Etholiad Cyffredinol y DU 2024

Dydd Iau 30-05-2024 - 09:15

Bydd Etholiad Cyffredinol y DU yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4ydd Gorffennaf - ac mae yna bethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i allu pleidleisio! - Gwiriwch eich bod yn gymwys i bleidleisio, cofrestrwch i bleidleisio, a mynnwch ID â llun dilys.

Ond yn gyntaf, pam ddylech chi falio? Mae myfyrwyr a phrentisiaid yn ffurfio 10% o'r boblogaeth sydd â’r hawl i bleidleisio - mae gennych chi'r pŵer i leisio'ch barn ar lefel genedlaethol! Fel arfer dim ond bob pum mlynedd y mae Etholiadau Cyffredinol yn cael eu cynnal - os na fyddwch chi'n pleidleisio, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi aros hanner degawd arall i ddweud eich dweud. 

Gallai eich pleidlais wneud byd o wahaniaeth wrth benderfynu pwy sy’n cael ei ethol yn AS (Aelod Seneddol) lleol, a allai benderfynu ar y Blaid Wleidyddol sy’n rheoli’r Llywodraeth (neu beidio), ac Arweinydd y Blaid sy’n dod yn Brif Weinidog nesaf i ni.

Gwirio eich bod yn gymwys i bleidleisio 

Mae dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a dinasyddion cymwys y Gymanwlad sy'n byw yn y DU yn cael pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol. Mae hyn yn golygu bod rhai myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys i bleidleisio - mae gwledydd perthnasol y Gymanwlad yn cynnwys India, Pacistan, Awstralia, Canada, a llawer mwy. Ewch i wefan Can I Vote i weld a ydych yn gymwys i bleidleisio.

Cofrestru i bleidleisio 

Mae'n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio ac mae’n cymryd llai na phum munud - gallwch wneud hyn ar wefan Cofrestru i Bleidleisio Llywodraeth y DU. 

Mae angen i chi roi eich enw, dyddiad geni, cenedligrwydd, cyfeiriad, a rhif Yswiriant Gwladol. Peidiwch â chynhyrfu os nad ydych yn gwybod beth eich rhif Yswiriant Gwladol - gallwch gael cymorth gan Lywodraeth y DU i ddod o hyd i’ch Rhif Yswiriant Gwladol ar y we - ac os ydych yn gymwys i bleidleisio ond nad oes gennych rif yswiriant gwladol, peidiwch â phoeni, gallwch gofrestru heb un o hyd. 

Gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor a'ch cyfeiriad cartref - ond dydych chi ond yn gallu pleidleisio mewn un ohonynt!

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol yw 23:59 dydd Mawrth 18fed Mehefin.

3. Mynnwch ID Pleidleisiwr 

Mae'r rheolau ynghylch pleidleisio yn etholiadau'r DU wedi newid - bydd angen ffurf ddilys o ID arnoch i bleidleisio - gall hwn fod yn Basbort, Trwydded Yrru, Bathodyn Glas, cerdyn PASS (fel CitizenCard), a Thystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Rhaid i chi gyflwyno'r ddogfen wreiddiol yn yr orsaf bleidleisio - ni allwch ddangos llun na llungopi ohoni - cewch eich troi i ffwrdd. 

Gallwch ddod o hyd i restr o ddogfennau adnabyddiaeth derbyniol ar wefan y Comisiwn Etholiadol – ac mae’n cynnwys rhestr o basbortau dilys a thrwyddedau gyrru. Nid yw eich Rhif Myfyriwr yn PCyDDS yn cyfrif fel ID â llun dilys yn etholiadau’r DU.

Dim ID dilys? Peidiwch â chynhyrfu - mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi trefnu y gallwch chi hawlio Cerdyn Dinesydd (CitizenCard) am ddim.

Hawlio Cerdyn Dinesydd am ddim 

Gallwch chi hawlio eich Cerdyn Dinesydd am ddim, y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol, trwy ddefnyddio côd 'NUS'. Mae’r CitizenCard yn ddogfen adnabyddiaeth PASS, a gallwch ei ddefnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban - ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon. Mae angen i chi hawlio eich Cerdyn Dinesydd erbyn dydd Iau 20fed Mehefin.

Cerdyn Pleidleisio a mynd ati i Bleidleisio

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch yn derbyn Cerdyn Pleidleisio cyn diwrnod yr Etholiad - sy'n cynnwys lleoliad eich Gorsaf Bleidleisio. Dim ond yn yr Orsaf Bleidleisio a restrir ar eich cerdyn y gallwch chi bleidleisio - nid oes rhaid i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi, gallwch chi bleidleisio hebddo. Os nad ydych chi wedi derbyn cerdyn pleidleisio, ond yn meddwl y dylech fod wedi, cysylltwch â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Pan fyddwch yn cyrraedd yr Orsaf Bleidleisio bydd angen i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad i staff y tu mewn i'r orsaf bleidleisio.

Bydd angen i chi roi eich enw, a'ch cyfeiriad, a dangos eich ID â llun pan fyddwch yn cyrraedd yr Orsaf Bleidleisio. Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud, byddwch yn cael papur pleidleisio sy'n rhestru'r ymgeiswyr y gallwch chi bleidleisio drostynt.

Ydych chi i ffwrdd ar y 4ydd Gorffennaf? 

Peidiwch â gofidio - mae gennych chi opsiynau. Efallai y byddwch chi ar eich gwyliau haf neu eisiau pleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn hytrach na’ch cartref. Os dyna yw’r achos, gallwch chi wneud cais am bleidlais bost (Y dyddiad cau yw 17:00 dydd Mercher, 19eg Mehefin) neu wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy (Y dyddiad cau yw 17:00 ddydd Mercher, 26ain Mehefin).
 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...