Cynrychiolwyr

Cynrychiolwyr

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod y brifysgol yn clywed syniadau a barn myfyrwyr er mwyn gwneud pethau’n well yn PCyDDS - ac mae gennym rwydwaith o gynrychiolwyr myfyrwyr i’n helpu i wneud hyn. 

Mae’ch angen chi 🫵 - gallwch ein helpu i wella pethau yn PCyDDS. Fel myfyriwr, gallwch ddod yn Gynrychiolydd Cwrs, Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr neu Swyddog Rhan-amser.

Effaith fawr, ychydig o amser - Gwyddom mai eich astudiaethau yw eich prif flaenoriaeth - felly rydym yn cynllunio pethau i gyd-fynd â'ch astudiaethau ac yn cynnig yr holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich rôl.

Beth am fwrw golwg ar y rolau isod am ragor o wybodaeth? Mae croeso i chi anfon e-bost at ein tîm os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn studentvoice@uwtsd.ac.uk.