Ymddiriedolwr: Pobl a Diwylliant

Cyfrannwch eich arbenigedd, ac enillwch brofiad o lunio strategaeth, gosod cyllidebau, a gwneud penderfyniadau allweddol. Ni yw’r bobl mewn porffor sydd yma i helpu pob myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant i gael yr amser gorau yn y brifysgol.

Trosolwg

Rôl

Ymddiriedolwr Allanol: Pobl a Diwylliant

Yn atebol i

Fwrdd yr Ymddiriedolwyr; Comisiwn Elusennau

Cyflog

Rôl wirfoddol ddi-dâl yw hon, ond mae’n gymwys ar gyfer treuliau rhesymol yn unol â pholisi treuliau Undeb y Myfyrwyr

Cyfnod y Swydd

3 Blynedd, 2 gyfnod

Cysylltiadau Allweddol

Ymddiriedolwyr Sabothol, Myfyrwyr Ymddiriedolwyr, Ymddiriedolwyr Allanol (Lleyg), Prif Weithredwr, Pennaeth Busnes a Chyllid, Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth, Rheolwr Llywodraethiant a Gweinyddiaeth.

Rhesymau dros ddod yn Ymddiriedolwr i ni

Bywiog, Canolbwyntio ar Bobl, Cydweithredol

Mae Undebau Myfyrwyr yn wahanol i unrhyw fudiad arall — maent yn ddeinamig, yn gweithredu’n gyflym, ac yn esblygu’n gyson i adlewyrchu eu haelodaeth. Nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath: un foment rydym yn cefnogi ymgyrch fawr i fyfyrwyr, y funud nesaf rydym yn dathlu buddugoliaethau myfyrwyr.

Rydym yn fudiad bywiog, sy’n canolbwyntio ar bobl - lle mae creadigrwydd a chydweithio yn ffynnu, a lle mae gan bob syniad y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd myfyrwyr.

Gwnewch Wahaniaeth

Mae bod yn un o’n Hymddiriedolwyr yn golygu y byddwch chi’n helpu i osod ein cyfeiriad er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein cenhadaeth elusennol. Byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y mudiad yn cael ei redeg yn dda, yn ddiogel yn ariannol, ac yn canolbwyntio ar gyflawni newid cadarnhaol i’n haelodau. Mae pob penderfyniad a wnewch yn cyfrannu at waddol o wella profiad y myfyriwr.

Cyfrannwch Eich Sgiliau a Gwellwch Eich Gwybodaeth

Mae bod yn un o’n Hymddiriedolwyr yn gyfle gwych i ennill profiad go iawn mewn arweinyddiaeth, llywodraethiant a strategaeth. Byddwch chi’n gweithio ochr-yn-ochr â myfyrwyr ac ymddiriedolwyr allanol, gan gael cipolwg ar sut mae elusennau’n gweithredu a dysgu sut i wneud penderfyniadau ar lefel y bwrdd. Mae’n brofiad sy’n edrych yn wych ar CV - ond yn bwysicach fyth, mae’n gyfle i gyfrannu eich arbenigedd.

Ehangu Eich Rhwydwaith

Daw’r Ymddiriedolwyr o gefndiroedd gwahanol, ond mae gan bob un ohonynt un nod: gwneud Undeb y Myfyrwyr y gorau y gall fod. Byddwch yn cydweithio ag arweinwyr staff a myfyrwyr i sicrhau bod yr Undeb yn aros yn driw i’w werthoedd a’i bwrpas, gan gydbwyso uchelgais ag atebolrwydd. Mae’n rôl werth-chweil, sy’n cael ei harwain gan dîm, lle mae eich safbwynt yn wirioneddol bwysig.


Lawrlwythwch ein Pecyn Ymddiriedolwyr

Mae dod yn un o'n hymddiriedolwyr yn gyfle anhygoel i ddatblygu'ch hun, cyfrannu eich sgiliau, a helpu achos gwych. Lawrlwythwch ein llyfryn Dod yn Ymddiriedolwr lle rydyn ni'n manylu ar yr hyn mae bod yn ymddiriedolwr yn ei olygu, ac yn edrych ar Fanyleb Bersonol ar gyfer Ymddiriedolwr am holl fanylion y rôl.


Prif Gyfrifoldebau

  1. Sicrhau bod gwaith Undeb y Myfyrwyr yn adlewyrchu ei amcanion, ei genhadaeth a’i werthoedd, a’i fod o fudd i holl fyfyrwyr PCyDDS.
  2. Penderfynu ar gyfeiriad strategol cyffredinol Undeb y Myfyrwyr a datblygu’r mudiad yn unol ag egwyddorion llywodraethiant da.
  3. Cynorthwyo â datblygiad Undeb y Myfyrwyr trwy oruchwylio cynllunio strategol clir, wedi’i seilio ar ddealltwriaeth gydlynol o’r amgylchedd y mae’r mudiad yn gweithredu ynddo.
  4. Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd effeithiol, cyfrifol ac atebol o fewn anghenion cyfreithiol ac ariannol mudiad elusennol.
  5. Cynnal goruchwyliaeth gyllidol gadarn a rheoli cronfeydd ariannol ac adnoddau i sicrhau bod y mudiad yn parhau i fod yn hyfyw.

Dyletswyddau Penodol

  1. Mynychu o leiaf bum cyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr bob blwyddyn academaidd. Mae’r opsiynau ar gyfer mynychu’n cynnwys trwy ddulliau electronig gydag un cyfarfod wyneb-yn-wyneb (cyfarfod diwedd blwyddyn ym mis Mehefin bob blwyddyn).
  2. Ar y cyd ag aelodau eraill y Bwrdd, gosod y cyfeiriad i staff a gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â strategaeth, polisi, cyllid a gweithrediad Undeb y Myfyrwyr.
  3. Ar y cyd ag aelodau eraill y Bwrdd, gosod amcanion strategol ar gyfer Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr, ac adolygu ei waith.
  4. Cyfranogi yn y broses o recriwtio aelodau’r Bwrdd a staff Undeb y Myfyrwyr yn ôl y galw.
  5. Ymgymryd â phroses sefydlu ac unrhyw hyfforddiant arall fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni’r dyletswyddau uchod.
  6. Darllen yn drylwyr cyn cyfarfodydd yr holl bapurau a anfonir allan i’w trafod a pharatoi syniadau a chyfraniadau.
  7. Monitro perfformiad Undeb y Myfyrwyr gan ddefnyddio dangosyddion perfformiad allweddol, adroddiadau prosiect a chyfrifon rheoli.
  8. Cymryd rhan mewn is-bwyllgorau a grwpiau prosiect sy’n berthnasol i’ch arbenigedd (3 chyfarfod y flwyddyn o’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant).
  9. Bod yn rhan o drafodion apeliadau fel sy’n ofynnol gan y ddogfen lywodraethol.
  10. Hyrwyddo gwerthoedd a gwaith Undeb y Myfyrwyr, a gweithredu er budd y mudiad bob amser.
  11. Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd effeithiol, cyfrifol ac atebol o fewn anghenion cyfreithiol ac ariannol mudiad elusennol.

Manyleb y person

Bydd yr ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl hon yn meddu ar y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad canlynol:

  1. Profiad o Reoli Adnoddau Dynol: Meddu ar brofiad o Reoli Adnoddau Dynol mewn sefydliadau o’r un maint. Mae cymhwyster ardystiedig CIPD yn ddymunol. Bydd craffter masnachol o fudd mawr ar gyfer y rôl hon
  2. Cyfforddus â Mentora Myfyrwyr: Dylai fod yn gyfforddus yn darparu mentora ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin eu datblygiad personol a phroffesiynol o fewn y mudiad.
  3. Brwdfrydedd dros Werthoedd y mudiad: Dangos brwdfrydedd gwirioneddol dros natur ddemocrataidd, gyfranogol, a dan arweiniad myfyrwyr Undeb Myfyrwyr PCyDDS.
  4. Barn Annibynnol: Dangos y gallu i lunio a mynegi barn annibynnol pan fo angen, gan ystyried buddiannau gorau’r mudiad a’i aelodau
  5. Meddwl Strategol: Y gallu i feddwl yn strategol a chyfrannu at ddatblygiad a llwyddiant hirdymor Undeb y Myfyrwyr
  6. Dealltwriaeth o Rôl Ymddiriedolwr: Dangos dealltwriaeth o rôl Ymddiriedolwr Allanol, gan gynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol (er bod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu)
  7. Ymwybyddiaeth o Anghydraddoldeb Cymdeithasol: Dangos dealltwriaeth o faterion sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb cymdeithasol
  8. Cydweithio fel rhan o Dîm: Dangos y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm gyda lefelau amrywiol o brofiad, gan feithrin cydweithio a chynhwysiant
  9. Datblygu Ymgysylltiad a Gweithgareddau: Dod â syniadau a strategaethau arloesol ar gyfer cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr a datblygu gweithgareddau dan arweiniad yr aelodaeth, gan gyfrannu at gymuned fyfyrwyr fywiog.

Lleoliad ac amseroedd

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair i chwe gwaith y flwyddyn. Mae’r is-bwyllgor yn cyfarfod hyd at dair gwaith y flwyddyn. Gellir cynnal yr holl gyfarfodydd hyn yn rhithiol, ac eithrio un cyfarfod Bwrdd wyneb-yn-wyneb ar safle PCyDDS.

Cyfarfodydd y Bwrdd

  1. Dydd Iau 16 Hydref o 17:15
  2. Dydd Mawrth 9 Rhagfyr o 13:00
  3. Dydd Mercher 18 Chwefror o 17:15
  4. Dydd Iau 21 Ebrill o 17:15
  5. Dydd Gwener 25 Mehefin o 14:00 - wyneb-yn-wyneb, ar wahanol gampysau o un flwyddyn i’r llall. Cynhelir pob cyfarfod ar-lein trwy Microsoft Teams oni nodir yn wahanol.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Pobl a Diwylliant

  1. Dydd Iau 6 Tachwedd o 5:15pm
  2. Dydd Iau 16 Ebrill o 5:15pm
  3. Dydd Mawrth 11 Mehefin o 5:15pm

Fodd bynnag, os byddai’n well gan y cadeirydd gynnal cyfarfodydd dros amser cinio yn hytrach nag ar ôl y 9am i 5pm ‘arferol’, gellir hwyluso hyn. Cynhelir pob cyfarfod arlein trwy Microsoft Teams oni nodir yn wahanol.


Cyfnod y penodiad

Nid oes tâl am y rôl hon, a bydd costau teithio domestig rhesymol, a gytunwyd ymlaen llaw, yn cael eu had-dalu. Mae cyfarfodydd y bwrdd yn para tua thair awr gyda phapurau’n cael eu rhannu’r wythnos cynt i’w darllen ac er mwyn i chi baratoi. Mae cyfarfodydd is-bwyllgorau’n para tua awr. Rydym yn hyblyg o ran amseroedd, ac mae pob cyfarfod yn cael ei gofnodi a’i recordio os yw pobl eisiau dal i fyny oherwydd eu bod wedi colli cyfarfodydd.


Y Broses Benodi

Gwneir ceisiadau trwy e-bost. Anfonwch eich CV at ein Rheolwr Llywodraethiant a Gweinyddiaeth: laura.smart@uwtsd.ac.uk erbyn 17:00 ddydd Llun 5ed Ionawr 2026. 

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chwblhau rhwng 6ed a 10fed Ionawr 2026.

Mae cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 19eg Ionawr 2026 i’w cynnal ar-lein trwy Microsoft Teams.

Byddwn bob amser yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.

Byddwn yn dewis grŵp o'r ymgeiswyr mwyaf addas i wneud cyflwyniad i'r pwyllgor penodi, a fydd wedyn yn gallu gweld y cais llawn. Bydd y pwyllgor penodi yn cynnwys o leiaf 1 Ymddiriedolwr Lleyg, 1 Myfyriwr Ymddiriedolwr ac 1 Ymddiriedolwr Sabothol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi'n ffurfiol yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sydd wedi’i drefnu ar gyfer 25ain Chwefror 2026. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r cyfarfod hwnnw. 
 


Cymhwysedd

Mae angen i chi fodloni meini prawf penodol er mwyn gwneud cais am rôl fel Ymddiriedolwr; Rhaid i chi fodloni rheolau cymhwysedd y Comisiwn Elusennau ar gyfer Ymddiriedolwyr.

Argymhellir bod pob ymgeisydd yn darllen canllaw’r Comisiwn Elusennau ar fod yn ymddiriedolwr: The Essential Trustee: Yr hyn sydd angen i chi ei wybod; yr hyn sydd angen i chi ei wneud.