Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn rhan annatod o’n hymagwedd o bartneriaeth, gan wreiddio llais myfyrwyr yn y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel o PCyDDS. Er bod Cynrychiolwyr Cwrs yn gynrychiolwyr myfyrwyr, er mwyn i’n system fod yn effeithiol, mae gan staff academaidd ran annatod i’w chwarae mewn sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu dethol ar gyfer pob dosbarth.
Mae Cynrychiolwyr Cwrs fel cyfrwng ar gyfer llais myfyrwyr ac yn eu rolau ar Bwyllgorau Staff-Myfyrwyr ac o fewn Undeb y Myfyrwyr yn rhoi adborth ar bob agwedd ar y profiad addysgol, megis datblygu’r cwricwlwm, adborth ac asesu, strwythur y cwrs, cyfleusterau ac adnoddau, ymagweddau at ddysgu/addysgu, a phrofiad academaidd cyffredinol eu cyd-fyfyrwyr.
Unwaith y cânt eu hethol, darperir hyfforddiant i bob Cynrychiolydd gan Undeb y Myfyrwyr.
Os ydych chi eisiau darganfod pwy yw eich Cynrychiolydd Cwrs, neu eisiau dysgu am y broses o ddod yn un, cysylltwch â thîm Llais Myfyrwyr yn studentvoice@uwtsd.ac.uk.
Mynychu a chymryd rhan ym mhob Pwyllgor Staff/Myfyrwyr
Mynychu hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr
Cwrdd â'u Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr a Chynrychiolwyr Cwrs eraill yn yr Athrofa i drafod syniadau a materion o bwys.
Hyrwyddo'r rôl a sut gall myfyrwyr gysylltu â nhw.
Cadw Undeb y Myfyrwyr yn gyfoes â gweithgareddau a materion o bwys
Siarad â myfyrwyr ar eu cwrs a chanfod beth sydd ar eu meddwl ac unrhyw faterion a all godi.
Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer adborth myfyrwyr fel arolygon adborth myfyrwyr a Fforymau Myfyrwyr
...ac unrhyw gyfleoedd eraill sy'n codi!
Hyfforddiant wedi ei deilwra'n arbennig ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs i baratoi Cynrychiolwyr ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod
Sesiynau briffio rheolaidd ac ymarferol ar faterion sy'n berthnasol i'w rôl
Mynediad i hyfforddiant gwirfoddol ychwanegol
Cyswllt rheolaidd â swyddogion a staff Undeb y Myfyrwyr
Help i hyrwyddo eu rôl a chyfleoedd i fyfyrwyr fynd ati i ddarparu adborth a llunio eu profiad addysgol
Gallwch fwrw golwg ar ein Llawlyfr Cynrychiolwyr Swrs sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.