Noson Playzone i Oedolion

  • Giag adult playzone night thumbnail

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Noson Playzone i Oedolion

Noson Playzone i Oedolion gyda Rhowch Gynnig Arni!

 

Dechreuwch eich bywyd cymdeithasol yn 2025 gyda noson hwyliog yn Playzone Abertawe i oedolion. 
Fel oedolion mae'n ymddangos bod gennym ni gymaint mwy o bethau’n peri straen yn ein bywydau a dim cymaint o amser i ymlacio a mwynhau ein hunain. 
Felly, rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n bwysig eich bod chi'n cael y cyfle i ryddhau'ch plentyn mewnol ac anghofio am eich pryderon am ychydig oriau. 

 

Beth yw Noson Playzone i Oedolion? 

 

Mae Playzone yn ardal chwarae dan-do yn Abertawe sy'n cynnal nosweithiau i oedolion yn unig bob mis. 
O 8pm tan 10pm, gallwch dwrio trwy'r pwll peli, sgramblo ar y rhwydi a herio'ch hun i lithro i lawr y llithren fawr goch. 
Bydd y bar hefyd ar agor yn gweini amrywiaeth o ddiodydd alcoholaidd, gan gynnwys slwtsh fodca dwbl chwedlonol Playzone, yn ogystal â diodydd di-alcohol, byrbrydau a bwyd poeth. 
Gallwch hefyd wneud defnydd o'r Awr Hapus (8pm-9pm) pan fydd pob 2 ddiod alcoholaidd ar gael am bris 1!


Sut ydyn ni'n cyrraedd yno?


Rydym wedi sicrhau bod gennym fws wedi'i archebu o Ganolfan Dylan Thomas i Playzone ac yn ôl, felly nid oes rhaid i chi boeni am gyrraedd yno. 
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ac yn prynu tocyn i'r digwyddiad er mwyn i'ch enw fod ar y rhestr ar gyfer y bws. 

 

Pethau i'w gwybod 


•    Rhaid i chi fod dros 18 oed i fynychu'r digwyddiad hwn a gallu dangos ffurf ddilys o ID i staff yn Playzone (pasbort, trwydded yrru, cerdyn dinesydd neu gerdyn adnabod) - heb ID, ni chewch fynediad.
•    Rhaid i chi wisgo dillad priodol, cyfforddus, sy'n gorchuddio'ch croen; mae sanau’n hanfodol. I weld mwy am bolisïau diogelwch yn Playzone, cliciwch yma.  

•    Mae'n rhaid i chi yfed yn gyfrifol a bod mewn cyflwr digon da i deithio'n ôl ar y bws a drefnwyd; gall gyrrwr y bws wrthod mynediad i'r bws os ydych yn ymddwyn yn amharchus neu'n ymddangos yn or-feddw/maent wedi'ch gweld yn chwydu. 


Hygyrchedd

 
•    Mae'r ardal chwarae dan-do yn cynnwys uchder, grisiau, strwythurau dringo a phyllau peli a.y.b. gwnewch yn siŵr eich bod yn teimlo'n gorfforol abl i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn cyn cofrestru, a bod gennych lefel sylfaenol o symudedd er mwyn cymryd rhan lawn.  
•    Mae'n bosibl y bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae yn y lleoliad, a allai fod yn uchel. 


Tocynnau


Pwrpas Rhowch Gynnig Arni yw caniatáu i chi roi cynnig ar weithgareddau a theithiau am y pris gorau posibl; mae tocyn ar gyfer Playzone i oedolion fel arfer yn costio £8.95 a gallai gostio tua £5 yn fwy gyda chludiant.  

Ond yn hytrach na thalu £13.95, rydym ond gofyn am £4 i'n helpu i dalu cost y cludiant a chadw arian yn y gronfa ar gyfer gweithgareddau Rhowch Gynnig Arni yn y dyfodol.
 
Mae 20 o docynnau ar gael ar gyfer y gweithgaredd hwn, ac mewn blynyddoedd blaenorol, maent wedi gwerthu’n gyflym. Felly prynwch eich tocyn cyn gynted â phosibl trwy glicio ar y botwm 'Archebwch Nawr' uchod.
 

Codi bws - Canalfon Dylan Thomas 19:20pm

Dychwelyd bws - Playzone 22:15pm

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Playzone Llansamlet

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 07-02-2025 - 19:20

Dyddiad gorffen: Dydd Gwener 07-02-2025 - 22:00

Nifer y lleoedd: 20

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau