Mae angen staff bar i ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon. Cyflawni archebion yn gywir, gyda chwrteisi, yn unol â'n safonau mewnol a'r rhai sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.
Cyflog: £11.44 yr awr
Lleoliad: Campws Llambed
Rheolwr Llinell: Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant
Cyfrifoldebau a Dyletswyddau
- Cyrraedd y gwaith yn brydlon gan wisgo dillad priodol neu lifrai swyddogol yn ôl y galw.
- Gweini ystod o ddiodydd, gan gynnwys alcohol, i fyfyrwyr
- Cymryd taliadau'n gywir ar gyfer diodydd / byrbrydau a werthir
- Sicrhau y cedwir at bolisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch drwy'r amser
- Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth ac amodau trwyddedu a chwblhau cofnodion, systemau archwilio ac ariannol angenrheidiol, gan roi gwybod i Reolwr y Bar am unrhyw bryderon heb oedi.
- Cydymffurfio â chôd ymddygiad Undeb y Myfyrwyr a chanllawiau llawlyfr y staff
- Sicrhau bod pob gofal rhesymol yn cael ei gymryd o ran eich iechyd a diogelwch eich hun, gweithiwyr eraill, gwesteion a phobl eraill sydd yn yr adeilad.
- Sicrhau y caiff delwedd addas ei chyflwyno i'r cwsmeriaid, gan gadw at holl bolisïau Undeb y Myfyrwyr a'u hyrwyddo.
- Adrodd am unrhyw ddamwain neu niwed a, lle bo'n bosibl, gweithredu arnynt.
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol drwy'r amser
- Sicrhau bod yr holl ddrysau tân ar gau a bod yr holl lwybrau tân yn cael eu cadw'n glir drwy'r amser.
- Cynorthwyo â rhedeg y bar mewn lleoliadau eraill yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol fel bo angen.
- Hyrwyddo a hysbysebu gweithgareddau a chynnyrch gwasanaethau'r bar yn effeithiol
- Mynychu unrhyw hyfforddiant y cewch eich cyfeirio ato gan eich rheolwr
- Mynychu cyfarfodydd/sesiynau hyfforddi fel bo angen.
- Ymgymryd ag unrhyw gais rhesymol arall a wneir gan y Tîm Rheoli.
- Gall deilydd y rôl ddisgwyl gweithio mewn sawl digwyddiad i'r Brifysgol fel rhan o'r rôl hon, er mwyn gwella'r ysbryd partneriaeth sy’n bodoli rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.
Cyffredinol
- Parchu strwythur democrataidd Undeb y Myfyrwyr drwy'r amser a chynnal persona proffesiynol yn y gwaith ac ar gyfryngau cymdeithasol fel llysgennad yr Undeb.
- Sicrhau y caiff delwedd gadarnhaol o Undeb y Myfyrwyr ei chyflwyno, yn fewnol ac yn allanol, trwy ddangos safon uchel o broffesiynoldeb, parch, ymddygiad a gwasanaeth.
- Nid yw'r swydd-ddisgrifiad hwn yn rhestr holl-gynhwysfawr, nid yw'n ffurfio unrhyw ran o gytundeb cyflogaeth a chaiff ei adolygu'n flynyddol.