Cyfrannwch eich arbenigedd, ac enillwch brofiad o lunio strategaeth, gosod cyllidebau, a gwneud penderfyniadau allweddol. Ni yw’r bobl mewn porffor sydd yma i helpu pob myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant i gael yr amser gorau yn y brifysgol.
Ymddiriedolwr Lleyg: Marchnata a Masnacheiddio
Fwrdd yr Ymddiriedolwyr; Comisiwn Elusennau
Rôl wirfoddol ddi-dâl yw hon, ond mae’n gymwys ar gyfer treuliau rhesymol yn unol â pholisi treuliau Undeb y Myfyrwyr
3 Blynedd, 2 gyfnod
Ymddiriedolwyr Sabothol, Myfyrwyr Ymddiriedolwyr, Ymddiriedolwyr Allanol (Lleyg), Prif Weithredwr, Pennaeth Busnes a Chyllid, Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth, Rheolwr Llywodraethiant a Gweinyddiaeth.
Mae Undebau Myfyrwyr yn wahanol i unrhyw fudiad arall — maent yn ddeinamig, yn gweithredu’n gyflym, ac yn esblygu’n gyson i adlewyrchu eu haelodaeth. Nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath: un foment rydym yn cefnogi ymgyrch fawr i fyfyrwyr, y funud nesaf rydym yn dathlu buddugoliaethau myfyrwyr.
Rydym yn fudiad bywiog, sy’n canolbwyntio ar bobl - lle mae creadigrwydd a chydweithio yn ffynnu, a lle mae gan bob syniad y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd myfyrwyr.
Mae bod yn un o’n Hymddiriedolwyr yn golygu y byddwch chi’n helpu i osod ein cyfeiriad er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein cenhadaeth elusennol. Byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y mudiad yn cael ei redeg yn dda, yn ddiogel yn ariannol, ac yn canolbwyntio ar gyflawni newid cadarnhaol i’n haelodau. Mae pob penderfyniad a wnewch yn cyfrannu at waddol o wella profiad y myfyriwr.
Mae bod yn un o’n Hymddiriedolwyr yn gyfle gwych i ennill profiad go iawn mewn arweinyddiaeth, llywodraethiant a strategaeth. Byddwch chi’n gweithio ochr-yn-ochr â myfyrwyr ac ymddiriedolwyr allanol, gan gael cipolwg ar sut mae elusennau’n gweithredu a dysgu sut i wneud penderfyniadau ar lefel y bwrdd. Mae’n brofiad sy’n edrych yn wych ar CV - ond yn bwysicach fyth, mae’n gyfle i gyfrannu eich arbenigedd.
Daw’r Ymddiriedolwyr o gefndiroedd gwahanol, ond mae gan bob un ohonynt un nod: gwneud Undeb y Myfyrwyr y gorau y gall fod. Byddwch yn cydweithio ag arweinwyr staff a myfyrwyr i sicrhau bod yr Undeb yn aros yn driw i’w werthoedd a’i bwrpas, gan gydbwyso uchelgais ag atebolrwydd. Mae’n rôl werth-chweil, sy’n cael ei harwain gan dîm, lle mae eich safbwynt yn wirioneddol bwysig.

Mae dod yn un o'n hymddiriedolwyr yn gyfle anhygoel i ddatblygu'ch hun, cyfrannu eich sgiliau, a helpu achos gwych. Lawrlwythwch ein llyfryn Dod yn Ymddiriedolwr lle rydyn ni'n manylu ar yr hyn mae bod yn ymddiriedolwr yn ei olygu, ac yn edrych ar Fanyleb Bersonol ar gyfer Ymddiriedolwr am holl fanylion y rôl.
Mae nifer o faterion wedi llesteirio cynnydd datblygu’r lleoliad. Mae’r heriau parhaus yn y dirwedd addysg uwch a’r diwydiant lletygarwch yn ffactorau sydd wedi cyfrannu at hyn. Yn ogystal, mae’r adeilad wedi profi problemau cynnal a chadw.
Fodd bynnag, mae cyfle cyffrous wedi codi nawr lle gall y Lleoliad weithredu fel gofod cymdeithasol i fyfyrwyr sy’n byw ar y campws, ac i ddechrau creu canolfan ar gyfer digwyddiadau bywiog sy’n creu ymdeimlad o gymuned ymhlith myfyrwyr. Gyda llety ar y campws yn llawn, nawr yw’r amser perffaith i feithrin perthynas â’r myfyrwyr a gwneud y lleoliad yn ganolbwynt i fywyd myfyrwyr ar y campws, gan greu ail incwm sefydlog i Undeb y Myfyrwyr y gellir ei ailfuddsoddi mewn gweithgareddau a phrofiadau Myfyrwyr.
Mae Ymddiriedolwr Marchnata a Masnacheiddio yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain a goruchwylio is-strategaeth ddylunio a chyfathrebu elusen, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd â nodau a gwerthoedd cyffredinol y mudiad. Maent yn darparu cyfeiriad strategol, yn cynnig arbenigedd, ac yn helpu i ehangu cyrhaeddiad yr elusen i gynyddu gwelededd ac ymgysylltiad o safbwynt marchnata.
Yn fras, mae agwedd fasnacheiddio’r rôl yn canolbwyntio ar ddarparu goruchwyliaeth a chanllawiau strategol i sicrhau cynaladwyedd ariannol a thwf y mudiad trwy weithgareddau masnachol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth gadarn, bod yn adeiladol ar gyfer unrhyw gynlluniau masnachol a ddatblygir, dadansoddi effeithlonrwydd gweithredol, a sicrhau llywodraethiant ariannol effeithiol ar gyfer y cynlluniau hynny. Bydd yr ymddiriedolwr hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn mesur perfformiad a rheoli risg sy’n gysylltiedig â mentrau masnachol.
Yn y bôn, mae’r Ymddiriedolwr Marchnata a Masnacheiddio yn gweithredu fel pont rhwng cenhadaeth elusennol y mudiad a’i weithgareddau masnachol, gan sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn gadarn yn ariannol, wedi’u halinio’n strategol, ac wedi’u rheoli’n foesegol yn ogystal â’u marchnata’n llwyddiannus.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl hon yn meddu ar y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad canlynol:
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair i chwe gwaith y flwyddyn. Mae’r is-bwyllgor yn cyfarfod hyd at dair gwaith y flwyddyn. Gellir cynnal yr holl gyfarfodydd hyn yn rhithiol, ac eithrio un cyfarfod Bwrdd wyneb-yn-wyneb ar safle PCyDDS.
Fodd bynnag, os byddai’n well gan y cadeirydd gynnal cyfarfodydd dros amser cinio yn hytrach nag ar ôl y 9am i 5pm ‘arferol’, gellir hwyluso hyn. Cynhelir pob cyfarfod arlein trwy Microsoft Teams oni nodir yn wahanol.
Nid oes tâl am y rôl hon, a bydd costau teithio domestig rhesymol, a gytunwyd ymlaen llaw, yn cael eu had-dalu. Mae cyfarfodydd y bwrdd yn para tua thair awr gyda phapurau’n cael eu rhannu’r wythnos cynt i’w darllen ac er mwyn i chi baratoi. Mae cyfarfodydd is-bwyllgorau’n para tua awr. Rydym yn hyblyg o ran amseroedd, ac mae pob cyfarfod yn cael ei gofnodi a’i recordio os yw pobl eisiau dal i fyny oherwydd eu bod wedi colli cyfarfodydd.
Gwneir ceisiadau trwy e-bost. Anfonwch eich CV at ein Rheolwr Llywodraethiant a Gweinyddiaeth: laura.smart@uwtsd.ac.uk erbyn 17:00 ddydd Llun 5ed Ionawr 2026.
Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chwblhau rhwng 6ed a 10fed Ionawr 2026.
Mae cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 19eg Ionawr 2026 i’w cynnal ar-lein trwy Microsoft Teams.
Byddwn bob amser yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.
Byddwn yn dewis grŵp o'r ymgeiswyr mwyaf addas i wneud cyflwyniad i'r pwyllgor penodi, a fydd wedyn yn gallu gweld y cais llawn. Bydd y pwyllgor penodi yn cynnwys o leiaf 1 Ymddiriedolwr Lleyg, 1 Myfyriwr Ymddiriedolwr ac 1 Ymddiriedolwr Sabothol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi'n ffurfiol yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sydd wedi’i drefnu ar gyfer 25ain Chwefror 2026. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r cyfarfod hwnnw.
Mae angen i chi fodloni meini prawf penodol er mwyn gwneud cais am rôl fel Ymddiriedolwr; Rhaid i chi fodloni rheolau cymhwysedd y Comisiwn Elusennau ar gyfer Ymddiriedolwyr.
Argymhellir bod pob ymgeisydd yn darllen canllaw’r Comisiwn Elusennau ar fod yn ymddiriedolwr: The Essential Trustee: Yr hyn sydd angen i chi ei wybod; yr hyn sydd angen i chi ei wneud.