Mae Gwyliau'r Pasg bron yma ac isod mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, gan gynnwys sut i gael cymorth dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ar gau ddydd Gwener 18fed, dydd Llun 21ain, a dydd Mawrth 22ain o Ebrill.
Oherwydd y dyddiau y bydd y brifysgol ar gau a gwyliau blynyddol staff, mae ein swyddfeydd yn Birmingham, Caerdydd, Caerfyrddin ac Abertawe ar gau o ddydd Gwener 18fed Ebrill tan ddydd Llun 28ain Ebrill. Mae ein swyddfeydd yn Llambed a Llundain ar agor am lai o oriau.
Gallwch gysylltu â ni fel arfer trwy ffonio 01792 482 100 neu e-bostio union@uwtsd.ac.uk.
Mae ein Gwasanaeth Cynghori ar gael fel arfer ond efallai y bydd ymatebion yn cymryd ychydig yn hirach. Gallwch gael gafael ar lawer o gyngor defnyddiol ar ein gwefan yn www.uwtsdunion.co.uk/advice.
Gallwch gael gafael ar gymorth llesiant am ddim trwy’r Rhaglen Cymorth Myfyrwyr neu trwy ffonio 0800 028 3766.