Â’r nod o ddod â thipyn o gyffro i ddechrau'r tymor mae Ail Gyfnod y Glas yn dechrau ddydd Llun 27ain Ionawr 2025.
Mae'n llawn-dop â digwyddiadau yn arbennig ar gyfer myfyrwyr PCyDDS, a byddwn yn cynnal ffeiriau Ail Gyfnod y Glas fel y gallwch chi ddarganfod beth sy'n digwydd ar y campws ac yn yr ardal. Dewch â'ch cyd-fyfyrwyr â'ch cyd-letywyr gyda chi.
Dewch i Ail Ffeiriau'r Glas yng Nghaerfyrddin, Llambed, ac Abertawe, er mwyn darganfod beth sy'n digwydd ar y campws ac yn yr ardal ac i gael eich atgoffa ynghylch gwasanaethau'r Undeb a'r Brifysgol.
Maen nhw'n dweud bod llun yn werth mil o eiriau, felly yn hytrach na mynd ymlaen ac ymlaen, beth am fwrw golwg ar rai o luniau Ail Gyfnod y Glas i weld beth rydyn ni wedi'i gynnig yn y gorffennol.