Rydym yn sylweddoli y gall fod angen rhywfaint o gymorth arnoch ar hyd eich taith fel myfyriwr. Gall hyn fod yn gymorth ynghylch prosesau academaidd yn ogystal â chymorth gyda’ch arian a’ch llety. Mae ein cyngor am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol ac mae ein tîm wrth law i sicrhau bod gennych yr wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau gwybodus.
Gall y tîm cynghori helpu i ddarparu cymorth ac arweiniad ynghylch prosesau academaidd. Gallai hyn fod yn Apeliadau Academaidd, Camymddwyn Academaidd, Cwynion, Addasrwydd i Ymarfer, Camymddwyn Anacademaidd, Tarfu ar Astudiaethau ac Amgylchiadau Esgusodol.
Gallwn ddarparu gwybodaeth am bolisïau’r Brifysgol yn ogystal â chymorth ynghylch sut i wella’r siawns y byddwch yn cael canlyniad llwyddiannus. Mae hefyd yn bosib y bydd ein tîm cynghori’n cynnig mynychu cyfarfod gyda chi fel cefnogaeth, ond ni fyddem yn siarad ar eich rhan fel arfer.
Gall y tîm cynghori hefyd ddarparu cymorth ynghylch tai, cyllid a llesiant, yn ogystal â’ch cyfeirio at sefydliadau a allai ddarparu cymorth arbenigol pellach.
Ni fydd y tîm cynghori fel arfer yn gweithredu nac yn llenwi ffurflenni ar eich rhan. Ein rôl yw eich grymuso i allu gwneud penderfyniadau gwybodus.
Nid yw'r tîm cynghori yn rhan o unrhyw brosesau gwneud penderfyniadau ynghylch eich achos gan ein bod yn annibynnol ar y Brifysgol.
Rydym yn sylweddoli efallai na fydd gennych yr amser bob tro i estyn allan at ein tîm cynghori, felly rydym yn sicrhau bod gwybodaeth am brosesau academaidd, yn ogystal ag arweiniad ar ymholiadau ariannol a thai, ar gael yn hawdd.
Ar ein tudalen cynghori ar y we, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwahanol brosesau academaidd, gan gynnwys rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol. Rydym wedi diweddaru ein tudalennau gwe yn ddiweddar i wella hygyrchedd, felly beth am gymryd cip-olwg?
Mae dwy ffordd y gallwch gysylltu â’r tîm cynghori, sef:
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl i'r Tîm Cynghori. Gan ein bod yn annibynnol, nid oes gennym fynediad at eich cofnod myfyriwr yn y brifysgol. Felly, wrth gysylltu â ni mae'n bwysig eich bod yn cynnwys:
Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm cynghori gan ddefnyddio'r dulliau uchod. Mae hyn yn ein helpu i ddeall eich sefyllfa yn llawn fel y gallwn ddarparu'r cymorth cywir.
Os bydd angen apwyntiad arnoch, bydd y tîm cynghori yn penderfynu ar y ffordd orau o gynnig cymorth i chi yn y maes hwn. Gallai hyn fod yn apwyntiad dros y ffôn, apwyntiad trwy Microsoft Teams neu'n amodol ar argaeledd, apwyntiad wyneb-yn-wyneb.
Alice, Sophie a Sydney yw'r wynebau cyfeillgar yn y tîm cynghori.
Alice McGovern
Wedi’i lleoli ar Gampws Abertawe
“Rwy’n hoffi meddwl mai Cynghorwyr Myfyrwyr yw’r dadansoddwyr gorau o ran polisïau academaidd. Mae gennym y gallu a'r lle i ddadansoddi polisïau academaidd ar gyfer achosion myfyrwyr; didoli unrhyw gymalau dryslyd nad ydynt yn berthnasol a chyflwyno’r pethau sy’n berthnasol i’w sefyllfa nhw.”
Ffeithiau difyr:
Hoff gân - HandClap - Fitz and The Tantrums
Hoff ffilm - Coraline
Sophie Kitsell
Wedi’i lleoli ar Gampws Birmingham
“Rhan fawr o’n rôl yw cyfarfod â myfyrwyr a deall yr heriau y gallant eu hwynebu ar hyd eu taith academaidd; rwy’n mwynhau hyn yn fawr oherwydd mae’n rhoi gwell darlun i mi o ran yr hyn y gallwn ei wneud i wella’r gefnogaeth a’r cyngor a roddwn. Rhwng Ionawr 2024 a Rhagfyr 2024, rhoddwyd cyngor i 903 o fyfyrwyr, ac mae’n bwysig i ni, wrth i’n hachosion myfyrwyr gynyddu, ein bod yn sicrhau bod ein gwasanaeth yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn fuddiol i’n myfyrwyr.”
Ffeithiau difyr:
Hoff gân - Pink Pony Club – Chappell Roan
Hoff ffilm - A.I. Artificial Intelligence
Sydney Radford
Wedi lleoli ar Gampws Llundain
“Fel cynghorydd myfyrwyr, rwy’n mwynhau’r cyfle i arwain a chynnig cymorth i fyfyrwyr yn eu twf academaidd a phersonol. Mae’n werth chweil eu helpu i lywio heriau, gosod nodau, a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n ffurfio eu dyfodol.”
Ffeithiau difyr:
Hoff gân - Just a Dance - Alfie Templeman
Hoff Ffilm - Love Sarah