Tai

Rydyn ni am i bob myfyriwr deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel ble bynnag maen nhw'n byw. Felly, p'un a ydych chi'n aros mewn neuaddau, yn rhentu'n breifat neu'n chwilio am dŷ neu fflat, mae ein hadran tai a llety’n cynnig cyngor gwych; o ddelio â materion tai, i ganllawiau ar gyfer contractau a blaen-daliadau i gymorth ariannol. Defnyddiwch y ddewislen isod i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi neu anfonwch e-bost atom yn unionadvice@uwtsd.ac.uk.

Beth ddylwn i ei ystyried cyn penderfynu gyda phwy i fyw?

Cyn i chi fynd ati i lofnodi cytundeb tenantiaeth, mae'n syniad da penderfynu beth yw eich blaenoriaethau, eich lleoliad dewisol a'r gyllideb y mae'n rhaid i chi weithio o fewn iddi. Os ydych chi’n mynd i fod yn byw gyda ffrindiau, dylech hefyd feddwl am ffordd o fyw eich cyd-letywyr, ac a yw hyn yn mynd i fod yn addas i chi; cofiwch y byddwch yn byw gyda'r bobl hyn am bron i flwyddyn, felly dewiswch yn ddoeth. Mynnwch drafodaeth agored am eich blaenoriaethau a'r hyn yr ydych yn fodlon cyfaddawdu arno. Pwy sy'n hoffi cael y gwres ymlaen ar lefel uchel a phwy fyddai'n well ganddynt wisgo siwmper? Pwy sy'n hoffi mynd allan a phwy sy'n well ganddynt aros i mewn? Efallai y byddwch chi'n dewis byw gyda ffrindiau o'ch cwrs neu gymdeithas, neu bobl roeddech chi'n byw gyda nhw yn y flwyddyn gyntaf.

Cwestiynau i feddwl amdanynt cyn mynd i weld tŷ neu fflat

Rydyn ni wedi creu teclyn ar-lein, hawdd ei ddefnyddio i'w gwneud hi'n haws i chi gofnodi gwybodaeth bwysig pan fyddwch chi’n mynd i weld tai a fflatiau.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu gyda phwy y byddwch yn byw, rydym yn argymell gwneud rhywfaint o ymchwil i brisiau rhent cyfartalog a phwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o fyw mewn gwahanol rannau o'r ddinas neu'r dref yr ydych ynddi. Cyn mynd i edrych ar dŷ neu flat, lluniwch rai cwestiynau y byddech chi am eu gofyn i'r landlord/asiant gosod tai. Er enghraifft, a yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu, a yw biliau cyfleustodau wedi'u cynnwys, beth yw'r blaendal cadw, a oes arwyddion o leithder/llwydni, pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ardd? Gwiriwch gyda’r landlord/asiant beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le yn yr eiddo. Oes yna rif cysylltu mewn argyfwng, neu a oes rhaid aros tan oriau swyddfa?

Yna mae angen i chi ddarllen y contract yn ofalus; unwaith y byddwch chi wedi cytuno i fyw yn yr eiddo, rydych chi i bob diben yn gaeth i’r telerau hynny am gyfnod y cytundeb. Gwiriwch fod yr holl enwau cywir yn bresennol ar y contract, bod yr holl symiau (rhent, blaendaliadau) fel y cytunwyd arnynt, pryd y gallwch symud i mewn a phwy sy’n rheoli’r eiddo – yr asiant gosod eiddo neu’r landlord.

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n rhentu'n breifat â thenantiaeth fyrddaliadol sicr.  Mae gennych yr un hawliau â phobl nad ydynt yn fyfyrwyr yn y math hwn o denantiaeth. Fel arfer gofynnir i chi ddarparu gwarantwr. Yn aml, rhiant neu aelod o'r teulu yw’r person yma, sy'n gwarantu talu eich rhent os na wnewch chi hynny. Bydd yn rhaid iddynt lofnodi cytundeb gwarantwr, ac efallai y byddant am fynnu cyngor eu hunain cyn llofnodi.

Cyngor defnyddiol: Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld yr eiddo ac yn sgwrsio â'r tenantiaid presennol am eu profiad o fyw yno. Rydym hefyd yn eich cynghori i fod yn effro i sgamiau rhentu. Gall myfyrwyr gael eu targedu gan dwyllwyr sy'n hysbysebu eiddo nad yw'n bodoli neu sydd eisoes wedi'i rentu.

Oes rhaid i warantwr fod yn byw yn y DU?

Gall eich landlord ofyn am riant neu berthynas arall i warantu y bydd yn talu eich rhent os na fyddwch chi’n ei dalu. Yn gyffredinol, bydd landlordiaid am i chi ddarparu gwarantwr sy'n byw yn y DU, gan y bydd yn haws iddynt gymryd camau cyfreithiol os oes unrhyw rent heb ei dalu.

A fydd angen blaendal arnaf?

Bydd angen blaendal ar bron bob contract. Yng Nghymru, rhaid diogelu blaendaliadau o fewn Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau. Ar ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, talwch eich blaendal i'ch landlord neu asiant fel arfer. O fewn 14 diwrnod, mae gofyn i'r landlord neu asiant roi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut caiff eich blaendal ei warchod, gan gynnwys:

  • Manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaeth
  • Manylion cyswllt y landlord neu'r asiant
  • Sut i wneud cais am ryddhau'r blaendal
  • Gwybodaeth sy'n esbonio diben y blaendal
  • Beth i'w wneud os oes anghydfod ynglŷn â'r blaendal

Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy landlord neu asiant wedi diogelu fy mlaendal?

Gallwch wneud cais i'ch llys sirol lleol; gall y llys wedyn orchymyn eich landlord neu asiant i naill ai ad-dalu eich blaendal i chi, neu ei osod mewn cynllun gwarchod blaendaliadau.

www.gov.uk/tenancy-deposit-protection

A allaf gael gostyngiad yn fy nhreth cyngor?

Gall myfyrwyr llawn-amser cofrestredig wneud cais am eithriad rhag talu treth cyngor. I gael eich ystyried yn fyfyriwr llawn-amser, rhaid i chi fod ar gwrs sy'n para o leiaf blwyddyn, sy'n gofyn am dros 21 awr o astudio bob wythnos. Fel rheol bydd angen i fyfyrwyr rhan-amser dalu, ond gallent fod yn gymwys i gael gostyngiad ar sail ffactorau eraill. Mynd yn syth i astudiaeth ôl-raddedig? Sylwch y bydd yn rhaid i chi dalu treth yn ystod gwyliau'r haf rhwng blynyddoedd academaidd. I hawlio eithriad, gallwch ofyn am y ffurflen ar MyTSD.

Os ydych chi’n byw mewn tŷ a rennir gyda myfyrwyr llawn-amser a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr, byddwch yn cael bil treth y cyngor trwy'r drws bob mis. Fodd bynnag, dim ond y tenantiaid hynny nad ydynt yn fyfyrwyr fydd yn gorfod ei dalu - mae myfyrwyr llawn-amser yn dal i fod wedi'u heithrio.

A oes angen trwydded deledu arnaf?

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn gwylio neu'n recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu neu ar wasanaeth teledu ar-lein (gan gynnwys eich gliniadur, llechen neu ffôn clyfar) fel All4, SkyGo a YouTube, neu'n lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar alw ar iPlayer, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi fod â thrwydded deledu neu mae’n bosib y cewch ddirwy.

Faint o arian ddylwn i ei roi o'r neilltu ar gyfer biliau cyfleustodau?

Mae biliau cyfleustodau fel nwy a thrydan yn cynrychioli gwariant sylweddol i fyfyrwyr. Gallwch drafod newid eich cyflenwr gyda'ch asiant gosod tai neu landlord. Bydd defnyddio gwefan cymharu prisiau fel Compare The Market yn eich helpu i ddod o hyd i'r fargen orau. Gallwch leihau eich defnydd o drydan trwy ddiffodd unrhyw offer electroneg a chyfarpar arall wrth y soced yn y wal pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn hytrach na'u gadael yn y modd segur, a newid i fylbiau golau LED sy'n arbed ynni. 

Gallech hefyd ofyn am fesurydd clyfar gan eich cyflenwr ynni i'ch helpu i gadw golwg ar eich defnydd o drydan a darparu darlleniadau mesurydd cywir. Mae llawer o gyflenwyr yn gosod y rhain am ddim. Ac efallai fod hyn yn swnio’n amlwg, ond gwisgwch ddillad cynhesach o gwmpas y tŷ lle troi’r gwres canolog ymlaen yn ddiangen, a defnyddiwch y ddyfais amseru ar eich gwres canolog, yn hytrach na chynhesu tŷ gwag trwy’r dydd tra byddwch allan.

Mae biliau dŵr ym mhob rhan o'r wlad yn cael eu hanfon allan gan un cyflenwr penodol. Os ydych ar dariff safonol, byddwch yn cael bil am swm penodol yn dibynnu ar werth y tŷ. Gallwch dalu'r bil blynyddol cyfan ymlaen llaw neu trwy randaliadau gydol y flwyddyn. Os yw eich tŷ ar fesurydd dŵr, dim ond am y dŵr rydych chi wedi'i ddefnyddio y byddwch chi'n talu. Gallwch arbed dŵr trwy ddiffodd y tap pan fyddwch yn brwsio eich dannedd, a chyfyngu cawodydd i bum munud - prynwch amserydd cawod sy'n dal dŵr ac anogwch bawb yn eich tŷ i ymuno â'r fenter. Ac yn olaf, ceisiwch ddefnyddio eich peiriant golchi dillad pan fydd gennych chi lwyth llawn yn unig fel nad ydych yn gwastraffu dŵr; trefnwch ddiwrnod golchi gyda'ch cyd-letywyr.

Ble gallaf gael gwybod pa bryd fydd ein sbwriel/ailgylchu yn cael ei gasglu?

Gallwch gael gwybod pryd fydd eich biniau'n cael eu casglu ar-lein trwy fynd i wefan eich cyngor lleol. Dylech fod yn gallu nodi eich côd post, ac yna darganfod y diwrnod y caiff eich biniau eu casglu ac i gael mynediad at y calendr ar gyfer eich ardal.

Rwy'n cael trafferth setlo i mewn. Ai dim ond fi'n teimlo'n unig ac yn hiraethus?

I rai pobl bydd y profiad o symud i’r Brifysgol yn teimlo'n esmwyth ac yn syml, ond mae’n cymryd amser i lawer setlo i mewn. Rhowch amser i chi'ch hun addasu i ffordd newydd o fyw, a chofiwch y bydd pobl eraill yn cael teimladau tebyg i chi. Os ydych chi'n teimlo’n hiraethus, gall fod yn demtasiwn i chi gau eich hun i ffwrdd, ond gall hyn beri i chi deimlo'n fwy unig. Ceisiwch beidio â rhoi gormod o bwysau arnoch chi'ch hun; tra bod y rhan fwyaf o bobl yn elwa o rywfaint o ryngweithio cymdeithasol, mae'n bwysig dod o hyd i gydbwysedd sy'n gweithio'n dda i chi fel unigolyn. Mae gadael eich drws ar agor tra byddwch yn eich ystafell yn un ffordd o greu cyfle i sgwrs gychwyn.

Efallai y gwelwch fod gennych chi fwy yn gyffredin â phobl ar eich cwrs neu fod yn well gennych chi gymdeithasu â phobl eraill y tu allan i'ch fflat. Bydd ymuno â chlwb neu gymdeithas yn eich cyflwyno i bobl sy'n rhannu’r un diddordebau â chi; ewch i'n tudalen Cyfleoedd am ragor o wybodaeth. 

Anogir myfyrwyr hefyd i geisio cymorth llesiant os ydych chi'n chwilio am le diogel i sgwrsio am sut rydych chi'n teimlo.

A oes ffordd i raddio fy mhrofiad o denantiaeth?

Oes, mae Marks Out Of Tenancy yn pontio’r bwlch rhwng un rhentiwr â’r nesaf. Gallwch adolygu eich landlord, asiant gosod, eiddo rhent a chymdogaeth.

A oes gan landlord ddyletswyddau iechyd a diogelwch?

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid sicrhau bod offer nwy yn cael eu gwirio'n flynyddol gan beiriannydd sydd wedi'i gofrestru â Gas Safe. Mae'n ofynnol iddynt hefyd sicrhau bod gan bob teclyn trydanol a ddarperir y marc CE (yn ôl gweithgynhyrchwyr, mae hwn yn bodloni Cyfraith Safonau Diogelwch Ewropeaidd). Dylai eich Landlord ddarparu larwm dân ar gyfer pob lefel llawr a synhwyrydd carbon monocsid mewn unrhyw ystafell sy'n defnyddio tanwydd solet. Gallwch hefyd ofyn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub ymweld â'ch eiddo i gynnal Asesiad Risg Tân yn y Cartref.

Ydw i'n gallu rhoi rhybudd i fy landlord fy mod i am adael, ac os ydw i, faint o amser?

Mae llawer o gytundebau cyfnod penodol (gan gynnwys rhai tenantiaethau byrddaliadol sicr â landlordiaid preifat) yn cynnwys cymal terfynu, sy'n caniatáu i chi ddod â'r cytundeb i ben cyn diwedd y cyfnod penodol. Gwiriwch eich cytundeb i weld os yw'n cynnwys cymal fel hwn. Os nad yw eich cytundeb yn cynnwys cymal terfynu, yna dylai hefyd ddweud faint o rybudd sydd ei angen; os nad yw'n cynnwys cymal terfynu, yna ni allwch ddod â'r denantiaeth i ben yn gynnar oni bai bod y landlord yn cytuno.

Ydw i'n gallu cael rhywun arall i symud i mewn?

Gall hyn fod yn bosib os nad oes gennych chi unrhyw ddewis ond gadael yn gynnar, a'ch bod am osgoi talu rhent ar fwy nag un cartref. Serch hynny, rhaid i chi gael y landlord i gytuno i'r unigolyn hwnnw symud i mewn i'r eiddo. Mae'n bosib y bydd y landlord am gael geirda ar eu cyfer nhw. Dylai'r landlord roi cytundeb tenantiaeth newydd i'r unigolyn yma - fel arall byddwch chi'n dal i fod yn gyfreithiol gyfrifol am y denantiaeth.

Beth os yw fy landlord yn cytuno fy mod i'n gallu gadael?

Mae'n bosib dod allan o'r cytundeb ar unrhyw amser os gallwch chi â'r landlord gytuno ar hynny. Gelwir hyn yn 'ildio'. I fod yn ddilys, rhaid i'r naill ochr a'r llall gytuno, ac mae'n well os yw'r cytundeb yn cael ei wneud mewn ysgrifen, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddryswch yn nes ymlaen. Os oes gennych chi denantiaeth ar y cyd, rhaid i bob un o'r tenantiaid ar y cyd a'r landlord gytuno i'r ildio.

Beth sy'n digwydd pan fydd fy nghytundeb yn dod i ben?

Os yw eich cytundeb am gyfnod penodol (e.e. chwe mis), gallwch adael ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol, ond rhaid i chi sicrhau nad ydych chi'n aros ddiwrnod yn fwy, neu byddwch yn dod yn denant cyfnodol yn awtomatig, a bydd rhaid i chi roi rhybudd dilys. Mae cyfathrebu da'n helpu i bethau fynd yn hwylus, felly er nad oes rhaid i chi wneud hynny, mae'n dal i fod yn syniad da rhoi gwybod i'r landlord pan fyddwch chi'n symud allan.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Cyngor gan Gyngor ar Bopeth

Cyngor gan Shelter Cymru