Croeso i’r Gymdeithas Archaeoleg (Llambed)!
Mae'r Gymdeithas Archaeoleg yn ymwneud â phrofiadau ymarferol. P’un a ydych chi am dreulio ychydig oriau yn y labordy yn didoli samplau pridd, dysgu sut i ddefnyddio offer geoffiseg neu arbrofi gyda naddu fflint, mae gennym weithgareddau at ddant bawb. Ein nod yw cynnig mwy o brofiadau ymarferol i fyfyrwyr! Os nad ydych chi am fynd ati i dyrchu, rydym hefyd yn trefnu ac yn mynychu darlithoedd gan academyddion o du allan i PCyDDS.
Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd cymdeithasol rheolaidd yn yr Hive ar gampws Llambed i drafod aseiniadau, darganfyddiadau newydd ac i sgwrsio am hyn a’r llall!
Ymunwch â ni!
Yn barod i ymuno? Mae eich diwrnod cyntaf am ddim, fel y gallwch chi roi cynnig arni a gweld sut rydych chi'n teimlo.
E-bostiwch Max: 2304348@student.uwtsd.ac.uk (Llywydd) neu Gareth: 99091195@student.uwtsd.ac.uk (Ysgrifennydd), neu dewch i un o'n sesiynau! Gallwch hefyd daro'r botwm i ddod yn aelod nawr!
Unrhyw ymholiadau neu bryderon? Cysylltwch â ni yn:
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, cysylltwch â:
Manylion Aelodaeth
Os nad ydych wedi prynu'r aelodaeth hon yn barod, fe'ch anogir i wneud pan fyddwch yn ymuno â'r grŵp hwn. Mae'r gymdeithas hon yn agored i holl gampysau PCyDDs! Fodd bynnag, cynhelir sesiynau wythnosol yn Llambed.
Pam ddylwn i ymuno?
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
Am ddim ond £5 y flwyddyn i fyfyrwyr a £8 i'r rhai nad ydynt yn fyfyrwyr, cewch fynediad i'n holl weithgareddau a digwyddiadau. Meddyliwch amdano fel cost un tocyn sinema neu ychydig o baneidiau o goffi am flwyddyn gyfan o hwyl,
Pwyllgor
Llywydd – Max Morgan (2304348)
Ysgrifennydd – Gareth Jenkins (99091195)
Trysorydd – Kay Woodhouse (2110818)