Diweddariad Llety • Dyfodol Llambed

Dydd Mercher 26-03-2025 - 10:49
Future of lampeter  blog  accommodation

Mae cael lle i fyw ynddo’n bwysig. Rydyn ni a'r Brifysgol yn sylweddoli y gallai symud o Lambed i Gaerfyrddin ar gyfer eich astudiaethau olygu symud i rywle gwahanol i fyw. Bydd y blog hwn yn edrych ar sut mae UM a'r Brifysgol wedi cydweithio i'ch cefnogi.

Symud i Lety’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw yn llety’r brifysgol yn Llambed ac a fydd yn adleoli i lety’r brifysgol yng Nghaerfyrddin, neu i fyfyrwyr sy'n byw mewn llety preifat yn Llambed ac sy'n dymuno symud i lety’r brifysgol yng Nghaerfyrddin. 

  • Mae gan y Brifysgol fwy na digon o lety i fyfyrwyr presennol Llambed symud i lety’r brifysgol yng Nghaerfyrddin.
  • Bydd eich ffi llety yn aros ar yr un fath tan ddiwedd eich rhaglen Israddedig bresennol; ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, bydd y rhent yn aros ar yr un gyfradd am 2 flynedd (blwyddyn academaidd 2025-2026 a 2026-2027).
  • Rydym wedi gweithio gyda'r Brifysgol i gynnig gostyngiad o £600 oddi ar eich rhent am y semester cyntaf fel diolch am eich amynedd.
  • Os nad ydych yn byw yn llety’r brifysgol ond yn dymuno symud i lety’r brifysgol yng Nghaerfyrddin, cysylltwch â'r tîm llety yn  accommodation@uwtsd.ac.uk.

Symud i Lety Preifat yng Nghaerfyrddin

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw yn llety’r brifysgol yn Llambed ac a fydd yn adleoli i lety preifat yng Nghaerfyrddin, neu i fyfyrwyr sy'n byw mewn llety preifat yn Llambed ac sy'n dymuno symud i lety preifat yng Nghaerfyrddin. 

  • Fel y nodwyd uchod, mae digon o lety ar gael ar safle Caerfyrddin os byddai’n well gennych chi fyw mewn neuaddau (rydym yn sylweddoli nad yw hyn bob amser yn bosibl)
  • Os ydych yn chwilio am lety preifat yng Nghaerfyrddin, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl adnoddau sydd ar gael ar wefan yr UM.

Cyngor a Chymorth

Nid ydym yn argymell unrhyw landlordiaid nac asiantau gosod eiddo. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio gwasanaethau fel Marks Out of Tenancy i weld adborth am ddarpar landlordiaid ac asiantaethau gosod tai.

Gallwch hefyd gael mynediad at lwyth o wybodaeth ddefnyddiol ar ein tudalen we cyngor llety a'n canllaw llety ar-lein.

Dyddiadau Allweddol ar gyfer 2025/26

Dyma rai dyddiadau allweddol ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd 2025/26:

  • •    Dyddiad symud i mewn: dydd Sadwrn, 20fed Medi
    •    Sefydlu: dydd Llun, 22ain Medi 
    •    Bydd addysgu yn dechrau ddydd Llun, 29ain Medi (bydd y system bloc yn aros yn ei lle)

Rhewi Rhenti Myfyrwyr Caerfyrddin

Mae gennym ni newyddion da i fyfyrwyr Caerfyrddin - ni fydd y Brifysgol yn cynyddu ei ffioedd llety ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2025/26! Llongyfarchiadau enfawr i’n Llywyddion am ymgyrchu dros hyn, a diolch i’r Brifysgol am weithio gyda’n swyddogion i wireddu hynny.

Categorïau:

Future of Lampeter

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...