Profiadau bythgofiadwy, dawnsio tan yr oriau mân, mwynhau cerddoriaeth, chwerthin cymaint nes bod eich stumog yn brifo, gwneud ffrindiau oes - mae'r cyfan yn dechrau nawr. Maen nhw'n dweud bod llun yn werth mil o eiriau, felly yn hytrach na mynd ymlaen ac ymlaen, edrychwch ar ein halbwm lluniau Croeso i weld beth rydym wedi'i wneud o'r blaen.
Fel undeb myfyrwyr PCyDDS, ni sy’n cynnal yr Groeso swyddogol - ond pam fod hyn o bwys? Rydym yn rhoi eich profiad myfyriwr yn gyntaf, tra bod eraill yn rhoi elw yn gyntaf. Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael y croeso gorau posibl i fywyd myfyriwr; rydym wedi cymharu ein digwyddiadau swyddogol yn erbyn y rhai answyddogol isod.
Mae'n rhaid mai dyma ein hoff adeg o'r flwyddyn - yr holl egni a chyffro, cwrdd â'r wynebau newydd a dal i fyny â'r rhai sy'n dychwelyd - ni allwn aros am y Cyfnod Croeso. Tan hynny, dilynwch ni ar Instagram a TikTok, ac mae croeso i chi anfon sylw neu neges atom.
P'un ai dyma'ch tro cyntaf neu'ch tro olaf, efallai y bydd gennych gwestiynau am y Cyfnod Croeso. Rydym wedi llunio atebion i gwestiynau cyffredin. Peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd i'ch ateb - gyrrwch e-bost atom yn union@uwtsd.ac.uk neu anfonwch DM ar Instagram, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi yn ôl.
Mae angen i chi archebu tocyn ar gyfer rhai ohonynt; ewch i dudalen we unigol y digwyddiad i weld a oes angen i chi archebu tocyn.
Gallwch! Mae digwyddiadau croeso ar gyfer holl fyfyrwyr PCyDDS – p’un a ydych yn eich blwyddyn gyntaf neu’ch blwyddyn olaf.
Nac oes, does dim angen i chi wneud hynny. Gallwch ddefnyddio unrhyw e-bost, ond efallai y byddwn yn gofyn i weld prawf o’ch statws fel myfyriwr - gall hwn fod eich cerdyn myfyriwr.
Peidiwch â phoeni, anfonwch e-bost atom union@uwtsd.ac.uk a byddwn yn ei ddatrys.
Rydym yn ceisio gwneud pob un ein digwyddiadau mor gynhwysol â phosibl. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddigwyddiad a'ch anghenion, anfonwch e-bost at union@uwtsd.ac.uk.