Llythyr ‘Dilyniant/Canlyniad’ y Bwrdd Arholi
Dogfen sy'n cadarnhau statws academaidd myfyriwr ar ddiwedd bwrdd asesu, e.e. terfynu neu barhau i astudio.
Apêl Academaidd
'Apêl Academaidd' yw'r ffordd y mae myfyriwr yn gofyn i'r Brifysgol ailystyried penderfyniad y Bwrdd Arholi.
Dyfarniad Academaidd
Dyfarniad a wneir ynghylch mater lle mae barn sy’n seiliedig ar arbenigedd academaidd yn hanfodol. Ni ellir cyflwyno Apeliadau Academaidd ar gyfer Dyfarniad Academaidd.
Camymddygiad Academaidd
Unrhyw weithred gan fyfyriwr sy’n rhoi, neu sydd â’r potensial i roi, mantais annheg mewn arholiad neu asesiad neu a allai gynorthwyo rhywun arall i ennill mantais annheg, neu unrhyw weithgaredd sy’n debygol o danseilio’r hygrededd sy’n hanfodol i ysgolheictod ac ymchwil.
Swyddfa Academaidd
Tîm o weithwyr achos sy'n adolygu apeliadau, amgylchiadau esgusodol, cwynion, ac sy’n adolygu canlyniadau
Apêl wedi’i Chaniatáu
Mae achos dros apêl lwyddiannus.
Apêl wedi'i Gwrthod
Does dim achos dros apêl lwyddiannus.
Cydbwysedd Tebygolrwydd
Pan fo corff penderfynu yn fodlon bod rhywbeth wedi digwydd os oedd y digwyddiad yn fwy tebygol na pheidio yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd.
Baich Prawf
Dyma sy’n penderfynu pwy sy'n gyfrifol am brofi tystiolaeth.
Cydgynllwynio
Gweithio gyda rhywun arall ar asesiad y bwriedir iddo fod eich gwaith eich hun, ac sy’n arwain at gyflwyno gwaith sy’n sylweddol wahanol i'r hyn y bu i chi ei ysgrifennu’n wreiddiol.
Cwblhau Gweithdrefnau (CoP)
Mae Llythyr CoP yn golygu bod y Brifysgol wedi gwneud ei phenderfyniad terfynol, a bod ei gweithdrefnau mewnol wedi'u cwblhau. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gamau pellach yng ngweithdrefnau mewnol y Brifysgol.
Tystiolaeth
Dogfennaeth annibynnol sy’n dangos bod astudiaethau myfyriwr wedi cael eu heffeithio gan rywbeth penodol yn y cyfnod cyn, neu yn ystod, yr asesiad dan sylw. Fel arfer, mae hyn yn golygu darparu llythyr neu ddatganiad gan broffesiynwr, fel Tystysgrif Feddygol neu Ddatganiad o Ffitrwydd i Weithio gan feddyg ar gyfer cyflwr meddygol.
Dyfarniad Ymadael
Dyfarniad a roddir i gydnabod credydau a gwblhawyd ar gyfer cwrs pan na chaiff Rhaglen lawn ei chwblhau.
Amgylchiadau Esgusodol
Mae’n bosibl na fydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu haseiniad erbyn y terfyn amser, neu efallai y bydd anawsterau iechyd neu rywbeth yn digwydd yn eu bywyd personol na ellid bod wedi’i ragweld yn effeithio ar eu perfformiad yn yr asesiad. Gall myfyrwyr wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol ar MyTSD.
Cwynion gan Grŵp
Os oes gan grŵp o fyfyrwyr bryderon tebyg am broblem, gallant gyflwyno cwyn ffurfiol ar y cyd.
Tarfu ar Astudiaethau
Mae tarfu ar eich astudiaethau yn golygu cymryd saib neu ohirio eich astudiaethau am o leiaf dri mis am resymau personol neu iechyd. Gwneir hyn fel arfer â’r bwriad o ailddechrau’r cwrs yn ddiweddarach (fel arfer y flwyddyn academaidd nesaf)
MyTSD
System ar-lein sy’n caniatáu i fyfyrwyr weld eu canlyniadau terfynol, gwneud cais am Amgylchiadau Esgusodol, a gwneud cais am dystysgrif Eithrio rhag Treth y Cyngor.
Cyfiawnder Naturiol
Cyfeirir at hwn weithiau fel 'tegwch gweithdrefnol’ - cyfiawnder naturiol yw’r ddyletswydd sydd ar ddarparydd i ymddwyn yn deg yn ogystal â dilyn eu gweithdrefnau eu hunain.
Camymddwyn Anacademaidd
Lle mae ymddygiad myfyriwr yn mynd yn groes i'r disgwyliadau a nodir yn y Côd Ymddygiad Myfyrwyr.
Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (SDA)
Corff cenedlaethol a all helpu gydag ymchwilio i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Os byddwch yn dal i deimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg ar ôl cwblhau gweithdrefnau mewnol y Brifysgol, gallwch gyflwyno cwyn i SDA.
Panel
Gweithdrefn ffurfiol mewn perthynas â'r Polisi Apeliadau, y Polisi Cwynion, y Polisi Camymddwyn Academaidd, y Polisi Camymddwyn Anacademaidd, Cymorth i Astudio ac Addasrwydd i Ymarfer, lle mae cyfranogwyr yn trafod materion cymhleth sy’n ymwneud ag achos myfyriwr.
Llên-ladrad
Cyflwyno gwaith neu syniadau rhywun arall fel eich rhai chi. Gall hyn gynnwys defnyddio gwaith awdur arall neu ddefnyddio meddalwedd aralleirio awtomataidd.
Arfer Academaidd Gwael
Gweithredu’n groes i gonfensiynau academaidd safonol, megis cyfeirnodi gwael neu anghywir, neu orddibyniaeth ar ddeunydd wedi’i gyfeirnodi. Mae hyn hefyd yn cynnwys methu â deall a dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer yr asesiad yn ddigonol.
Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol
Defnyddio credydau a enillwyd ar gwrs blaenorol i gael mynediad i gwrs gwahanol.
Adolygiad o Ganlyniad
Proses y gall myfyrwyr ofyn amdani ar ôl cael penderfyniad cychwynnol gan y Swyddfa Academaidd, lle gofynnir i swyddog achos newydd gynnal ymchwiliad.
Safon Prawf
Lefel y dystiolaeth sydd ei hangen. Er enghraifft, 'cydbwysedd tebygolrwydd.'
Côd Ymddygiad Myfyrwyr
Dogfen sy'n nodi disgwyliadau ymddygiad gan fyfyriwr. Mae hyn yn cynnwys gweithredu gyda phroffesiynoldeb, bod yn llysgennad i'r brifysgol, parchu eraill, gofalu am eraill, parchu amgylchedd y brifysgol, a pharchu'r gymuned.
Viva
Cyflwyniad llafar i benderfynu a oes digon o dystiolaeth i gefnogi’r honiad o gamymddwyn academaidd.
Terfynu astudiaethau
Dod â lle myfyriwr ar y Rhaglen i ben yn barhaol.
Eithriad thag Treth y Cyngor
Os yw myfyrwyr yn astudio'n llawn-amser (ar gwrs sy'n para o leiaf blwyddyn lle mae angen 21 awr o astudio bob wythnos), mae’n bosib na fydd yn rhaid iddynt dalu Treth y Cyngor.
Bwrsariaeth Costau Cwrs
Mae hon yn ffynhonnell cymorth ariannol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â chyrsiau, a all gynnwys llyfrau arbenigol, offer arbenigol a.y.b.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Adran sy'n gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Mae DWP yn gweinyddu Pensiwn y Wladwriaeth ac ystod o fudd-daliadau oedran gweithio, anabledd ac afiechyd.
Blaendal
Wrth ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, efallai y bydd gofyn i chi dalu swm o arian. Dylid sicrhau pob blaendal o dan gynllun diogelu.
Bwrsariaeth Cysylltedd Digidol (DCB)
Mae'r Brifysgol yn cynnig Bwrsariaeth Cysylltedd Digidol i helpu myfyrwyr cymwys nad ydynt yn gallu fforddio band-eang neu sydd heb fynediad i ddyfais addas.
Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Mae'r DSA yn gymorth i dalu'r costau sy'n gysylltiedig ag astudio y gallwch eu hwynebu oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Gall hyn fod ar ei ben ei hun neu’n ychwanegol at unrhyw gyllid myfyriwr y byddwch yn ei dderbyn. Mae'r math o gymorth a faint a gewch yn dibynnu ar eich anghenion unigol - nid incwm eich cartref.
Taliad Annibyniaeth Bersonol
Mae hwn yn fudd-dal a all helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gan berson gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor; hefyd unrhyw anabledd neu anhawster wrth wneud rhai tasgau bob-dydd neu symud o gwmpas oherwydd eu cyflwr.
Cronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr (SFSF)
Mae hon yn ffynhonnell ychwanegol o gymorth ariannol i unrhyw fyfyriwr cymwys sydd wedi cymryd Benthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n dioddef caledi ariannol annisgwyl.
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn sefydliad nid-er-elw sy’n eiddo i’r llywodraeth sy’n gweinyddu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion yn y DU.
Cytundeb Tenantiaeth
Mae cytundeb tenantiaeth yn gontract rhwng y tenant(iaid) a’r landlord sy’n nodi telerau ac amodau rhentu eiddo.
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Math o fenthyciad myfyriwr ar gyfer talu costau ffioedd dysgu mewn Addysg Uwch. Fel arfer caiff ei dalu'n uniongyrchol i'r Brifysgol.
Credyd Cynhwysol (UC)
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i helpu gyda chostau byw os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu os na allwch weithio.