Amdanom Ni

Amdanom Ni

Rydym yn elusen dan arweiniad myfyrwyr. Rydym ar wahân i'r brifysgol. Mae eich aelodaeth yn awtomatig ac am ddim, a chi yw un o aelodau diweddaraf cymuned sy’n cynnwys miloedd o fyfyrwyr. Dysgwch fwy am eich aelodaeth yn www.uwtsdunion.co.uk/cy/about/membership.

Rydyn ni'n dîm o bobl gyfeillgar - fel arfer wedi'u gwisgo mewn porffor ac yng nghwmni Dafydd y Ddraig - a’n hamcan yw eich helpu i wneud y gorau o'ch amser fel myfyriwr. Mae gennym wahanol dimau yn yr Undeb - Cyfleoedd, Llais, Cynghori, Lleoliadau (a Dylunio a Chyfathrebu, sy'n ysgrifennu hwn) - a byddwn yn darparu amlinelliad o'r hyn y mae pob un yn ei wneud a pham y byddech chi am eu hadnabod.

Llywyddion

Efallai nad ydych yn gwybod hyn, ond nid ydym yn rhan o’r brifysgol – rydym yn sefydliad ar wahân sy’n gweithio gyda nhw er lles holl fyfyrwyr PCyDDS. Rydym yn elusen sy’n cael ei harwain gan fyfyrwyr a dan arweiniad tîm o Lywyddion sy’n fyfyrwyr etholedig – eich llywyddion eleni yw Maria, Rhobyn, a Natalie.

Cyfleoedd

Nod ein tîm Cyfleoedd yw darparu hwyl. Mae eich amser fel myfyriwr yn fwy na darlithoedd yn unig, ac fel aelod, gallwch gymryd rhan mewn llawer o wahanol weithgareddau, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau neu ddechrau clybiau a chymdeithasau sy’n ymwneud â diddordeb neu angerdd cyffredin. Gallwch hefyd fynychu ein digwyddiadau (gan gynnwys y cyfnod Croeso swyddogol), cael profiadau gwych gyda Rhowch Gynnig Arni a datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda'r Wythnos Sgiliau.

Llais

Mae ein tîm Llais yn frwd dros sicrhau bod syniadau a barn myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo i'r bobl sydd angen eu clywed. Nhw sy’n gofalu am ein cynrychiolwyr myfyrwyr (ydych chi am ddod yn un ar gyfer 2024/25?), yn cadw llygad ar ein llwyfan Syniadau Mawr, ac yn gyfrifol am bopeth sy’n ymwneud ag etholiadau myfyrwyr.

Cynghori

Rydyn ni i gyd angen help weithiau - fel aelod, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori. Mae’n annibynnol, yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym am eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi.

Lleoliadau

Gallwch ddod i'n bariau, clybiau, a lleoliadau. Mae gennym ni’r Llofft a’r Clwb yng Nghaerfyrddin a’r Hen Far ac Xtension yn Llambed. Mae ein hardaloedd a lleoliadau myfyrwyr yn fannau gwych i ymlacio, dal i fyny gyda ffrindiau, chwarae gemau, gwylio’r teledu, a mwynhau nosweithiau allan.

Dylunio a Chyfathrebu

Ac yn olaf, ond nid yn lleiaf yw’r adran Dylunio a Chyfathrebu - sy’n gweithio gyda'r holl dimau eraill i ledaenu'r gair i gynifer o bobl â phosibl. Fel arfer ni sy'n ysgrifennu cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a'r e-byst - mae croeso i chi ddod draw a dweud Helo.