Rhobyn yw Llywydd Campws Llambed ar gyfer 2024-25. Caiff ein Llywyddion i gyd eu hethol gan fyfyrwyr; maen nhw’n arwain ein gwaith (o brosiectau ac ymgyrchoedd i weithgareddau a digwyddiadau), ac maen nhw’n cynrychioli myfyriwr i’r Brifysgol. Mae Rhobyn wedi’i lleoli ar ein campws yn Llambed.
Am Rhobyn
Helo bawb, fy enw i yw Rhobyn Grant, a fi yw Llywydd Campws Llambed ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-25! Mae gen i BA mewn Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang, ac rwy'n wirioneddol angerddol am helpu eraill a chreu effaith gadarnhaol.
Mae fy amser yn y brifysgol wedi bod yn daith anhygoel, yn llawn profiadau cofiadwy sydd wedi llunio pwy ydw i heddiw. Un o fy hoff atgofion oedd crwydro’r farchnad ar ddydd Sadwrn yn Llambed, lle cefais gyfle i gwrdd â ffermwyr a chrefftwyr lleol, cefnogi busnesau bach, a chael gwir ymdeimlad o gymuned. Mae'n ffordd wych o ymlacio a chysylltu ag eraill, ac rwy'n annog myfyrwyr newydd i wneud y gorau o'r cyfleoedd lleol hyn.
Wrth i mi edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, rwy'n teimlo’n gyffrous wrth ganolbwyntio ar wella gwasanaethau iechyd meddwl ar y campws, gan sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Byddaf hefyd yn mynd ati i roi rhaglenni ar waith i ddileu camwahaniaethu a hyrwyddo amrywioldeb, ac rwy'n ymroddedig i fod yn llais dros safbwyntiau heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes datblygu'r cwricwlwm.
Mae’n anrhydedd bod yn y rôl hon, ac rwy’n edrych ymlaen at gael eich gwasanaethu chi i gyd wrth helpu i greu profiad myfyrwyr hwyliog ac effeithiol yn PCyDDS!
Am Y Rol
Ein Llywyddion (Swyddogion Sabothol) sy’n arwain yr Undeb o ddydd i ddydd. Mae gennym bedair swydd - 1 x Llywydd y Grŵp sy'n agored i bob myfyriwr, a 3 x Llywydd Campws sy’n agored i fyfyrwyr Abertawe, Llambed, a Chaerfyrddin. Dylech sefyll ar gyfer y swyddi hyn os oes gennych chi syniadau a brwdfrydedd, a’ch bod yn barod i ymgymryd â chynrychiolaeth myfyrwyr fel swydd lawn-amser am flwyddyn.
Gyda'i gilydd, mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad i dîm staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Ystyrir y Swyddogion Sabothol yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr gan y Brifysgol ac maent yn cyflwyno syniadau, problemau a barn myfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau trwy gymryd rhan mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau o fewn y Brifysgol.
Y Swyddogion Sabothol sy’n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnyn nhw, a gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gwybod beth yw pwrpas eu Hundeb, a sut y gallant gysylltu. Mae’r Swyddogion Sabothol yn gwasanaethu'n awtomatig fel ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeiswyr ddarllen yr adran Myfyrwyr Ymddiriedolwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys.