Cyngor a Chymorth Ymadael • Dyfodol Llambed

Dydd Mercher 26-03-2025 - 14:52
Future of lampeter  blog  advice exit

Pa faterion y gall Cyngor Undeb y Myfyrwyr ymdrin â nhw?

Yn dilyn cyhoeddiad y Brifysgol i symud cyrsiau’r Dyniaethau o Lambed i Gaerfyrddin o fis Medi 2025, rydym yn sylweddoli efallai y bydd gennych chi gwestiynau ynghylch sut y bydd y newid hwn yn effeithio ar eich astudiaethau, cyllid a’ch profiad cyffredinol fel myfyrwyr. Mae Cyngor Undeb y Myfyrwyr yma i'ch cefnogi chi trwy'r cyfnod pontio hwn, gan eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi. I ni, mae hyn yn golygu:

  1. Cadarnhau rhwymedigaethau'r Brifysgol i chi a sut olwg sydd ar y cymorth hwnnw.
  2. Sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi.
  3. Amlinellu'r cymorth y gallwch ei gael gan Gyngor Undeb y Myfyrwyr ynghylch prosesau ffurfiol.

Beth yw rhwymedigaethau'r Brifysgol?

Pan fyddwch yn derbyn cynnig gan PCyDDS, byddwch yn ffurfio 'cytundeb' gyda'r Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn gofyn i chi ymrwymo i Gytundeb Myfyriwr bob tro y byddwch yn ymrestru neu'n ail-ymrestru gyda nhw. Mae'r Cytundeb Myfyriwr yn nodi Polisi'r Brifysgol pan wneir newidiadau i gwrs, gan gynnwys newidiadau 'sylweddol'. Yn benodol, mae 6.6 yn datgan os nad yw myfyrwyr yn fodlon ar y newidiadau, bydd y Brifysgol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr dynnu'n ôl o'u rhaglen. Os yw myfyrwyr yn dymuno, bydd y Brifysgol hefyd yn darparu cymorth rhesymol wrth drosglwyddo i raglen arall gyda'r Brifysgol neu i ddarparydd arall. Felly, rhaid i'r Brifysgol ddarparu cymorth rhesymol i fyfyrwyr y mae'r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt. 

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (corff cenedlaethol sy’n gallu ymchwilio i Brifysgolion Cymru a Lloegr) yn nodi rhai canllawiau a pha gamau y gall Prifysgolion eu cymryd i gyfyngu ar yr effaith ar brofiad myfyrwyr: 

Hyblygrwydd

Dylai'r Brifysgol weithredu'n hyblyg os yw amgylchiadau myfyriwr yn atal neu'n ei gwneud yn anodd trosglwyddo i gampws mewn lleoliad gwahanol. Dylai prifysgolion roi cymorth i fyfyrwyr gyda'r nod cyffredinol o osgoi tarfu ar astudiaethau.

Cyfathrebu a Thryloywder

Dylai'r Brifysgol ddarparu mynediad at wybodaeth berthnasol fel y gall myfyrwyr wneud penderfyniad gwybodus am eu cwrs. Dylai’r Brifysgol roi terfynau amser clir a rhesymol ar gyfer pryd y bydd cyrsiau’n trosglwyddo i gampws mewn lleoliad gwahanol yn ystod y flwyddyn, unrhyw gyfyngiadau neu amodau sy’n ymwneud â throsglwyddo – er enghraifft, goblygiadau ynghylch ffioedd dysgu. 

Mecanweithiau Cefnogaeth

Dylai'r Brifysgol sicrhau bod cymorth llesiant ar gael i fyfyrwyr wrth wneud penderfyniadau ynghylch trosglwyddo cwrs i gampws gwahanol. Dylai'r Brifysgol gyfeirio myfyrwyr at ragor o gymorth a chyngor pan fo penderfyniadau'n ymwneud ag amgylchiadau cymhleth, megis gofynion fisa yn achos myfyrwyr rhyngwladol.

Opsiynau Ymadael ac Iawndal

Dylai'r Brifysgol sicrhau bod gan fyfyrwyr yr hawl i iawndal a dyfarniadau amgen (e.e. dyfarniadau ymadael) os na allant barhau â'u hastudiaethau yn sgil trosglwyddo i gampws gwahanol. Dylai'r Brifysgol hefyd sicrhau bod gan fyfyrwyr yr hawl i broses gwyno effeithiol. 

Pa gefnogaeth fydd y Brifysgol yn ei chynnig i fyfyrwyr sy'n dymuno parhau, ond sydd angen cefnogaeth ac arweiniad pellach?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch trosglwyddo i gampws Caerfyrddin, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr a/neu Diwtor eich Cwrs. Bydd y Brifysgol hefyd yn postio Cwestiynau Cyffredin ynghylch symud ar HWB y Myfyrwyr. Mae yna hefyd fewnflwch sydd wedi'i sefydlu i gefnogi myfyrwyr gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â symud: questions@uwtsd.ac.uk. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal ymweliadau pontio â Chaerfyrddin i helpu â chynorthwyo myfyrwyr i ymgyfarwyddo â’r campws a'r cyfleusterau sydd ar gael. 

Beth os ydw i am drosglwyddo i sefydliad gwahanol?

Cyn i chi ystyried trosglwyddo i sefydliad gwahanol, sicrhewch eich bod wedi cysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr i drafod eich pryderon yn y lle cyntaf. Os ydych yn dal yn dymuno trosglwyddo i sefydliad gwahanol, bydd yna rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried. Er enghraifft, ffioedd dysgu, cymhwyster ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y dyfodol ac a fyddwch yn gymwys ar gyfer dyfarniad ymadael. Byddem yn eich annog os ydych yn dymuno trosglwyddo i sefydliad gwahanol, eich bod yn cwblhau eich blwyddyn astudio bresennol i gyfyngu cymaint â phosibl ar yr effeithiau hyn. Mae gan y Brifysgol broses sydd wedi'i hen sefydlu ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno trosglwyddo i Brifysgol arall, ac anogir myfyrwyr i gysylltu â'u Tiwtor Cwrs am arweiniad pellach.

Sut mae cyflwyno cwyn a beth yw'r broses?

Cyn i chi ystyried cyflwyno cwyn ffurfiol, sicrhewch eich bod eisoes wedi cysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr i drafod eich pryderon, oherwydd efallai y bydd modd osgoi cwyn a datrys y mater yn y fan a’r lle. Fel rhan o'ch cwyn, bydd yn rhaid i chi hefyd esbonio'r camau a gymerwyd gennych i ddatrys y mater yn anffurfiol, felly mae'n bwysig eich bod yn manteisio ar yr cymorth sydd ar gael gan y Brifysgol. 

I gyflwyno cwyn, gallwch gwblhau'r ffurflen gwyno SC08.  Gallwch gysylltu â Chyngor Undeb y Myfyrwyr am ragor o gymorth ac arweiniad ynghylch cwblhau’r ffurflen gwyno SC08. Gallai hyn gynnwys esbonio’r ffurflen, dadansoddi Polisïau a allai fod yn ddefnyddiol i chi, a phrawfddarllen y ffurflen gwyno. 

Unwaith y byddwch wedi anfon eich ffurflen gwyno gyda'r dystiolaeth, dylech dderbyn e-bost cydnabyddiaeth gan y Swyddfa Academaidd o fewn 5 diwrnod. Neilltuir Swyddog Achos i'ch cwyn, a fydd yn ymchwilio i'ch cwyn. Dylid anfon canlyniad y gŵyn atoch trwy e-bost ddim hwyrach na 40 diwrnod o'r e-bost cydnabyddiaeth. Os na chaiff eich cwyn ei chadarnhau, efallai y byddwch yn gallu cyflwyno cais am Adolygiad o Ganlyniad, sef y cam olaf yng ngweithdrefnau mewnol y Brifysgol.

Os byddaf yn cyflwyno cwyn, a fydd hyn yn newid penderfyniad cyffredinol y Brifysgol i symud Rhaglenni o Lambed i Gaerfyrddin?

Na fydd - pwrpas y gŵyn fydd mynd i'r afael ag effaith y penderfyniad ar eich amgylchiadau unigol a sut rydych chi am i'r Brifysgol liniaru hyn.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi fod trwy weithdrefn gwyno fewnol y Brifysgol?

Os na chaiff eich cwyn ei chadarnhau, naill ai yn ystod y cam cychwynnol neu'r cam Adolygu Canlyniad, efallai y byddwch am gyflwyno cwyn i SDA. Gallwch gysylltu â’n tîm Cynghori am ragor o gymorth ar gyfer hyn trwy e-bostio unionadvice@uwtsd.ac.uk neu gwblhau ein ffurflen cyngor.  

Adnoddau Defnyddiol

Nodyn Briffio Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar Gau Cwrs, Campws neu Ddarparydd
Siarter Myfyrwyr PCyDDS
Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987
Canllawiau Diwygiedig Siarter Myfyrwyr CCAUC 2022
Canllawiau Cyngor Undeb y Myfyrwyr ar Bryderon a Chwynion
WONKHE: Gwirionedd trosglwyddo myfyrwyr
WONKHE: A yw myfyrwyr yn cael eu hamddiffyn rhag toriadau a chau cyrsiau?
 

Categorïau:

Future of Lampeter

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...