Gall bod yn y Brifysgol fod yn brofiad gwych, ond gall hefyd beri cryn straen ar adegau. Y peth pwysicaf yw eich bod chi’n gofalu am eich llesiant; o’r corfforol i’r meddyliol, a’r rhywiol. Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch chi, rydyn ni wedi rhannu ein hadnoddau llesiant fesul adrannau, pob un yn berthnasol i fath penodol o lesiant. Mae yma ddolenni at fudiadau, cyngor ac adnoddau defnyddiol.
Mae'n bwysig eich bod chi'n cofrestru gyda Meddyg Teulu (GP) a deintydd lleol os ydych chi wedi symud i astudio yn y brifysgol. Mae bod â meddyg teulu a deintydd yn agos at eich cartref yn ystod y tymor yn golygu y gallwch gael gafael ar ofal a meddyginiaeth os bydd ei angen arnoch; os na fyddwch chi'n cofrestru gyda meddyg teulu a deintydd lleol, gallai fod oedi wrth gael triniaeth neu bresgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth. Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i ddod o hyd i wahanol wasanaeth iechyd y GIG yn eich ardal chi.
Dewch o hyd i wasanaethau iechyd yng Nghymru
Dewch o hyd i wasanaethau iechyd yn Lloegr
Gall y profiad o fod yn fyfyriwr beri straen; o gwrdd â phobl newydd, i wneud ffrindiau newydd, i reoli terfynau amser a chyllidebau; gall y cyfan deimlo'n llethol, ond cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae cymorth yno ar eich cyfer chi. Mae gwasanaethau ar-lein y gallwch eu cyrchu o unrhyw le, am ddim. Fel myfyriwr PCyDDS, gallwch ddefnyddio'r Togetherall am ddim.
Mae'r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr, lle gallwch chi siarad â chwnselwyr i gael yr help sydd ei angen arnoch chi.
Ewch i Wefan y Gwasanaeth Myfyrwyr
Mae gan bob myfyriwr yn PCyDDS fynediad i'r Togetherall; cymuned a gwasanaeth iechyd meddwl sy'n darparu cymorth ar-lein gan gyfoedion a phroffesiynwyr, gyda chwnselwyr hyfforddedig - i gyd yn gwbl ddi-dâl.
Cyngor iechyd meddwl sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr gan weithwyr proffesiynol Mind.
Iechyd Rhywiol
Mae Clinigau Iechyd Rhywiol, y cyfeirir atynt weithiau fel Clinigau GUM, yn cynnig ystod o wasanaethau yn ymwneud ag iechyd rhywiol. O brofion a thriniaeth ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol i ddulliau atal cenhedlu a phrofion beichiogrwydd, i brofion HIV a PEP. Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i'ch clinig agosaf a gweld y gwasanaethau y mae'n eu cynnig.
Mae Stonewall Cymru yn cynnig cefnogaeth a chyngor i'r gymuned LHDT yng Nghymru; Unigolion sy'n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Draws, neu unrhyw un nad ydyn nhw'n hunan-ddiffinio’n llwyr fel Heterorywiol (Syth).
Elusen yn y DU sy'n darparu cefnogaeth a chyngor i weithwyr rhyw ac unigolion y manteisir arnynt yn annheg yn y diwydiant rhyw.
Elusen yn y DU sy'n darparu cefnogaeth a chyngor i weithwyr rhyw ac unigolion y manteisir arnynt yn annheg yn y diwydiant rhyw.
Yn ystod eich amser yn y brifysgol, mae’n bosib y byddwch chi'n ffurfio perthynas ag alcohol. I rai pobl, gall fod yn ddiod neu ddau yn y tŷ, neu i eraill gall fod yn noson fawr allan. Mae'n bwysig gwybod beth yw eich terfynau; byddwch yn ymwybodol o'r effeithiau a nodwch pryd y gallech chi fod yn yfed gormod neu'n rhy aml.
DAN
Llinell gymorth ddwyieithog, ddi-dâl, yn cynnig pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth neu gymorth ynghylch cyffuriau neu alcohol.
Gallwch ganfod bopeth sydd angen i chi ei wybod am gyffuriau, eu heffeithiau a'r gyfraith. Siaradwch â Frank am ffeithiau, cefnogaeth a chyngor ar gyffuriau ac alcohol.
Pan fydd gamblo'n mynd allan o reolaeth, gall achosi problemau ariannol, effeithio'n negyddol ar eich llesiant, astudiaethau a’ch perthnasoedd â phobl eraill. Mae help ar gael; os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd rheoli eu gamblo, mae'r elusennau isod yn rhoi cyngor a chymorth defnyddiol.
Cyngor a chymorth i’r rheiny sydd â phroblem gamblo
Mae Gambling Therapy yn wasanaeth byd-eang sy’n cynnig cyngor ymarferol am ddim, ynghyd â chymorth emosiynol i unrhyw un mae gamblo yn effeithio arnynt.