Ymddiriedolwr Allanol
Mae Katie yn ymuno â ni o Arup lle mae hi wedi gweithio mewn nifer o rolau yn y tîm Global People fel arweinydd Busnes AD.
Cyn Arup, Katie oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Ewropeaidd ar gyfer Pembroke Real Estate a Phennaeth Adnoddau Dynol yn Buro Happold gan arwain timau yn y Dwyrain Canol, India ac Asia a thimau Gwasanaethau Busnes Byd-eang.
Gydag 20 mlynedd o brofiad ym maes Adnoddau Dynol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a’r 9 mlynedd diwethaf mewn gwasanaethau proffesiynol, mae Katie wrth ei bodd yn ymuno fel ymddiriedolwr Pobl a Diwylliant ac yn edrych ymlaen at ymuno â’r bwrdd, yn enwedig o ystyried ei bod wedi bod yn fyfyriwr yng Nghymru ac yn awyddus i rannu ei phrofiad gwaith gydag UM PCyDDS.
Yn ei hamser hamdden, mae Katie’n mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau, yn enwedig os yw’n cynnwys taith gerdded lawog ar hyd arfordir Penrhyn Gŵyr gyda’i sbaengi Sweep, ond mae hefyd yn hoff o ddianc i wledydd â thywydd mwy heulog pan fo hynny’n bosibl!