Mae bod yn Ymddiriedolwr elusen yn gyfle prin i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae'n edrych yn drawiadol iawn ar eich CV. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn dîm o bobl dalentog sy’n darparu arweinyddiaeth, yn cyfrannu eu sgiliau, yn gwneud penderfyniadau lefel uchel, ac yn sicrhau bod yr hyn a wnawn yn gyfreithlon ac er budd gorau ein myfyrwyr
Ydych chi'n barod i gael effaith wirioneddol ar eich profiad prifysgol? Rydym yn awyddus i benodi dau fyfyriwr angerddol i’n Bwrdd fel Myfyrwyr Ymddiriedolwyr rhwng Mehefin 2025 a Mehefin 2026. Fel Myfyriwr Ymddiriedolwr, byddwch yn dod â syniadau ffres a phersbectif unigryw. A byddwch chi’n derbyn hyfforddiant o'r radd flaenaf ac yn ennill profiad gwerthfawr a fydd yn disgleirio ar eich CV ac mewn cyfweliadau am swyddi yn y dyfodol.
Beth mae Ymddiriedolwr yn ei wneud Fel Ymddiriedolwr, bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd is-bwyllgorau yn ystod y flwyddyn academaidd - gallwch fynychu rhai o'r rhain yn ddigidol. Os oes angen i chi deithio i fod yn bresennol mewn cyfarfod wyneb-yn-wyneb, bydd yr undeb yn talu eich costau teithio.
Mae gwneud cais yn hawdd; gwneir y cyfan gyda'n ffurflen gais ar-lein. Cofiwch, mae yna gyfrifoldebau cyfreithiol a gofynion o ran cymhwyster yn perthyn i fod yn Ymddiriedolwr - mae'r rhain wedi'u hamlinellu yn y Pecyn Cais ar gyfer Ymddiriedolwyr - gwnewch yn siŵr eich bod yn ei lawrlwytho a'i ddarllen. Mae ceisiadau’n cau am 15:00 dydd Gwener, 9 Mai 2025 - pob lwc!
Pecyn Cais ar gyfer Ymddiriedolwyr