Rhowch Gynnig Arni: Sioe Gerdd Chicago

  • Chicago thumbnail

Rhowch Gynnig Arni: Sioe Gerdd Chicago

Ymunwch â ni ar daith i Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd i weld Taith y DU o Chicago! Mae Chicago yn gipolwg cyffrous a dychanol ar enwogrwydd, cyfiawnder, a’r peiriant cyfryngol. Mae’r sioe, sydd wedi'i gosod yn Chicago yn y 1920au ac yn seiliedig ar lofruddiaethau ac achosion llys go iawn, yn dilyn Roxie Hart a charchar Cook County.

Byddwn yn trefnu teithio yno ac yn ôl, naill ai o Gampws Caerfyrddin neu Dŷ Haywood Caerdydd; byddwn yn cadarnhau cynlluniau teithio gyda chi yn nes at yr amser.

Hygyrchedd:

  • Mae’r tocynnau ar gyfer Cylch Uchaf Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae lifft yn y brif ganolfan i gyrraedd y Cylch Uchaf.
  • Efallai y bydd goleuadau'n fflachio a synau uchel trwy gydol y perfformiad.
  • Dewch â'ch lluniaeth eich hun gan nad ydynt yn cael eu darparu.
  • Bydd y sioe hefyd yn agored i aelodau'r cyhoedd.

Sylwch: Nid yw'r tocyn a brynwyd trwy wefan UM yn rhoi mynediad i chi i Ganolfan Mileniwm Cymru. Bydd aelod o staff yn cwrdd â chi naill ai ar Gampws Caerfyrddin neu Gampws Caerdydd gyda'ch tocynnau.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Wales Millenium Centre

Math: Caerdydd, Caerfyrddin, Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Caerdydd , Rhowch Gynnig Arni Caerfyrddin

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 08-05-2025 - 16:15

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 08-05-2025 - 23:00

Nifer y lleoedd: 45

Manylion cyswllt

SU Opportunities

SUOpportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau