Gan ei bod yn ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae angen i ni hefyd ddweud hwyl fawr wrth Bronwyn K, Llywydd Campws Llambed.
Mae hi wedi llwyddo cyfrannu rhai pethau anhygoel ac mae wedi helpu i wella profiad myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf – pethau fydd yn parhau i effeithio ar fywydau myfyrwyr am flynyddoedd i ddod.
Fe aethon ni ati i holi Bronwyn am ei phrofiadau fel Swyddog Sabothol, felly drosodd at Bronwyn:
Fy hoff beth am y rôl hon yw bod yn hyrwyddwr mwyaf Llambed. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda'r myfyrwyr a gwneud newidiadau er gwell. Rwyf hefyd wedi bod wrth fy modd yn trefnu digwyddiadau fel y ddawns haf a’r ffair yrfaoedd.
Yn gyntaf, fe ddechreuon ni'r flwyddyn gyda’r cyfnod Croeso, gan wneud yn siŵr bod ein holl fyfyrwyr yn ymgartrefu ac yn setlo i mewn ar y campws. Cynhaliais ychydig o ddigwyddiadau i greu mannau agored i fyfyrwyr gwrdd, dechrau siarad a gwneud ffrindiau newydd; trefnwyd râs lliwiau, sesiwn gelf, amseroedd yn ystod y dydd i gwrdd â’r Swyddogion Sabothol a thîm yr Undeb a mwynhau te prynhawn.
Mis Hanes Pobl Dduon
Gweithiais gyda Vanessa (Llywydd y Grŵp) a Rhobyn (ein swyddog Myfyrwyr Croenddu rhan-amser yn Llambed) ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon. Yn ystod y mis hwn cynhaliwyd noson ffilm, noson meic agored a phanel lle’r oedd gennym ni fyfyrwyr, staff, a siaradwr allanol. Ac fe drefnon ni banel gyda Rhobyn Grant, Emily-Rose Kumi a Javorne Campbell. Roedd yn gyfle i’n panelwyr ddathlu treftadaeth Groenddu a siarad am brofiadau bywyd, materion cyfoes, llesiant, a dadwladychu.
Swyddi Myfyrwyr
Ysgrifennais siarter swyddi myfyrwyr. Er mwyn i Undeb y Myfyrwyr fod â thudalen swyddi myfyrwyr. Ar ôl gosod y dudalen, bûm yn gweithio gyda'r brifysgol i sefydlu 34 o interniaethau; y ffocws oedd sicrhau y byddai'r interniaethau hyn yn gweithio i unrhyw fyfyriwr ar unrhyw gampws, a hefyd sicrhau bod y trefniant yn gweithio o amgylch eu hastudiaethau. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd yr UM yn penderfynu parhau i’w wneud.
Cynhaliais ffair ddyniaethau gyntaf ar Gampws Llambed gyda chymorth tîm gyrfaoedd y brifysgol. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys dros 25 o gyflogwyr a 4 gweithdy. Roedd y gweithdai hyn yn ymwneud â sut i fod yn hunangyflogedig, sut i ysgrifennu CV a datganiad personol, un ar ddatblygiad rhyngwladol a'r olaf ar wirfoddoli yn yr ardal leol. Rhoddodd y ffair yrfaoedd hon gyfle i fyfyrwyr siarad a gofyn cwestiynau am gyflogaeth a’u helpu i gael mewnwelediad gwerthfawr i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.
Llesiant
Trefnais sesiynau ymgynghori gyda’r tîm llesiant. Roedd y cyfarfodydd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr a’r tîm llesiant drafod y wefan a’r ffurflenni a sut mae’r systemau’n gweithio, fel y gellir ei gwella a’i gwneud yn haws i’w defnyddio.
Cynaladwyedd
Mewn partneriaeth â'r Brifysgol, trefnodd Undeb y Myfyrwyr wythnos i fyfyrwyr ddysgu am sut y gallant fod yn fwy ecogyfeillgar yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Yn ystod yr Wythnos Werdd bu myfyrwyr a phobl leol yn cymryd rhan mewn amryw o weithdai. Dysgon ni am bwysigrwydd gwlân ac am yr angen i ddefnyddio gwlân i wneud dillad a’r budd mae hyn yn ei greu i’r amgylchedd. Dysgon ni am ddefnyddio cynhyrchion naturiol yn lle nwyddau artiffisial i gadw bwyd yn y drafodaeth am gwyr gwenyn ar gyfer lapio bwydydd. A chynhaliwyd llawer mwy o weithdai er mwyn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i bawb, ynghyd ag awgrymiadau a hintiau handi ar sut i fyw bywyd gwyrddach. Yn ystod yr wythnos bu myfyrwyr yn bywiogi campws a chymuned Llambed wrth helpu i wella a datblygu'r amgylchedd lleol.
Dawns Haf Llambed
Yn olaf ond yn bendant nid yn lleiaf, fe wnes i drefnu a chynnal dawns haf diwedd y flwyddyn yn Llambed. Gyda chymorth tîm Undeb y Myfyrwyr, llwyddwyd i gynnal noson i’w chofio yn Llambed. Roedd yn noson fythgofiadwy ac yn ffordd berffaith i ddathlu diwedd y flwyddyn.
Ar ôl i mi adael y rôl hon, rydw i'n symud ymlaen i barhau â'm haddysg drwy ddechrau ar fy ngradd meistr.
Ar gyfer y Swyddog Sabothol nesaf ar gampws Llambed y geiriau o ddoethineb sydd gen i i’w cynnig i chi yw: gwrandewch ar eich myfyrwyr, ymddiriedwch yn eich greddf, a brwydrwch bob amser dros Lambed.
Mae bod yn adnabyddus a bod eich myfyrwyr yn ymddiried ynddoch chi’n golygu bod gennych ymgysylltiad anhygoel.
Yn olaf, hoffwn ddweud diolch enfawr i'r myfyrwyr, rydych wedi bod yn anhygoel; rydym wedi profi’r gorau a’r gwaethaf, ond rydym wedi goroesi gyda'n gilydd.
Hoffwn hefyd ddiolch i staff Undeb y Myfyrwyr ac i staff y Brifysgol. Heb y bobl hyn ni fyddwn wedi gallu cyflawni fy mhwyntiau maniffesto yr ydych chi fel myfyrwyr wedi fy ethol i wneud.
Inspire Interns is a collaborative project between UWTSD students, the Students’ Union, and the INSPIRE department. Learn more at www.uwtsdunion.co.uk/inspire-interns.