Mae Natalie, Llywydd Campws Abertawe, wedi bod yn brysur yn gweithio gyda chi i gasglu gwybodaeth am sut mae'r Argyfwng Costau Byw yn effeithio arnoch chi a'ch amser yn y brifysgol. Bu nifer o arolygon, stondinau dros-dro a mynd ati i ateb eich cwestiynau, i gyd ag un nod – i helpu â gwella eich profiad fel myfyriwr.
Y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cynhaliodd Natalie gyfres o stondinau dros-dro a holiaduron yn gofyn beth oeddech chi eisiau ei weld yn eich ardaloedd myfyrwyr ar y campws. Trwy'r arolygon hyn, roedd hi'n gallu gweld bod gofyn am fwy o eitemau fel ffyrnau microdon a thegellau ar y campws, a fyddai'n caniatáu i chi baratoi bwyd a diodydd poeth yn ôl y galw, gan helpu i wneud eich profiad myfyriwr yn fwy fforddiadwy.
Ar ôl gweld faint o bobl oedd yn ei chael yn anodd ymdopi â Chostau Byw, penderfynais wneud hwn yn un o fy mhrif amcanion ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
- Natalie Beard, Swansea Campus President
Mae Natalie, Undeb y Myfyrwyr a thîm y Brifysgol wedi gweithio gyda'i gilydd i ddarparu nifer o orsafoedd ar eich Campysau yn Abertawe lle byddwch yn gallu cael mynediad i ffyrnau microdon a thegellau, waeth pa adeg o’r dydd y byddwch chi ar y campws.
Bellach mae tegellau a ffyrnau microdon yn y mannau canlynol ar y campws:
Campws Busnes Abertawe
Caffi 3ydd Llawr, microdon a ddarparwyd gan y Brifysgol a thegell wedi'i ychwanegu gan Undeb y Myfyrwyr
Campws Dinefwr
Caffi 3ydd Llawr, microdon a thegell wedi’u darparu gan Undeb y Myfyrwyr
Campws IQ
Llawr Gwaelod – i'r dde o ardal Undeb y Myfyrwyr, microdon a thegell wedi’u ddarparu gan Undeb y Myfyrwyr
Llawr 1af, microdon wedi’i darparu gan y Brifysgol
2il Lawr, microdon wedi’i darparru gan y Brifysgol
Canolfan Dylan Thomas
Llawr Gwaelod, ardal Undeb y Myfyrwyr, microdon, tegell a pheiriant coffi, wedi’u darparu gan Undeb y Myfyrwyr
Gyda'r Arolwg Costau Byw, mae Natalie wedi gallu dod o hyd i feysydd allweddol o gymorth sydd ei angen. Mae eich llais yn hanfodol i helpu â lobïo am fwy o gefnogaeth gan y brifysgol a thu hwnt.
I ddweud eich dweud, llenwch ein harolwg Costau Byw
Ni ddylai unrhyw un fynd i'r dosbarth eisiau bwyd - Os ydych chi ar un o'n Campysau yng Nghymru, gallwch nawr fachu Pot Noodle neu Cup-a-Soup am ddim - ynghyd ag eitemau bwyd eraill. Gallwch gasglu'r rhain o’r hybiau bwyd ar y campws.
Mae eich hybiau bwyd yn cael eu rhedeg gan y brifysgol; os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch operations@uwtsd.ac.uk
Campws IQ
Llawr Gwaelod
Campws Dinefwr
Caffi 3ydd Llawr
Campws Busnes Abertawe
Caffi 3ydd Llawr
Mwy o leoliadau yn dod yn fuan!
Mae yna unedau Dewis a Dethol cynhyrchion mislif ar y campws; cychwynnwyd y fenter hon gan Taya Gibbons, Llywydd y Grŵp 2023/24 ac mae’n cael ei pharhau gan Natalie, gyda mwy yn cael eu hychwanegu at y campws i’w gwneud yn haws cyrchu’r hanfodion hyn.
Gallwch ddod o hyd i un o unedau Dewis a Dethol Undeb y Myfyrwyr ar draws ein holl gampysau; maent yn dangos brand Undeb y Myfyrwyr ac maent yn llawn eitemau i chi eu cymryd am ddim pan fo angen.
Mae’r canlynol ar gael ar hyn o bryd yn ein hunedau Dewis a Dethol:
condomau, tamponau, iriad, tywelion mislif
Sylwch y gall mathau o eitemau amrywio ychydig yn dibynnu ar y campws ac argaeledd.
Abertawe:
Campws Dinefwr, is-lawr gyferbyn â'r toiledau
Canolfan Dylan Thomas, Derbynfa Undeb y Myfyrwyr
Caerfyrddin:
Swyddfa Undeb y Myfyrwyr
Llambed:
Swyddfa Undeb y Myfyrwyr
Caerdydd:
Ardal Argraffu’r Myfyrwyr
Llundain:
Llawr gwaelod, gyferbyn â'r toiledau
Llawr 1af, gyferbyn â'r toiledau
Birmingham (Quay Place):
Louisa House – llawr 1af, ger cefn ystafell gyffredin y myfyrwyr
Vincent House – llawr gwaelod, gyferbyn â’r ddesg gymorth TG
Birmingham (Sparkhill):
Llawr gwaelod, tua chefn ystafell gyffredin y myfyrwyr
Fe wnaethoch chi ofyn am fwy o fannau cymdeithasol ar eich campysau yn Abertawe ac rydyn ni’n ceisio trefnu hyn ar eich cyfer. Mae Natalie ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r brifysgol i ddod o hyd i'r lle perffaith iddyn nhw ar eich campysau.
Erbyn hyn, mae yna ardal gymdeithasol ar gyfer myfyrwyr yng Nghanolfan Dylan Thomas – gyda ni yn Undeb y Myfyrwyr!
Yn yr ardal hon fe welwch chi soffa enfawr, consolau gemau (PS5 a Nintendo Wii), gemau bwrdd, ffyrnau microdon, tegellau ac oergell, ac maen nhw i gyd ar gael i chi eu defnyddio am ddim!
Sut alla i ddefnyddio'r ardal hon?
Mae'r ardal gymdeithasol hon i fyfyrwyr ar agor rhwng 09:00 - 17:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener - a gall Clybiau a Chymdeithasau archebu lle i ddefnyddio'r gofod y tu allan i'r oriau hyn trwy e-bostio ein tîm Cyfleoedd Myfyrwyr yn suopportunities@uwtsd.ac.uk