natalie Beard Abertawe Sabbatical Officer Mawrth 2024 2024/25
Myfyriwr Ymddiriedolwr Alina Olaru Undeb Trustee Mawrth 2024 2024/25
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Elwyn Jones Llambed Swyddogion Rhan-Amser Mawrth 2024 2024/25
Swyddog Llesiant Joe Tobin Abertawe Swyddogion Rhan-Amser Mawrth 2024 2024/25
Cadeirydd yr Undeb Billie Payne Undeb Chairperson Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Natalie Beard Undeb Conference Delegate Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Bogdan Draghici Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Taya-George Gibbons Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Rhobyn Grant Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Billie Payne Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Redhwan Al-Amri Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Natalie Beard Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Taya-George Gibbons Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Caitlin Regola Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Gurinder Singh Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Dru Sutherland Undeb   Tachwedd 2023  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Yan Zhang Undeb   Tachwedd 2023  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Shite Li Llambed   Tachwedd 2023  
Swyddog y Cymdeithasau Narantsatsralt Ganbaatar Llambed   Tachwedd 2023  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Shaun Cheatle Llambed   Tachwedd 2023  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Nathan Topham Llambed   Tachwedd 2023  
Swyddog yr Iaith Gymraeg Elis Williams-Huw Llambed   Tachwedd 2023  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Lilly York Llambed   Tachwedd 2023  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Cai Howes Abertawe   Tachwedd 2023  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-radd Selena Wong Abertawe   Tachwedd 2023  
Swyddog Cynaladwyedd Helena Cuciureanu Abertawe   Tachwedd 2023  
Swyddog Llesiant Fan Wang Abertawe   Tachwedd 2023  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Shuwen Zeng Abertawe   Tachwedd 2023  
Llywydd Campws Llambed Lynda Peters Llambed   Mehefin 2023  
Llywydd y Grŵp Taya-George Gibbons Undeb   Mawrth 2023  
Llywydd Campws Caerfyrddin Lowri Wilson Caerfyrddin   Mawrth 2023  
Llywydd Campws Llambed Natasha Graham Llambed   Mawrth 2023  
Llywydd Campws Abertawe Natalie Beard Abertawe   Mawrth 2023  
Swyddog y Myfyrwyr Croenddu Lynda Peters Llambed   Mawrth 2023  
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Elwyn Jones Llambed   Mawrth 2023  
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol Yanfeng Wei Llambed   Mawrth 2023  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Liang Yuan Llambed   Mawrth 2023  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Faye Brightman Caerfyrddin   Tachwedd 2022  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Oliver Goulstone Caerfyrddin   Tachwedd 2022  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Cian Rhys Anderson Caerfyrddin   Tachwedd 2022  
Swyddog yr Iaith Gymraeg Heledd James Caerfyrddin   Tachwedd 2022  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Xaverna Black Llambed   Tachwedd 2022  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Susan Beer Abertawe   Tachwedd 2022  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Josh Todd Abertawe   Tachwedd 2022  
Myfyriwr Ymddiriedolwr Svetla Aleksandrova Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Bronwyn Caine Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Nikola Chakrakchiev Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Georgiana Serbanescu Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Mariana Golemanova Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Lily-Anne Clark Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Nikola Chakrakchiev Undeb   Tachwedd 2022  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Rahima Zafar Undeb   Tachwedd 2022  
Llywydd y Grŵp Vanessa Liverpool Undeb   Mawrth 2022  
Llywydd Campws Caerfyrddin Taya-George Gibbons Caerfyrddin   Mawrth 2022  
Llywydd Campws Llambed Bronwyn Kirk Llambed   Mawrth 2022  
Llywydd Campws Abertawe Ross Shaddick Abertawe   Mawrth 2022  
Cadeirydd yr Undeb Nikola Chakrakchiev Undeb   Mawrth 2022  
Myfyriwr Ymddiriedolwrs Cameron Reardon-Davies Undeb   Mawrth 2022  
Myfyriwr Ymddiriedolwrs Michael Curtis Undeb   Mawrth 2022  
Swyddog y Myfyrwyr Croenddu Claire Mugabo Caerfyrddin   Mawrth 2022  
Swyddog Llesiant Lowri Wilson Caerfyrddin   Mawrth 2022  
Swyddog y Myfyrwyr Croenddu Rhobyn Grant Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Alex Gabriunaite Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol India Sweeting Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Bronwyn Caine Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Kay Woodhouse Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Liang Yuan Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog Llesiant Amelia Monnery Llambed   Mawrth 2022  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Amy Knight Abertawe   Mawrth 2022  
Myfyriwr Ymddiriedolwrs Iulian Teaca Undeb   Tachwedd 2021  
Myfyriwr Ymddiriedolwrs Alexandra Gabriela Atofanei Undeb   Tachwedd 2021  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Gemma Davies Caerfyrddin   Tachwedd 2021  
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Ash Lewis Caerfyrddin   Tachwedd 2021  
Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr Lauren Thomas Caerfyrddin   Tachwedd 2021  
Swyddog Llesiant Jenna Jackson Caerfyrddin   Tachwedd 2021  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Rebecca Harrison-Everett Caerfyrddin   Tachwedd 2021  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Hongshuo Huang Llambed   Tachwedd 2021  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Bronwyn Caine Llambed   Tachwedd 2021  
Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes) Amber Minney Llambed   Tachwedd 2021  
Swyddog Cynaladwyedd Kezia Harrow Llambed   Tachwedd 2021  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Adrienn Dema Abertawe   Tachwedd 2021  
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol Mirela Hayles Abertawe   Tachwedd 2021  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Ronan Green Abertawe   Tachwedd 2021  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Bryleigh Draycott Abertawe   Tachwedd 2021  
Swyddog Cynaladwyedd Andrea Margaret Lee Abertawe   Tachwedd 2021  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Zaeem Gulammamodo Abertawe   Tachwedd 2021  
Swyddog Llesiant Elle Edwards Abertawe   Tachwedd 2021  
Llywydd Campws Abertawe Liam Powell Abertawe   Mehefin 2021  
Llywydd y Grŵp Vanessa Liverpool Undeb   Mawrth 2021  
Llywydd Campws Caerfyrddin Becky Bush Caerfyrddin   Mawrth 2021  
Llywydd Campws Llambed James Barrow Llambed   Mawrth 2021  
Llywydd Campws Abertawe Hang Lee Abertawe   Mawrth 2021  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Christine Joy Caerfyrddin   Mawrth 2021  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Anna Holland Caerfyrddin   Mawrth 2021  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Bronwyn Kirk Llambed   Mawrth 2021  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Megan Pearson Llambed   Mawrth 2021  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Kirsty Parkes Llambed   Mawrth 2021  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Lyndsey Kissick Abertawe   Mawrth 2021  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Cindy Jenkins Abertawe   Mawrth 2021  
Myfyriwr Ymddiriedolwrs Kelvin Kpenosen Undeb   Mawrth 2021  
Cadeirydd yr Undeb Frankie Boyle Undeb   Mawrth 2021  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU James Mills Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Rebecca Palmer Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Tammy Bowie Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Carly Lee Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru James Mills Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Ozzie Major Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Rebecca Palmer Undeb   Tachwedd 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Tammy Bowie Undeb   Tachwedd 2020  
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Faye Brightman Caerfyrddin   Tachwedd 2020  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Bethan Edwards Caerfyrddin   Tachwedd 2020  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Rebecca Palmer Caerfyrddin   Tachwedd 2020  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Carly Lee Caerfyrddin   Tachwedd 2020  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Martyn Lee Caerfyrddin   Tachwedd 2020  
Swyddog Llesiant Blaze Tallulah Roper Caerfyrddin   Tachwedd 2020  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Bronwyn Kirk Llambed   Tachwedd 2020  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Lucy Smith Llambed   Tachwedd 2020  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Kirsty Parkes Llambed   Tachwedd 2020  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Angel Garden Abertawe   Tachwedd 2020  
Swyddog Hunaniaeth Ryweddol Jennifer Sargisson Abertawe   Tachwedd 2020  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Lyndsey Kissick Abertawe   Tachwedd 2020  
Student Parent & Carers’ Officer Alexandra Atkins Abertawe   Tachwedd 2020  
Myfyriwr Ymddiriedolwr Jake Furby Undeb   Tachwedd 2020  
Llywydd y Grŵp James Mills Undeb   Mawrth 2020  
Llywydd Campws Caerfyrddin Georgia Thomas Caerfyrddin   Mawrth 2020  
Llywydd Campws Llambed Tammy Bowie Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Blake Wonnacott Caerfyrddin   Mawrth 2020  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Tomos Morris Caerfyrddin   Mawrth 2020  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Bronwyn Mosey Caerfyrddin   Mawrth 2020  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Emily Sykes Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Rhiannon Watts-Robinson Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes) Feryn Walmsley Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Deborah Ashby Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Ozzie Major Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog y Cymdeithasau Jacob Summers Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Daisy Harris Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog Cynaladwyedd Izzie Hendricks Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog Llesiant Georgie Vanderkolk-Pellow Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog yr Iaith Gymraeg Eilyn Williams Llambed   Mawrth 2020  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Kristofer Grogan Abertawe   Mawrth 2020  
Swyddog y Cymdeithasau Kane Lister Abertawe   Mawrth 2020  
Swyddog Clybiau Chwaraeon George Dalton - Brown Abertawe   Mawrth 2020  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Marcos Gonzalez Norris Abertawe   Mawrth 2020  
Swyddog Cynaladwyedd Fraser Reid Abertawe   Mawrth 2020  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Zaeem Gulammamodo Abertawe   Mawrth 2020  
Swyddog Llesiant Thomas Pettifer Abertawe   Mawrth 2020  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Martha Warren Undeb   Hydref 2019  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Rebecca Palmer Undeb   Hydref 2019  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Fraser Reid Undeb   Hydref 2019  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Martha Warren Undeb   Hydref 2019  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Rebecca Palmer Undeb   Hydref 2019  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Tamara Bowie Undeb   Hydref 2019  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Blake Wonnacott Caerfyrddin   Hydref 2019  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Giselle Neill Caerfyrddin   Hydref 2019  
Swyddog Myfyrwyr Traws Jade Williams Caerfyrddin   Hydref 2019  
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol Peishin Cheung (Jo) Llambed   Hydref 2019  
Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes) Rhiannon Watts-Robinson Llambed   Hydref 2019  
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol Abhiyaan Malhotra Abertawe   Hydref 2019  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Zaeem Gulammamodo Abertawe   Hydref 2019  
Swyddog Myfyrwyr Croenddu Rosemary Kalu Ajike Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Rebecca Palmer Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol India Sweeting Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes) Emily Poyntz-Thomas Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Carwyn Davies Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog y Cymdeithasau Amy Watler-Thomas Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Ryan Price Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Rebecca Bush Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr Carly Lee Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Cynaladwyedd Jordan Coller Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Bethan Rogers Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Llesiant Poppy-Jo Purcell Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog yr Iaith Gymraeg Cerys-Mair Griffiths Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Katy Keaveney Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Croenddu Melany N' Barasa Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Jonathan Butterworth Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Joseph Ogden Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Susan Fullwood Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig David Morris Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog y Cymdeithasau James Barrow Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Clybiau Chwaraeon Harry Watkin Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Elizabeth Cawdell Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr Melantha Snow Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Cynaladwyedd Jake Mcgrath Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Traws Alexander Naylor Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Iona Mokandpuri Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Llesiant Matthew Cowley Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog yr Iaith Gymraeg Angharad Lloyd Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Borbála Hardi (Bori) Llambed   Chwefror 2019  
Swyddog y Myfyrwyr Croenddu Lorraine Simo Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Anabl Danielle Brewster Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog LHDT+ (Safle Agored) Isabella Poh Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes) Jenny Sargisson Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn Kristofer Grogan Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Zoe Cooke Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog y Cymdeithasau Liam Standing Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Clybiau Chwaraeon George Dalton - Brown Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr Hannah Watkins Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr Simon Downes Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Cynaladwyedd Conor Haslem Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Myfyrwyr Traws Jenny Ada Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Gwirfoddoli a RAG Matthew Rothwell Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Llesiant Danielle Bastier Abertawe   Chwefror 2019  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Katy James Abertawe   Chwefror 2019  
Llywydd Campws Caerfyrddin Elis Allsopp Caerfyrddin   Chwefror 2019  
Llywydd y Grŵp Becky Ricketts Undeb   Chwefror 2019  
Llywydd Campws Llambed Martha Warren Llambed   Chwefror 2019  
Myfyriwr Ymddiriedolwr Chloé Chignell Undeb   Chwefror 2019  
Myfyriwr Ymddiriedolwr James Mills Undeb   Chwefror 2019  
Cadeirydd yr Undeb Reuben Nicholas Undeb   Chwefror 2019  
Cadeirydd yr Undeb Bulent Kal Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Becky Ricketts Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Charlie Jones Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU Josh Whale Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Abhiyaan Malhotra Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Bethan Davies Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Ella Wilkinson Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Josh Whale Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru Ozzie Major Undeb   Hydref 2018  
Cynrychiolydd Gwirfoddoli Kat Cornelius-Frend Llambed   Hydref 2018  
Myfyriwr Ymddiriedolwr Saskia Hooper Abertawe   Hydref 2018  
Myfyriwr Ymddiriedolwr James Mills Llambed   Hydref 2018  
Swyddog y Cymdeithasau Conor Haslem Abertawe   Hydref 2018  
Swyddog Digwyddiadau Alex Fisher Abertawe   Hydref 2018  
Swyddog Myfyrwyr Hŷn a Rhan-amser Poppy-Jo Purcell Caerfyrddin   Hydref 2018  
Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Adekoyejo Sobola Caerfyrddin   Hydref 2018  
Post Graduate & Mature Officer Sean Morgan Abertawe   Hydref 2018  
Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig Bethan Davies Caerfyrddin   Hydref 2018  
Swyddog Rhyddhad y Menywod Ella Iona Wilkinson Abertawe   Hydref 2018  
Swyddog Rhyngwladol Etella Keenan Caerfyrddin   Hydref 2018  
Cynrychiolydd Clybiau Lowri Bates Caerfyrddin   Mai 2018  
Swyddog yr Amgylchedd Sion Griffiths Caerfyrddin   Mai 2018  
Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol Ozzie Major Llambed   Mai 2018  
Swyddog y Cymdeithasau James Barrow Llambed   Mai 2018  
Swyddog LHDT+ Grace Loveday Llambed   Mai 2018  
Swyddog Materion Cymreig Angharad Lloyd Llambed   Mai 2018  
Swyddog yr Amgylchedd Martha Warren Llambed   Mai 2018  
Swyddog y Myfyrwyr Hŷn ac Ôl-raddedig Sophie Rossiter Llambed   Mai 2018  

Llywydd y Grŵp

Rob Simkins Undeb  

Chwefror 2018

 

Llywydd Campws Caerfyrddin

Becky Ricketts Caerfyrddin   Chwefror 2018  

Llywydd Campws Llambed

Josh Whale Llambed   Chwefror 2018  

Llywydd Campws Abertawe

Charlie Jones Abertawe   Chwefror 2018  

Swyddog LHDT+

Ellis Brown

Caerfyrddin  

Chwefror 2018

 

Student Swyddog Llesiant

Elis Allsopp

Caerfyrddin  

Chwefror 2018

 

 Swyddog Materion Cymreig

Ffion Haf Davies

Caerfyrddin  

Chwefror 2018

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Ben Hool

Caerfyrddin  

Chwefror 2018

 

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Rebecca Palmer

Caerfyrddin  

Chwefror 2018

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Jessica Setterfield

Caerfyrddin  

Chwefror 2018

 

Swyddog Ymgysylltu

Tesni Fakes

Llambed  

Chwefror 2018

 

Cynrychiolydd Chwaraeon

Georgina Chamley

Llambed  

Chwefror 2018

 

Swyddog Iechyd Meddwl a Myfyrwyr ag Anableddau

Jessica Staples

Llambed  

Chwefror 2018

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Alexandra Dunstan

Llambed  

Chwefror 2018

 

Swyddog Rhyngwladol

Miranda Chalmers-Kertesz

Abertawe  

Chwefror 2018

 

Swyddog Ymgysylltu 

Sam Gedrych

Abertawe  

Chwefror 2018

 

Cynrychiolydd Chwaraeon

Shakira Britton

Abertawe  

Chwefror 2018

 

Swyddog LHDT+

Louie Greenwood

Abertawe  

Chwefror 2018

 

Swyddog yr Amgylchedd

Matthew Howells

Abertawe  

Chwefror 2018

 

Swyddog Rhyngwladol

Abhiyaan Malhotra

Abertawe   Chwefror 2018  

Swyddog Myfyrwyr Traws

Jenny Sargisson

Abertawe   Chwefror 2018  

Swyddog Ymgysylltu

Chloé Chignell

Abertawe   Chwefror 2018  

Cynrychiolydd Clybiau

James Roberts

Llambed  

Tachwedd 2017

 

Student Swyddog Llesiant

Jessica Setterfield

Llambed  

Tachwedd 2017

 

Swyddog yr Amgylchedd

Becky Ricketts

Llambed  

Tachwedd 2017

 

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Mark Borrett

Llambed  

Tachwedd 2017

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Paige Topliss

Llambed  

Tachwedd 2017

 

Swyddog Ymgysylltu

Lizzie Owen

Llambed  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd Chwaraeon

Thomas Richards

Abertawe  

Tachwedd 2017

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Lewys Thomas

Abertawe  

Tachwedd 2017

 

 Swyddog y Myfyrwyr Hŷn ac Ôl-raddedig

Sharon Richards

Abertawe  

Tachwedd 2017

 

Swyddog Rhyngwladol

Abhiyaan Malhotra

Abertawe  

Tachwedd 2017

 

Cadeirydd yr Undeb

 Stephany Aymerich

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Becky Ricketts

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Charlie Jones

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Anya O'Callaghan

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Becky Ricketts

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Charlie Jones

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Josh Whale

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Tom Dobson

Undeb  

Tachwedd 2017

 

Swyddog Myfyrwyr Hŷn a Rhan-amser

Peter Williams

Caerfyrddin  

Mai 2017

 

Swyddog LHDT+

Emily Poyntz-Thomas

Caerfyrddin  

Mai 2017

 

Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

Rachel Vela

Caerfyrddin  

Mai 2017

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Jaime-Louise McDonald

Caerfyrddin  

Mai 2017

 

Cynrychiolydd Chwaraeon

Laura-Cait Driscoll

Llambed  

Mai 2017

 

Cynrychiolydd Gwirfoddoli

Martha Warren

Llambed  

Mai 2017

 

Swyddog Cyffredinol

Shannon Howe

Llambed  

Mai 2017

 

Swyddog y Cymdeithasau

Tom Dobson

Llambed  

Mai 2017

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Brydie Parkes

Llambed  

Mai 2017

 

Swyddog y Cymdeithasau

Robyn Edwards

Abertawe  

Mai 2017

 

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Callum Mickelsen

Abertawe  

Mai 2017

 

Swyddog y Myfyrwyr Hŷn ac Ôl-raddedig

Chris Beynon

Abertawe  

Mai 2017

 

Swyddog Myfyrwyr Traws

Alex Jones

Abertawe  

Mai 2017

 

Swyddog Ymgysylltu

Kelssie Maihew

Abertawe  

Mai 2017

 

Llywydd y Grŵp

Rob Simkins Undeb  

Chwefror 2017

 

Llywydd Campws Caerfyrddin

Evan Stanton Caerfyrddin   Chwefror 2017  

Llywydd Campws Llambed

Josh Whale Llambed   Chwefror 2017  

Llywydd Campws Abertawe

Charlie Jones Abertawe   Chwefror 2017  

Cynrychiolydd Clybiau

Jordan Jeffery

Caerfyrddin  

Chwefror 2017

 

Swyddog Rhyngwladol

Paige Terry

Caerfyrddin  

Chwefror 2017

 

Swyddog Materion Cymreig

Nia Owens

Caerfyrddin  

Chwefror 2017

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Anya O'Callaghan

Caerfyrddin  

Chwefror 2017

 

Swyddog LHDT+

Kieran Bason

Caerfyrddin  

Chwefror 2017

 

Swyddog Iechyd Meddwl a Myfyrwyr ag Anableddau

Luke Carter

Llambed  

Chwefror 2017

 

Swyddog LHDT+

Betsy Woodhouse

Llambed  

Chwefror 2017

 

Swyddog Cyffredinol

Christian Hayward

Llambed  

Chwefror 2017

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Suzette Hase

Llambed  

Chwefror 2017

 

Swyddog Rhyngwladol

Sophie Howells

Llambed  

Chwefror 2017

 

 Swyddog Ymgysylltu

Laura Yates

Llambed  

Chwefror 2017

 

Cynrychiolydd Chwaraeon

Kelsey Davies

Abertawe  

Chwefror 2017

 

Swyddog yr Amgylchedd

Ella Wilkinson

Abertawe  

Chwefror 2017

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Kyla Edwards

Abertawe  

Chwefror 2017

 

Swyddog LHDT+

Louie Greenwood

Abertawe  

Chwefror 2017

 

Swyddog Materion Cymreig

Elizabeth Tomkinson

Abertawe  

Chwefror 2017

 

Swyddog Digwyddiadau

Chloe Louise Stevens

Abertawe  

Chwefror 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Gwyneth Sweatman

Undeb  

Chwefror 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Rebecca Bamsey

Undeb  

Chwefror 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Daniel Jones

Undeb  

Chwefror 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Gwyneth Sweatman

Undeb  

Chwefror 2017

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM Cymru

Jasmine Crane

Undeb  

Chwefror 2017

 

Swyddog Myfyrwyr Hŷn a Rhan-amser

Jamie Rollinson

Caerfyrddin  

Tachwedd 2016

 

Student Swyddog Llesiant

Jowan Ackrell

Caerfyrddin  

Tachwedd 2016

 

Swyddog yr Amgylchedd

Amy Colleen Burton

Caerfyrddin  

Tachwedd 2016

 

Cynrychiolydd Gwirfoddoli

Lottie Dalby

Llambed  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Myfyrwyr Traws

Alexander Grant

Llambed  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Elizabeth Bosworth

Llambed  

Tachwedd 2016

 

Swyddog LHDT+

Betsy Woodhouse

Llambed  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Cyffredinol

Cerys Broad

Llambed  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Cyffredinol

Harry Corbett

Llambed  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Myfyrwyr Traws

Louie Greenwood

Abertawe  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Ymgysylltu

Leif Thobroe

Abertawe  

Tachwedd 2016

 

 Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Gavin Rees

Abertawe  

Tachwedd 2016

 

Swyddog Materion Cymreig

Lauren Rowlands

Abertawe  

Tachwedd 2016

 

Swyddog LHDT+

Kyla Edwards

Abertawe  

Tachwedd 2016

 

Cynrychiolydd Clybiau

Evan Stanton

Caerfyrddin  

Mai 2016

 

Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

Adele Flore

Caerfyrddin  

Mai 2016

 

Swyddog Materion Cymreig

Carys Haf

Caerfyrddin  

Mai 2016

 

Cynrychiolydd Chwaraeon

Laura-Cait Driscoll

Llambed  

Mai 2016

 

Cynrychiolydd Gwirfoddoli

Mary Hoffman

Llambed  

Mai 2016

 

Swyddog y Cymdeithasau

Deanna Marie Iris Inkson

Llambed  

Mai 2016

 

Post Graduate & Mature Officer

Laura Yates

Llambed  

Mai 2016

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Jak Austin

Abertawe

  Mai 2016  

Swyddog LHDT+

Jade Moon

Abertawe

  Mai 2016  

Llywydd y Grŵp

Daniel Rowbotham

Undeb  

Chwefror 2016

 

Llywydd Campws Caerfyrddin

Gwyneth Sweatman

Caerfyrddin  

Chwefror 2016

 

Llywydd Campws Llambed

Rebecca Bamsey

Llambed  

Chwefror 2016

 

Llywydd Campws Abertawe

Joe Edwards

Abertawe  

Chwefror 2016

 

Swyddog Rhyngwladol

Kelly Sutton

Caerfyrddin  

Chwefror 2016

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Jasmine Crane

Caerfyrddin  

Chwefror 2016

 

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Thraen Thraen

Caerfyrddin  

Chwefror 2016

 

Swyddog LHDT+

Katie King

Caerfyrddin  

Chwefror 2016

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Anya O'Callaghan

Caerfyrddin  

Chwefror 2016

 

Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol

Jason Spencer

Llambed  

Chwefror 2016

 

Swyddog Rhyngwladol

Victoria Bauder

Llambed  

Chwefror 2016

 

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Emily Goddard

Llambed  

Chwefror 2016

 

Swyddog LHDT+

Lewis Allen

Llambed  

Chwefror 2016

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Laura Wiggans

Abertawe  

Chwefror 2016

 

Post Graduate & Mature Officer

Simon Downes

Abertawe  

Chwefror 2016

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Stefanie Turner

Undeb  

Chwefror 2016

 

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Toby Lewis

Undeb  

Chwefror 2016

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Jasmine Crane

Caerfyrddin  

Hydref 2015

 

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Megan Thomas

Caerfyrddin  

Hydref 2015

 

Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr

Dylan Teddy Churm

Caerfyrddin  

Hydref 2015

 

Swyddog yr Amgylchedd

Willow Kehily

Llambed  

Hydref 2015

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Kenny Lewis

Llambed  

Hydref 2015

 

Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol

Shauni Adekoya

Abertawe  

Hydref 2015

 

Swyddog Chwaraeon

Dan James

Abertawe  

Hydref 2015

 

Post Graduate & Mature Officer

Simon Downes

Abertawe  

Hydref 2015

 

Swyddog Rhyngwladol

Re Shaibani

Abertawe  

Hydref 2015

 

Swyddog Tai

Benjamin Lee Hoskins

Abertawe  

Hydref 2015

 

Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr

Nick Long 

Abertawe  

Hydref 2015

 

Llywydd y Grŵp

Abi Jenkins

Undeb  

Mai 2015

 

Llywydd Campws Caerfyrddin

Sean Curran Caerfyrddin   Mai 2015  

Is-lywydd Campws Caerfyrddin

Gwyneth Sweatman Caerfyrddin   Mai 2015  

Llywydd Campws Llambed

Bea Fallon Llambed   Mai 2015  

Is-lywydd Campws Llambed

Megan Cherry Llambed   Mai 2015  

Llywydd Campws Abertawe

Lydia Watson Abertawe   Mai 2015  

Is-lywydd Campws Abertawe

Joe Edwards Abertawe   Mai 2015  

Swyddog Materion Cymreig

Daniel Rowbotham

Caerfyrddin  

Mai 2015

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Daniel Edwards

Caerfyrddin  

Mai 2015

 

Swyddog LHDT+

Katie King

Caerfyrddin  

Mai 2015

 

Swyddog yr Amgylchedd

Catrin Jones

Caerfyrddin  

Mai 2015

 

Swyddog Rhyngwladol

Kelly Sutton

Caerfyrddin  

Mai 2015

 

Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr

Sam Muckley

Llambed  

Mai 2015

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Coral Murray

Llambed   Mai 2015  

Swyddog Myfyrwyr Anabl

Stefanie Turner

Llambed   Mai 2015  

Swyddog Materion Cymreig

William McLean Smith

Llambed   Mai 2015  

Swyddog LHDT+

Lewis Allen

Llambed   Mai 2015  

Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol

Jules Plant

Llambed   Mai 2015  

Swyddog Rhyngwladol

Amber Ricks

Llambed   Mai 2015  

Swyddog LHDT+

Nancy Claire Shanahan

Abertawe  

Mai 2015

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Claudia Cannon

Abertawe  

Mai 2015

 

Swyddog yr Amgylchedd

Elanor Allun

Abertawe  

Mai 2015

 

Swyddog Myfyrwyr Anabl

Allister Brenton

Abertawe  

Mai 2015

 

Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol

Bethany Clarke

Caerfyrddin  

Hydref 2014

 

Swyddog Myfyrwyr Anabl

Stacey Jones

Caerfyrddin  

Hydref 2014

 

Swyddog yr Amgylchedd

Ela Jones

Caerfyrddin  

Hydref 2014

 

Postgraduate & Swyddog Myfyrwyr Hŷn

Tracy Mckie

Caerfyrddin  

Hydref 2014

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Nicole Coldrick

Caerfyrddin  

Hydref 2014

 

Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol

Jason Spencer

Llambed  

Hydref 2014

 

Swyddog Myfyrwyr LHDT

Allen Lewis

Llambed  

Hydref 2014

 

Swyddog Myfyrwyr Rhan-amser a Dysgwyr o Bell

Julia Iremonger

Llambed  

Hydref 2014

 

Swyddog Rhyddhad y Menywod

Lizzie Grogan

Llambed  

Hydref 2014

 

Swyddog Amrywioldeb Diwylliannol

Chukwuji Nwakude

Abertawe  

Hydref 2014

 

Swyddog yr Amgylchedd

Emma Eley

Abertawe  

Hydref 2014

 

Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr

Joanne Davies

Abertawe  

Hydref 2014

 

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Lydia Watson

Abertawe  

Hydref 2014

 

Swyddog Materion Cymreig

Sioned Jones

Abertawe  

Hydref 2014

 

Llywydd y Grŵp

Luke Jones

Undeb  

Mawrth 2014

 

Llywydd Campws Caerfyrddin

Dan Doyle

Caerfyrddin   Mawrth 2014  

Is-lywydd Campws Caerfyrddin

Sophia Klitou

Caerfyrddin   Mawrth 2014  

Llywydd Campws Llambed

Flora McNerney

Llambed   Mawrth 2014  

Is-lywydd Campws Llambed

Bethan Morgan

Llambed   Mawrth 2014  

Llywydd Campws Abertawe

Beth Thomas

Abertawe   Mawrth 2014  

Is-lywydd Campws Abertawe

Shona Smith

Abertawe   Mawrth 2014  

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Abi Roberts

Undeb   Mawrth 2014  

Cynrychiolydd i Gynhadledd UCM y DU

Stefanie Turner

Undeb   Mawrth 2014  

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Rydym wedi diweddaru rhai o deitlau’r rolau hŷn i'w gwneud yn haws i chi chwilio trwy hanes yr etholiadau. Rydym wedi diweddaru Llywydd Cyffredinol a Llywydd yr UM i Lywydd y Grŵp.

FAQ, Regs, Complaints

Cwestiynau Cyffredin

Meddwl sefyll am un o'r rolau, ond mae gennych chi ychydig o gwestiynau? Edrychwch ar rai o'n cwestiynau cyffredin isod! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau yn elections@uwtsd.ac.uk.  

A allaf sefyll ar gyfer unrhyw un o'r rolau yn ystod yr etholiadau?

Gall myfyrwyr Birmingham, Caerdydd a Llundain sefyll am rolau Llywydd y Grŵp, Myfyriwr Ymddiriedolwr neu Gadeirydd yr Undeb.

Gall myfyrwyr Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe sefyll am rolau Llywydd y Grŵp, Llywydd y Campws, Swyddog Rhan-amser, Myfyriwr Ymddiriedolwr, neu Gadeirydd yr Undeb.

Dwi'n cael trafferth enwebu

Yn gyntaf, gwiriwch eich bod yn gymwys i sefyll am y rôl honno. Ar gyfer rhai rolau mae angen i chi fod yn fyfyriwr sy'n astudio ar y campws hwnnw. Os ydych chi’n dal i gael anawsterau, cysylltwch â ni elections@uwtsd.ac.uk

Faint o arian fydd yn ei gostio i mi sefyll yn yr etholiadau? 

Dim byd; byddwn yn ad-dalu unrhyw arian y byddwch chi’n ei wario yn yr etholiad. Mae gan bob ymgeisydd gyllideb i gadw ati - gallwch ddarllen hon yn ein rheoliadau ariannol.

Dydw i ddim yn siŵr beth i'w roi yn fy maniffesto.

Rydyn ni wedi gosod rhai adnoddau a chwestiynau ar y wefan i'ch helpu chi i ysgrifennu'ch maniffesto! Mynnwch sgwrs gyda'ch ffrindiau a’r rheiny sydd ar eich cwrs er mwyn dysgu am yr hyn mae myfyrwyr am ei weld ei weld gan eu Hundeb Myfyrwyr a'u Prifysgol. 

Gweler yr Adnoddau ar gyfer creu Maniffesto

Oes rhaid i mi wybod beth yw holl ofynion y rôl? 

Bydd pob Swyddog Etholedig, Ymddiriedolwr a Chadeirydd yr Undeb yn derbyn hyfforddiant ar gyfer eu rôl, felly peidiwch â phoeni am beidio â gwybod popeth ar unwaith!  

Oes yna unrhyw hyfforddiant ar gyfer ymgeiswyr? 

Oes! Rydym yn cynnal sawl sesiwn i gynnig cymorth i ymgeiswyr, a gallwch edrych ar ein hyb adnoddau’r ymgeiswyr i ddod o hyd i fwy hefyd.  

Dwi’n methu â phleidleisio, beth ddylwn i ei wneud? 

Os na allwch fewngofnodi trwy'r wefan, e-bostiwch elections@uwtsd.ac.uk a bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. E-bostiwch cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli hyn - allwn ni ddim gwneud unrhyw beth ar ôl i'r pleidleisio gau.

Beth os ydw i’n credu bod ymgeisydd wedi gwneud rhywbeth o'i le?

Gwiriwch ein Rheoliadau Etholiadol i weld a ydych chi'n credu bod ymgeisydd wedi gweithredu’n groes i Egwyddorion yr Etholiadau. Os ydych chi’n credu eu bod nhw, llenwch y Ffurflen Cwyno am Etholiadau i gyflwyno'ch cwyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau yn elections@uwtsd.ac.uk.

 

Rheolau a Rheoliadau

Yn ystod eich ymgyrch etholiadol byddwch yn ymwneud â chyfres o weithgareddau. Mae'n bwysig cofio eich bod yn rhwym i wahanol reolau, rheoliadau a pholisïau.    

  • Rheolau a Rheoliadau Etholiadol
  • Polisïau Undeb y Myfyrwyr
  • Polisïau'r Brifysgol
  • Y Gyfraith

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ystod y broses, dylech ymgynghori â'r tîm etholiadau.

Y 5 Egwyddor Graidd

Mae 5 egwyddor graidd y mae'n rhaid i bob ymgeisydd gadw atynt; bydd methu â gwneud hynny yn peri i'r ymgeisydd fod yn destun cosb neu sancsiynau sy'n amrywio o gyfyngu ar wahanol fathau o ymgyrchu, neu mewn achos mwy eithafol o gael ei diarddel o'r etholiad. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae'r defnydd o'r term 'ymgeisydd' neu 'ymgeiswyr' hefyd yn cyfeirio at ymgyrchwyr neu dimau ymgyrchu.

  1. Rhaid i fyfyrwyr fod yn rhydd i fwrw eu pleidlais heb ddylanwad na phwysedd annheg.
  2. Rhaid cydymffurfio â'r gyfraith, polisïau'r Undeb a'r Brifysgol.
  3. Mae’r bwysig trin pobl eraill fel y byddech chi am gael eich trin.
  4. Rhaid i chi ymgyrchu o fewn y lwfans ariannol a ddarperir
  5. Ni ddylai ymgyrchwyr ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu na allai eraill o fewn rheswm ei wneud hefyd, a bydd ymgyrchu yn cychwyn ar y diwrnod y cytunwyd arno.

Rhaid i fyfyrwyr fod yn rhydd i fwrw eu pleidlais heb ddylanwad na phwysedd annheg.

Ni chaiff ymgeiswyr sefyll a gwylio myfyrwyr wrth iddynt bleidleisio, gan y byddai'r myfyriwr dan bwysedd i bleidleisio dros yr ymgeisydd hwnnw. Dylai ymgeiswyr symud ymhell oddi wrth y myfyrwyr pan fyddant yn pleidleisio.

Er y caniateir i chi ddosbarthu taflenni a losin i wneud i fyfyrwyr eich cofio a gwrando arnoch chi, ni chewch gynnig cymhelliant (losin, arian a.y.b.) i fyfyrwyr a fyddai ar gael iddynt ar ôl iddynt bleidleisio drosoch chi, gan y byddai hyn yn cael ei ystyried yn ddylanwadu ar bleidlais myfyriwr.

Rhaid cydymffurfio â'r gyfraith, polisïau'r Undeb a'r Brifysgol.

Golyga hyn bod rhaid i chi fel ymgeisydd a'ch tîm ymgyrchu, bob amser gydymffurfio â'r gyfraith, rheoliadau'r Brifysgol (megis y côd ymddygiad, rheolau iechyd a diogelwch, gweithdrefnau cyfleoedd cyfartal, côd aflonyddu, difrod i eiddo'r Brifysgol, a'r defnydd o e-bost a.y.b.) yn ogystal â pholisi'r Undeb. Gall torri'r polisïau hyn arwain at weithred ddisgyblu a allai yn ei dro effeithio ar eich statws fel myfyriwr a'ch aelodaeth o'r Undeb.

Mae’r bwysig trin pobl eraill fel y byddech chi am gael eich trin.

Mae'r egwyddor hon yn ymwneud â sawl maes. Er enghraifft: mae difrodi deunydd cyhoeddusrwydd ac ymyrryd ag areithiau ymgeiswyr eraill ymysg y pethau a ystyrir i fod yn groes i'r egwyddor hon.

Rhaid i chi ymgyrchu o fewn y lwfans a ddarperir

Rhaid i eitemau a gynhyrchir neu a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer eich ymgyrch gael eu cyfrif o fewn y lwfans a roddir, yn unol â'r rheoliadau cyllidol sy'n perthyn i etholiadau'r undeb.

Ni ddylai ymgyrchwyr ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu na allai eraill o fewn rheswm ei wneud hefyd, a bydd ymgyrchu yn cychwyn ar y diwrnod y cytunwyd arno.

Bydd gan bob ymgeisydd gyfle cyfartal i ymgyrchu ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae hyn yn golygu na allwch ddefnyddio dulliau a sianelau i ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt ar gael yn rhwydd i bob ymgeisydd.

Ni chaiff ymgeiswyr ymgyrchu tan ddechrau'r cyfnod ymgyrchu. Gall ymgyrchu ddechrau cyn i'r pleidleisio agor neu ar yr un diwrnod. Caiff yr union ddyddiad ei wneud yn eglur i'r holl ymgeiswyr.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na chewch wneud cyhoeddiad mewn darlithoedd na gosod posteri cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu, er mwyn sicrhau bod pob ymgeisydd yn dechrau ymgyrchu ar yr un pryd.

Ymrwymiad Ymgeiswyr

Yn ogystal â'r 5 egwyddor graidd, disgwylir i ymgeiswyr ymwneud â'r broses.

Disgwylir iddynt fynychu sesiwn briffio ymgeiswyr a chyflwyno pob ffurflen yn brydlon, gan gynnwys datganiad yr ymgeisydd. Gall methu â gwneud hynny arwain at waharddiad o'r broses etholiadol, gan gynnwys ar ôl i'r pleidleisio ddod i ben.

Swyddogion sy’n ail-sefyll

Lle mae swyddogion yn ail-sefyll am gyfnod arall yn y rôl, cânt eu cyfyngu rhag defnyddio unrhyw gyfleuster sydd ar gael iddynt fel swyddogion cyfredol. I gael rhagor o fanylion, dylai swyddogion gyfeirio at Ddogfen Ganllaw Ymddygiad Staff yr UM neu at y tîm etholiadau.

Staff Myfyrwyr

Ni chaiff ymgeiswyr ac ymgyrchwyr sy'n cael eu cyflogi gan yr Undeb fel staff myfyrwyr ymgyrchu tra'u bod yn gweithio i Undeb y Myfyrwyr. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Ddogfen Ganllaw i Staff Myfyrwyr ar gyfer Gweithio yn Ystod Etholiadau neu'r tîm etholiadau.

Deunyddiau Hyrwyddo

Ni chaiff ymgeiswyr gynnwys brand neu logos Undeb y Myfyrwyr neu'r Brifysgol ar unrhyw ddeunydd hyrwyddo.

Os oes llun o’r Ymgeisydd yn ymddangos ar adnoddau neu dudalennau gwe cyfredol yr UM neu’r Brifysgol, yna rhaid defnyddio delweddau gwahanol o'r ymgeisydd at ddibenion ymgyrchu.

Ni chaiff ymgeiswyr ddefnyddio adnoddau'r Undeb nac adnoddau clybiau a chymdeithasau.

Cosbau Etholiad

Gall torri Rheoliadau’r Etholiad neu bolisïau perthnasol eraill Undeb y Myfyrwyr neu'r Brifysgol arwain at gosb. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:

  • Derbyn rhybudd llafar anffurfiol
  • Derbyn rhybudd ysgrifenedig ffurfiol
  • Cael eich diarddel o'r etholiadau

Gellir cymryd camau disgyblu pellach yn erbyn unrhyw droseddwyr o dan Bolisïau Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. 

Rheoliadau Ariannol

Ni chaiff ymgeiswyr wario mwy na'r hyn a ganiateir o fewn eu cyllideb. Ar gyfer pob rôl, rhoddir terfyn o £30 ar wariant pob ymgeisydd, a gaiff ei ad-dalu iddynt. Gosodir terfyn o £30 ar bob ymgeisydd, waeth faint o rolau y mae'r ymgeisydd yn sefyll ar eu cyfer.

Dylai ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Hawlio Treuliau Ymgeisydd erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio a’i chyflwyno i'r Tîm Etholiadau. Rhaid i’r Ffurflen Hawlio Treuliau gynnwys manylion pob gwariant. Bydd methu â chyflwyno Ffurflen Hawlio Treuliau erbyn y terfyn amser yn golygu na chaiff unrhyw arian ei at ad-dalu, a gallai arwain at gamau disgyblu a allai gynnwys cael eich diarddel o’r etholiad

Bydd ymgeiswyr sy'n gwario mwy na'u cyllideb ddynodedig yn destun camau disgyblu a gallant gael eu diarddel o'r etholiad.

Rhaid i chi gadw cofnod o gostau eich deunyddiau ymgyrchu a gallu cyflwyno derbynebau a thystiolaeth o wariant os gofynnir i chi wneud hynny gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Gall hyn fod yn sgrinluniau o wariant ar-lein.

Gall ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw eitem y gallai unrhyw un yn rhesymol ei chael am ddim. Mae'r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Hen grysau-T
  • Paent
  • Hen gynfasau gwely
  • Offer ysgrifennu
  • Blu-tack / Tâp / PinnauCardboard
  • Cardfwrdd
  • Pren
  • Meddalwedd sydd ar gael trwy Gyfrif Myfyriwr PCyDDS

Y Dirprwy Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu pa eitemau y gallai ymgeiswyr yn rhesymol eu cael am ddim.

Mae unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer ymgyrchu ac sydd eisoes yn eiddo i'r ymgeisydd yn cyfrif tuag at gyllideb ymgyrchu ymgeisydd.

  • Gwisgoedd - £5 yr un.

Mae unrhyw argraffu a wneir wedi'i brisio ar y cyfraddau canlynol, waeth beth fo'r ffynhonnell.

Maint Papur A5 A4 A3
Du a Gwyn (Un ochr) £0.03 £0.05 £0.10
Du a Gwyn (Dwyochrog) £0.02  £0.06 £0.16
Lliw (Un ochr) £0.11 £0.18 £0.34
Lliw (Dwy ochr) £0.18 £0.32 £0.64

Gall ymgeiswyr brynu postiadau ar gyfryngau cymdeithasol o'u cyllideb, a bydd hyn yn cael ei gynnwys fel gwariant ar y pris a godir ar yr ymgeisydd hwnnw gan y darparydd cyfryngau cymdeithasol.

Caniateir i ymgeiswyr recriwtio aelodau tîm ymgyrchu sy’n meddu ar sgiliau a defnyddio'r rhain i gynorthwyo â’u hymgyrchoedd. Rhaid datgan unrhyw wasanaethau y talwyd amdanynt ar y daflen gyllideb.

Ad-daliad Costau Teithio

Mae PCyDDS yn Brifysgol aml-gampws ar draws Cymru a Lloegr. Gall pob myfyriwr waeth beth fo'u Campws bleidleisio ar gyfer pob un o'r rolau sydd ar gael yn ystod yr etholiadau. Yn ystod y broses ymgyrchu, efallai y bydd ymgeiswyr am ymweld â champysau eraill i ymgyrchu ymysg myfyrwyr eraill. Bydd yr etholiad hwn yn treialu cynllun ad-dalu costau teithio i ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt deithio i'r gwahanol gampysau heb orfod ysgwyddo’r gost sy’n gysylltiedig â hyn. Dylid nodi bod yr arian hwn yn perthyn i gronfa ar wahân i'r lwfans ymgyrchu.

Pwy sy'n Gymwys?

Pob ymgeisydd sy’n sefyll ar gyfer rôl swyddog llawn-amser yn unig. (Llywydd y Grŵp, Llywydd Caerfyrddin, Llywydd Caerdydd a Abertawe, a Llywydd Birmingham a Llundain.) 

Beth sydd gan ymgeisydd hawl iddo?

  • 1 daith ddwyffordd i bob campws (ac eithrio eu campws cartref) yn ystod yr wythnos ymgyrchu wyneb-yn-wyneb.
  • Neu daith aml-gampws. Mae hyn yn cynnwys teithio uniongyrchol i'r safleoedd a llety dros-nos.

Gall trefniadau ganiatáu i ymgeisydd deithio bob dydd mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Pa gostau gaiff eu had-dalu?

  • Trafnidiaeth gyhoeddus
  • Llety

Trefnir pob archeb gan Undeb y Myfyrwyr ymlaen llaw.

Ble gall ymgeisydd fynd?

  • Aros yn Ninas y Campws
  • Teithio Uniongyrchol yn Unig

Pryd gall ymgeisydd deithio?

Bydd yr holl deithio ar drên ar docynnau dwyffordd y tu allan i oriau brig, ac mewn sedd dosbarth safonol. 

Pam y gall ymgeisydd deithio?

Mae hyn ar gyfer ymgyrchu yn unig. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gofrestru wrth gyrraedd campysau a chadw mewn cysylltiad â'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ystod arosiadau dros-nos.

Sut mae'r broses yn gweithio?

Trefnu a Chynllunio

  • Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r Ffurflen Cynllunio Teithio erbyn 13:00 dydd Mercher 1af Mawrth 2023. Dim ond ceisiadau teithio a gyflwynir ar y ffurflen fydd yn cael eu cymeradwyo.
  • Tîm Etholiadau Undeb y Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am archebu'r holl drefniadau teithio ar gyfer yr ymgeiswyr.
  • Y Dirprwy Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu beth ellir ei ystyried yn gynllun teithio rhesymol.

Diogelwch a Llesiant

  • Pan fydd ymgeisydd yn cyrraedd ac yn gadael campws, dylai ymweld ag un o'r gorsafoedd pleidleisio ar y safle i gofrestru gydag aelod o staff Undeb y Myfyrwyr.
  • Pan fydd ymgeisydd yn aros dros-nos rhaid iddynt anfon neges destun at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau i gadarnhau eu bod wedi cyrraedd a gadael y llety a archebwyd.
  • Dylai ymgeiswyr ddatgelu unrhyw anghenion hygyrchedd ar eu cynlluniau teithio i'r Tîm Etholiadau.

Cwynion ac Apeliadau

Gall unrhyw aelod o Undeb y Myfyrwyr wneud cwyn drwy lenwi Ffurflen Gwynion (ffurflen ar-lein), a ddylai gael ei hategu gan dystiolaeth.

Rhaid cyflwyno pob cwyn o fewn 24 awr i'r digwyddiad ac erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio.

Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau; rhaid eu cyflwyno o fewn 24 awr i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Bydd yr holl ffurflenni cwynion sydd wedi'u llenwi yn cael eu derbyn i ddechrau gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Bydd pob penderfyniad ynghylch dehongli rheolau'r etholiad yn cael ei wneud gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau a'u Dirprwy trwy gyflwyno eu hapêl yn ysgrifenedig, o fewn 24 awr i’r penderfyniad gael ei wneud, gan ddilyn y weithdrefn apelio.

  1. Gwrandewir ar gam cyntaf yr apêl gan y Swyddog Canlyniadau; os yw'r ymgeisydd yn parhau i fod yn anfodlon yna,
  2. Gwrandewir ar ail gam yr apêl gan Bwyllgor Enwebiadau, Penodiadau ac Archwilio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a fydd yn gwrando ar yr achos a gyflwynir gan yr ymgeisydd a'r achos a gyflwynir ar gyfer gosod sancsiynau gan y Swyddog Canlyniadau, neu ei Ddirprwy enwebedig.
  3. Cyflwynir cam olaf yr apêl i Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol neu ddirprwy a enwebir ganddo.

 

Cwynion

Mae rheolau i’w dilyn yn ein hetholiadau, ac os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi eu torri neu nad yw rhywbeth yn iawn – gallwch wneud cwyn.

Gall unrhyw aelod o Undeb y Myfyrwyr gyflwyno cwyn trwy lenwi'r Ffurflen Gwynion Etholiadol ar-lein.

Rhaid ategu cwynion gyda thystiolaeth a’u cyflwyno o fewn 24 awr i’r digwyddiad ac erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau; rhaid eu cyflwyno o fewn 24 awr i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Ffurflen Gwynion