Y Gymdeithas Berfformio’n Cyflwyno - Karaoke o'r Sioeau Cerdd!

  • Karaoke night y lloftt thumbnail

Y Gymdeithas Berfformio’n Cyflwyno - Karaoke o'r Sioeau Cerdd!

Paratowch i ganu gyda'r Gymdeithas Berfformio wrth iddynt gynnal Karaoke o'r Sioeau Cerdd!

Bydd y sbotolau ar eich hoff ganeuon o sioeau cerdd, traciau sain o ffilmiau eiconig, a chaneuon bythgofiadwy eraill! P'un a ydych chi'n ffan o sioeau cerdd neu'n hoff o berfformio’r caneuon, dyma'r cyfle perffaith i arddangos eich dawn a chael llwyth o hwyl gyda ffrindiau.
 

Pryd a ble

Nos Lun 28ain Ebrill. Drysau'n agor o 21:00 yn Y Llofft, Caerfyrddin. Mae’r digwyddiad hwn am ddim, a does dim angen archebu tocynnau - dewch draw.

Gwybodaeth Hygyrchedd

Trosolw: cynhelir y digwyddiad hwn ar lawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr. Mae lloriau gwastad ar y rhan fwyaf o’r llawr gwaelod, ond mae yna rai mannau y gallwch gael mynediad iddynt trwy ddefnyddio ramp. Gellir cyrraedd y llawr cyntaf gan ddefnyddio grisiau neu lifft, ac mae yna loriau gwastad drwyddo draw.
Parcio: mae mannau parcio ar y safle i fyfyrwyr, gan gynnwys mannau parcio dynodedig ar gyfer pobl ag anableddau.
Mynedfa: mae mynediad i'r adeilad trwy ddrysau awtomatig sy'n gweithio gyda phanel cyffwrdd.
Goleuo: mae'r adeilad wedi'i oleuo'n dda drwyddo draw ac mae yna lawer o ffenestri a golau naturiol yn y brif ystafell.
Sain: mae hwn yn ddigwyddiad cerddoriaeth fyw, a gall fod yn eithaf swnllyd.
Lifftiau a Grisiau: gallwch gael mynediad i'r llawr cyntaf trwy risiau neu lifft.
Toiledau: mae'r toiledau wedi eu lleoli ar y llawr gwaelod.

 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Y Llofft, Students' Union Building, Carmarthen

Math: Caerfyrddin, Clwbiau a Cymdeithasau Caerfyrddin, Y Clwb a Y Llofft

Dyddiad dechrau: Dydd Llun 28-04-2025 - 21:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 29-04-2025 - 01:00

Manylion cyswllt

Undeb Myfyrwyr

union@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau