Os oes rhywun yn mynd i'ch cynrychioli chi - oni fyddech chi eisiau dweud eich dweud o ran pwy yw'r person hwnnw? Gall pob myfyriwr bleidleisio yn ein hetholiadau myfyrwyr. A thrwy benderfynu pleidleisio, rydych chi'n helpu i ddewis y bobl sy'n eich cynrychioli chi - a'ch buddiannau - i'r UM, y brifysgol, UCM, a hyd yn oed y Llywodraeth.
Allwn ni ddim eich gorfodi i bleidleisio - ond rydym 110% yn meddwl y dylech chi. Mae'n gyflym ac yn hawdd - ac mae ein hetholiadau’n defnyddio'r system bleidleisio sengl drosglwyddadwy. Mae hyn yn golygu y gallwch raddio ymgeiswyr yn hytrach na dewis un yn unig.
Mae ein hetholiadau'n defnyddio'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Rydych chi'n rhestru ymgeiswyr yn ôl eich dewis - gallwch raddio cymaint (neu gyn lleied) o ymgeiswyr ag y dymunwch ar gyfer unrhyw rôl.
Ac os nad oes neb yn deilwng yn eich barn chi, gallwch chi ddifetha eich pleidlais neu bleidleisio i ail-agor enwebiadau (RON).
Er mwyn cael ei ethol, rhaid i ymgeisydd gyrraedd y cwota. Caiff hyn ei gyfrifo trwy gymryd cyfanswm y pleidleisiau ac yna rhannu’r ffigwr hwn â chyfanswm nifer y seddi plws un, ac ychwanegu un.
((Cyfanswm Pleidleisiau / Cyfanswm y Seddi + 1) + 1)
Cynhelir y bleidlais mewn rowndiau. Os na fydd neb yn cyrraedd y cwota yn y rownd gyntaf, caiff yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau ei fwrw allan, a rhennir eu pleidleisiau nhw rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill ar sail dewis y pleidleiswyr.
Ac mae hyn yn cael ei ailadrodd nes bod enillydd yn cael ei ddatgan.
Ar ddiwrnod cyntaf y pleidleisio, byddwn yn anfon e-bost at bawb gyda dolen bleidleisio unigryw - peidiwch â'i rhannu ag unrhyw un arall!
Gallwch hefyd bleidleisio trwy fynd i'r llwyfan pleidleisio ar-lein yn uwtsdunion.co.uk/vote a mewngofnodi gyda'ch ID myfyriwr.
E-bostiwch ni yn elections@uwtsd.ac.uk os nad ydych wedi derbyn eich dolen neu os ydych yn cael problemau technegol.
Mwynhewch y Pleidleisio.