Dyma rai o'n Cwestiynau Mwyaf Cyffredin a ofynnir am Amgylchiadau Esgusodol. Os na allwch weld eich cwestiwn yn cael ei ateb - neu os ydych chi am gael cyngor mwy penodol ynghylch eich sefyllfa bersonol - mae croeso i chi gysylltu â ni yn y gwasanaeth Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, ac ni fyddwn yn trafod eich achos gyda nhw heb eich caniatâd.
Os na allwch wneud eich gwaith gorau cyn y dyddiad cau, a bod hyn oherwydd - er enghraifft - problem iechyd, neu rywbeth sy'n digwydd yn eich bywyd personol, dylech ystyried gwneud cais am Amgylchiadau Esgusodol ('AE').
Os ydych chi'n gymwys i wneud cais am AE, mae’n fanteisiol i chi wneud hynny. Os byddwch yn gwneud cais am AE, a bod eich cais yn cael ei dderbyn, yna mae gennych y dewisiadau canlynol:
Gallwch chi gyflwyno’r gwaith beth bynnag.
Gallwch chi gyflwyno’r gwaith hyd at 1 wythnos yn hwyr.
Gallwch ddewis peidio â chyflwyno’r gwaith.
Gallwch wneud cais am AE ar MyTSD (o dan 'Newidiadau Data'), hyd at 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr aseiniad. Peidiwch ag anghofio:
Gallwch chi wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol (AE) ar gyfer yr aseiniad, hyd at 3 wythnos ar ôl y terfyn amser.
Os llwyddoch chi i gyflwyno’r gwaith hyd at 1 wythnos yn hwyr, a bod eich AE wedi cael eu derbyn:
Os na lwyddoch chi i gyflwyno’r gwaith o gwbl, a bod eich AE wedi cael eu derbyn: :
Wrth gwrs, gorau po gyntaf y byddwch yn gwneud cais am AE. Fel yna, bydd gennych y 'tawelwch meddwl' o wybod eu bod wedi'u derbyn.
Os nad oeddech yn gallu gwneud cais am AE cyn pen 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau – er enghraifft, oherwydd eich bod yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwnnw – byddai angen i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos pam nad oeddech yn gallu gwneud hynny. Ni fydd y Brifysgol fel arfer yn derbyn nad oeddech yn gwybod am y broses AE, gan y byddwch wedi cael gwybod am AE yn ystod eich cyfnod sefydlu.
Mae Adran 14 o'r Polisi Amgylchiadau Lliniarol yn egluro'r meini prawf ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol. Y pwynt allweddol yw bod yn rhaid i chi ddarparu 'tystiolaeth ddogfennol annibynnol' bod rhywbeth penodol wedi effeithio ar eich astudiaethau yn y cyfnod cyn, neu yn ystod, yr asesiad dan sylw.
Fel arfer, mae hyn yn golygu darparu llythyr neu ddatganiad gan broffesiynwr, fel Tystysgrif Feddygol neu Ddatganiad o Ffitrwydd i Weithio gan feddyg ar gyfer cyflwr meddygol. Dylai llythyrau ddod o gyfeiriad e-bost swyddogol (nid cyfeiriad personol), neu ar bapur â phennawd.
Mae'n rhaid i'r dystiolaeth y byddwch yn ei darparu gadarnhau bod yr hyn yr ydych yn hawlio AE ar ei gyfer yn bendant wedi digwydd. Er enghraifft, os yw'r llythyr gan eich meddyg dim ond yn nodi eich bod wedi dweud wrth eich meddyg am salwch, ond na chawsoch ddiagnosis gan y meddyg ar gyfer y salwch hwn mewn gwirionedd, ni fydd hyn yn cael ei dderbyn. Neu, os bu farw rhywun yr oeddech yn agos ato, fel arfer byddai disgwyl i chi ddarparu Trefn y Gwasanaeth ar gyfer yr angladd neu gopi o'r Dystysgrif Marwolaeth.
Mae’n rhaid i’r Swyddog Achos sy’n ystyried eich cais am AE allu gweld y bu effaith ar eich astudiaethau, a gweld bod yr effaith hon wedi bod yn ystod cyfnod yr asesiad (neu ychydig cyn hynny). O ganlyniad, ni fydd tystiolaeth fel ffotograff o feddyginiaeth ar bresgripsiwn gan feddyg yn cael ei derbyn, gan nad yw'n darparu'r wybodaeth hon.
Mae yna hefyd bethau penodol sydd ddim yn cyfrif fel AE, oherwydd mae'r Brifysgol yn gweld y rhain fel pethau y gallwch chi eu rheoli yn eich bywyd o ddydd-i-ddydd fel myfyriwr. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, anghofio gwneud copi wrth gefn o’ch aseiniad ar eich dyfais eich hun (er efallai y bydd y Brifysgol yn derbyn hynny os mai dyfais y Brifysgol oed yn ddiffygiol), symud tŷ, neu wynebu anhawster ariannol dros-dro (er enghraifft, os ydych yn ychydig yn brin o arian yn ystod wythnos olaf y tymor).
Ni fydd y Brifysgol fel arfer yn derbyn AE yn seiliedig ar orfod gweithio oriau hir - oni bai bod cysylltiad agos rhwng eich astudiaethau a'ch gwaith (er enghraifft, os yw'ch cyflogwr yn eich noddi, neu os ydych ar Brentisiaeth Gradd, neu debyg).
Yn yr un modd, unrhyw fân salwch (e.e. annwyd); mae hyn yn annhebygol o gael ei dderbyn oni bai y gallwch chi ddangos bod yr effaith yn fwy difrifol nag y gellid ei ddisgwyl.
Yn olaf, nid y system AE yw'r ffordd gywir o gael cymorth ar gyfer anabledd - diben AE yw mynd i'r afael ag effaith anawsterau iechyd a phersonol dros-dro ar eich astudiaethau. Os oes gennych chi gyflwr hirdymor, dylech siarad â’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr yngylch 'addasiadau rhesymol' ac (os yw'n addas) Datganiad o Fesurau Cydadferol.
Os na allwch ddarparu unrhyw fath o dystiolaeth fel yr awgrymir uchod, ond eich bod yn dal i gredu y dylid cydnabod eich AE, mae opsiwn arall ar gael - gallwch fynd at Reolwr Cymorth Dysgu yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, a gofyn iddynt ddarparu 'Ffurflen Cadarnhad o Amgylchiadau Esgusodol gan y Brifysgol'. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod.
Er mwyn dod o hyd i broffesiynwr addas a allai roi tystiolaeth o'ch Amgylchiadau Esgusodol ('AE'), efallai y byddai'n werth 'meddwl y tu allan i'r bocs'. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael unrhyw gymorth gan weithiwr cymdeithasol neu elusen sy'n gallu cadarnhau'r hyn rydych chi wedi bod yn mynd drwyddo, efallai y bydd y Brifysgol yn gallu cydnabod e-bost swyddogol neu lythyr oddi wrthyn nhw ar bapur â phennawd.
Os nad oes neb mewn gwirionedd a all wneud hyn i chi, mae ffordd arall. Gallwch fynd at Reolwr Cymorth Dysgu yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, a gofyn a allant ddarparu Cadarnhad o Amgylchiadau Esgusodol gan y Brifysgol. Gellir defnyddio'r Cadarnhad hwn fel tystiolaeth ar gyfer cais am AE. Bydd y Rheolwr Cymorth Dysgu am gael gwybod beth sydd wedi digwydd (a pham na allwch ddarparu 'tystiolaeth ddogfennol annibynnol').
Bydd Hwb, neu dîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich campws, yn gallu eich cyfeirio at y Rheolwr Cymorth Dysgu cywir.
Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni i gael awgrymiadau ynghylch sut y gallech ddod o hyd i dystiolaeth addas ar gyfer eich cais am AE.
Cofiwch fod rhaid i chi wneud cais am AE eich hun – ni all aelod o staff y Brifysgol fel arfer wneud hyn ar eich rhan. Nid yw'n ddigon sôn wrth aelod o staff y Brifysgol am yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo – bydd y Brifysgol yn disgwyl i chi lenwi'r ffurflen.
Dylech fod wedi derbyn e-bost gan y Swyddfa Academaidd yn esbonio pam na chafodd eich AE eu derbyn. Dyma rai rhesymau posibl:
Mae un cyfle olaf i gyflwyno'r achos i'r Brifysgol - gelwir y cam hwn yn 'Adolygiad o Ganlyniad'. Mae gennych chi 21 diwrnod i wneud cais am hyn ar ôl i ganlyniad eich cais am Amgylchiadau Esgusodol gael ei anfon atoch. Cysylltwch â ni gynted â phosibl am gyngor a chymorth gyda'r cam hwn.
Os ydych chi’n gwneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd y Swyddfa Academaidd yn gofyn i Swyddog Achos newydd gynnal yr ymchwiliad. Cofiwch fod y 'sail' ar gyfer gwneud cais am Adolygiad o Ganlyniad yn wahanol i'r sail ar gyfer gwneud cais am Apêl Academaidd. Yn syml, er mwyn 'ennill' mewn Adolygiad o Ganlyniad, mae'n rhaid i chi ddangos un o'r canlynol:
I wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd angen i chi lenwi Ffurflen SC11, y gallwch ddod o hyd iddi yma. Ar ôl i chi wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, dylech dderbyn ymateb terfynol y Brifysgol cyn pen 28 diwrnod. Cadwch lygad ar eich e-byst rhag ofn y bydd y Swyddog Achos yn cysylltu â chi i gael mwy o dystiolaeth neu eglurhad.
Mae un opsiwn arall ar ôl os yw eich Adolygiad o Ganlyniad hefyd yn cael ei wrthod, neu os na allwch fodloni'r 'sail' ar gyfer Adolygiad o Ganlyniad, ond eich bod yn dal i gredu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Gallwch gyflwyno Cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch, sef corff cenedlaethol sy'n gallu cynnal ymchwiliad i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych chi hyd at 12 mis o ddyddiad terfynu eich achos yn PCyDDS i wneud cwyn o’r fath. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn am lythyr 'Cwblhau Gweithdrefnau' gan y Brifysgol, a dilyn y cyfarwyddiadau yma. Unwaith eto, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu gyda'r rhan hon o'r broses, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad pellach.