Byddwch yn Barod am Yrfa gyda’r Wythnos Sgiliau
Mae’r Wythnos Sgiliau yn rhaglen wythnos o hyd sy’n cynnwys gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau yn canolbwyntio ar eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, paratoi ar gyfer gyrfa, a’ch helpu gyda’r camau nesaf ar ôl y brifysgol.
Mae’r Wythnos Sgiliau’n llawn cyfleoedd i ehangu a datblygu’r sgiliau sydd gennych chi eisoes a'ch helpu i ddysgu rhai newydd. Gallwch ddisgwyl gweithdai ar reoli amser, sut i ddechrau a gwneud y gorau o'ch proffil ar LinkedIn, awgrymiadau a thriciau ar gyfer arweinyddiaeth a gwaith tîm, yn ogystal â sut i lwyddo mewn cyfweliad ar gyfer swydd. Yn ychwanegol i hyn, rydym hefyd yn cynnal sesiynau ffotograffiaeth proffesiynol am ddim; fel y gallwch chi gael llun proffil o'r ansawdd gorau.
Mae ein sesiynau Wythnos Sgiliau am ddim; maent yn gyfyngedig i fyfyrwyr PCyDDS, a’r peth gorau amdanynt yw eu bod yn cael eu cynnal o amgylch eich darlithoedd.
Gallwch fynychu’r sesiynau sy’n apelio atoch chi - gallwch ddod i un, rhai, neu bob un o'n ohonynt. Ond mae angen i chi gadw eich lle trwy archebu tocyn ar gyfer y sesiwn yr ydych am ei mynychu.
Tystebau
Peidiwch â dim ond cymryd ein gair ni amdano! Dyma beth sydd gan ein cyfranogwyr i'w ddweud...
-
“Roeddwn i wrth fy modd â’r cyrsiau; roeddent yn hynod glir. Roeddent yn ddeinamig a chyfeillgar iawn”
-
“Roedd yr esboniad yn gyflym, yn ymwneud â’r pwnc, a chefais ateb i’m cwestiynau hefyd.”
-
"Roeddwn i wrth fy modd â'r dull cyffrous y traddodwyd y cyflwyniad"
-
"Roedd yn llawn gwybodaeth ynghylch y testun. Fe dderbyniais fy nhystysgrif yn syth wedyn."
-
"Roeddwn i'n hoffi popeth, y ffordd yr esboniwyd pethau a'r holl wybodaeth angenrheidiol a roddwyd gan yr hyfforddwyr"
-
“Fe wnes i fwynhau’r cyflwyniad a’r cyfoeth o wybodaeth a gefais yn ystod y sesiwn. Dysgais bethau newydd yr oeddwn yn gallu eu defnyddio yn ystod fy aseiniadau, sydd wedi bod o gryn help i mi.”
Edrychwch ar ein lluniau o’r Wythnos Sgiliau
Cwestiynau Cyffredin
Isod mae atebion i rai cwestiynau cyffredin - os oes angen ateb nad yw yma arnoch, gyrrwch e-bost atom yn SUOpportunities@uwtsd.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Faint fydd y gost?
Mae sesiynau’r Wythnos Sgiliau am ddim - does ond angen i chi gadarnhau eich lle trwy archebu tocyn
Oes angen i mi fynychu'r wythnos gyfan?
Rydych chi'n rhydd i ddewis y sesiynau rydych chi am eu mynychu a dethol y rhai sy'n iawn i chi! Gallwch ddod i un, rhai, neu bob un ohonynt - chi sydd i benderfynu.
Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer digwyddiad?
Dewch o hyd i sesiwn y mae gennych ddiddordeb ynddi o'r digwyddiadau a restrir, tapiwch ar y digwyddiad ac yna tapiwch ar y Botwm Archebu Nawr.
Pwy sy'n trefnu'r digwyddiadau?
Trefnir Wythnos Sgiliau gan Undeb y Myfyrwyr.
Sut ydw i’n gallu mynychu digwyddiad?
Mae croeso i chi droi i fyny ar gyfer rhai digwyddiadau, ond bydd angen i chi archebu tocyn ar gyfer rhai o’r lleill - ewch i dudalen we'r digwyddiad i weld a oes angen i chi archebu tocyn.