Llywydd Campws Abertawe

Portrait photograph on a sunny day, the person is in focus and the tree in the background are blurry

Natalie Beard

Llywydd Campws Abertawe

Natalie yw Llywydd Campws Abertawe ar gyfer 2024-25. Caiff ein Llywyddion i gyd eu hethol gan fyfyrwyr; maen nhw’n arwain ein gwaith (o brosiectau ac ymgyrchoedd i weithgareddau a digwyddiadau), ac maen nhw’n cynrychioli myfyriwr i’r Brifysgol. Mae Natalie wedi’i lleoli ar ein campws yn Abertawe. 

Am Natalie

Helo, Natalie ydw i (neu Nat). Astudiais Reoli Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ar gyfer fy ngradd israddedig, ac yna cwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes, y naill a’r llall yma yn PCyDDS.

Ar ôl cwblhau’r ddwy radd, doeddwn i ddim eisiau gadael gan fy mod yn caru Abertawe a bod yn rhan o gymuned PCyDDS. Rwyf bellach yn fy ail flwyddyn fel Llywydd Campws, sy’n golygu mai hon fydd fy mlwyddyn academaidd olaf yn y swydd, gan mai dim ond dwywaith y gellir ailethol swyddog sabothol yn yr un Undeb Myfyrwyr.

Fy mhrif flaenoriaeth eleni fydd sicrhau bod myfyrwyr PCyDDS yn cael y profiad gorau posibl wrth astudio. Boed hynny’n mynychu digwyddiadau’r UM neu’n cael mynediad at gymorth llesiant – fy nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac nad ydynt byth yn teimlo’n unig yn eu brwydrau. Mae’n bwysig i mi fod myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel yn y brifysgol, boed hynny’n ddiogel yn gorfforol, yn ariannol neu’n emosiynol – eich iechyd, diogelwch a hapusrwydd ddylai ddod yn gyntaf bob amser! Yn fy amser hamdden, rwy'n hoffi yfed coffi ger y traeth gyda ffrindiau, chwarae gemau cyfrifiadurol a gwylio chwaraeon fel F1 ac NFL. Cyn mynd i’r brifysgol bûm yn trefnu digwyddiadau am dros ddegawd, gan weithio ar lwyfannau digwyddiadau a gwyliau cerddoriaeth gan gynnwys hyb gwylwyr Tour de France, digwyddiad chwaraeon awyr agored Cliffhanger a gŵyl gerddoriaeth Tramlines.

Rwy'n dod o Sheffield yn wreiddiol ond wedi bod yn byw yn Abertawe ers 6 mlynedd bellach. Hoffwn feddwl fy mod wedi colli rhywfaint o fy acen Swydd Efrog ac wedi codi rhywfaint o dafodiaith Abertawe, ond peidiwch â gofyn i mi ddweud coast, host neu toast neu mae peryg y bydd fy ngwreiddiau yn Swydd Efrog yn dod i’r amlwg!

Roeddwn i’n fyfyriwr hŷn pan ddechreuais yma yn PCyDDS ac wrth i mi wneud ffrindiau a gweithio ochr-yn-ochr â myfyrwyr o bob oed a chefndir, rwy’n meddwl fy mod wedi meithrin dealltwriaeth dda o anghenion myfyrwyr. Fodd bynnag, rydw i bob amser yn hapus i wrando a meithrin gwell dealltwriaeth. Rwy'n barod iawn i ddysgu o hyd, ac nid yw bod yn swyddog sabothol ail-flwyddyn yn golygu bod gennyf yr holl atebion, ond byddaf yn ceisio fy ngorau i’ch cyfeirio at y bobl a all eich helpu!

Am Y Rol

Ein Llywyddion (Swyddogion Sabothol) sy’n arwain yr Undeb o ddydd i ddydd. Mae gennym bedair swydd - 1 x Llywydd y Grŵp sy'n agored i bob myfyriwr, a 3 x Llywydd Campws sy’n agored i fyfyrwyr Abertawe, Llambed, a Chaerfyrddin. Dylech sefyll ar gyfer y swyddi hyn os oes gennych chi syniadau a brwdfrydedd, a’ch bod yn barod i ymgymryd â chynrychiolaeth myfyrwyr fel swydd lawn-amser am flwyddyn.

Gyda'i gilydd, mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad i dîm staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Ystyrir y Swyddogion Sabothol yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr gan y Brifysgol ac maent yn cyflwyno syniadau, problemau a barn myfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau trwy gymryd rhan mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau o fewn y Brifysgol.

Y Swyddogion Sabothol sy’n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnyn nhw, a gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gwybod beth yw pwrpas eu Hundeb, a sut y gallant gysylltu. Mae’r Swyddogion Sabothol yn gwasanaethu'n awtomatig fel ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeiswyr ddarllen yr adran Myfyrwyr Ymddiriedolwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys.