Yn ogystal â chanolbwyntio ar astudiaethau, mae angen i fyfyrwyr wneud pethau eraill yn ystod eu hamser yn y brifysgol i ddatblygu eu CV a’u cyflogadwyedd. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn bodoli er mwyn helpu myfyrwyr i gadw trefn ar hyn i gyd, o’r diwrnod cyntaf. Does dim angen drafft o CV arnoch chi, syniad am yrfa mewn golwg na bod yn eich blwyddyn olaf i ddefnyddio'r gwasanaeth. Beth bynnag fo'ch sefyllfa, beth am wneud apwyntiad a chael y cymorth sydd ei angen arnoch?