Breuddwyd Nos Gŵyl Ifan Dawns yr Haf 2025

  • Website event thumbnail lampeter summer 2025

Breuddwyd Nos Gŵyl Ifan Dawns yr Haf 2025

Dewch i mewn i'n Breuddwyd Noson Gŵyl Ifan ar nos Wener 9fed Mai yn Ystafell Lloyd Thomas, Llambed

Camwch i mewn i freuddwyd coetir hudol Shakespeare lle mae goleuadau tylwyth teg yn pefrio ymhlith blodau ethereal ac ambell goblyn direidus yn llechu mewn corneli.

Dim ond £10 yr un yw'r tocynnau. Sicrhewch eich lle yn ein teyrnas freuddwydiol cyn i'r swyn chwalu ddydd Gwener 2il.

✨ Mwynhewch yr Hyfrydwch Hudolus ✨

  • Gwledd addas i Theseus a Hippolyta (pryd 3-gwrs cain)
  • Diod Puck o’ch dewis (gwydraid o Prosecco neu ddewis di-alcohol am ddim)
  • Mynnwch lun o’ch trawsnewidiad yn ein Bwth tynnu-lluniau hud a lledrith
  • Mae angen gwisg ffurfiol - gwisgwch eich dillad llys Athenaidd neu'ch gwisgoedd tylwyth teg gorau!

Rhialtwch y Nos

  • 17:30: Cyrraedd ein llys Athenaidd (Ystafell Lloyd Thomas) - gweini diodydd croeso
  • 18:00: Y wledd yn dechrau - Bwytewch fel y Dug a'r Dduges
  • 21:00: Tafarn y coetir tylwyth teg yn agor (Bar yr UM) - Dawnsiwch drwy'r nos tan doriad gwawr

Gwledd y Tylwyth Teg

Mwynhewch ddanteithion sy'n deilwng o gymeradwyaeth y Frenhines Titania, gydag opsiynau hudolus ar gael wrth ein bwrdd gwledda.

I ddechrau

  • Cawl Tatws a Chennin (Llysieuol)
  • Cawl Fegan (Fegan)

Wedi’u gweini gyda rhôl fara

Prif gwrs

  • Brest cyw-iâr wedi’i ffrio mewn padell gyda grefi teim
  • Cig Eidion Bourguignon
  • Parsel llysiau wedi’u rhostio a saws tomato (Fegan)

Wedi’u gweini gyda thatws newydd a llysiau

Pwdin

  • Teisen Cyffug Siocled a hufen Chantilly (Llysieuol)
  • Teisen-gaws Mefus (Llysieuol)
  • Teisen-gaws Fegan (Fegan)

Sylwch nad yw'r lleoliad yn Ddi-gnau.

Eich Gwahoddiad i Deyrnas y Tylwyth Teg

Dim ond £10 yr un yw'r tocynnau. Sicrhewch eich lle yn ein teyrnas freuddwydiol cyn i'r swyn chwalu ddydd Gwener 2il.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Lloyd Thomas Room / Old Bar & Xtension

Math: Llambed, Dathliadau’r Haf

Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 09-05-2025 - 18:00

Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 10-05-2025 - 02:00

Nifer y lleoedd: 60

Manylion cyswllt

Students Union

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau